Neidio i'r prif gynnwy

Yn sicrhau bod pryderon y sectorau amaethyddiaeth a’r amgylchedd yn cael eu hystyried.  

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Gorffennaf 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Gan bod amaethyddiaeth, yr amgylchedd a’r sector morol/pysgodfeydd wedi’u datganoli’n llawn, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet wrth y Gweinidog na ddylai Brexit olygu ein bod yn colli cyfrifoldebau sydd wedi’u datganoli.  Gweinidogion Cymru fydd i benderfynu sut y mae polisïau yn y meysydd hyn yn datblygu yn y dyfodol er lles Cymru.


Bu Ysgrifennydd y Cabinet yn ceisio sicrwydd dros ddyfodol cyllid amaethyddol yng Nghymru, sy’n elwa ar hyn o bryd o dros £200 miliwn o gyllid yr UE bob blwyddyn, a mynegodd eto pa mor bwysig oedd bod busnesau gwledig a chynhyrchwyr bwyd a diod yn parhau i gael mynediad i’r farchnad sengl.    


Pwysleisiodd Lesley Griffiths hefyd bwysigrwydd tegwch i bawb wrth sicrhau fod diwydiant bwyd a diod Cymru yn parhau i fod yn gystadleuol, gan bwysleisio fod yn rhaid i ddeddfau presennol yr UE o ran diogelwch bwyd a diod gael eu hail-greu yng Nghymru i sicrhau bod enw da y diwydiant yn y maes hwn hefyd yn cael ei ddiogelu.   


Mae portffolio yr Amgylchedd a Materion Gwledig wedi ei ddatganoli bron yn gyfan-gwbl.  Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet wrth y Gweinidog na ddylai Brexit olygu colli cyfrifoldeb sydd wedi’i ddatganoli wrth i bolisïau newydd gael eu paratoi ac i gyfrifoldebau gael eu hail-ddosbarthu.   


Yn dilyn y cyfarfod, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet: 


“Roeddwn yn falch o gyfarfod â George Eustice yn y Sioe Frenhinol heddiw.  Roedd yn gyfle da i drafod y problemau sy’n wynebu’r sectorau amaethyddiaeth a’r amgylchedd ar hyn o bryd, gyda Brexit wrth gwrs yn brif bwynt trafod. 


“Yn ystod wythnos hynod gynhyrchiol, rwyf wedi cyfarfod llawer o bobl o gefn gwlad Cymru, gan gynnwys ffemrwyr, cynhyrchwyr bwyd a diod a chynrychiolwyr grwpiau amgylcheddol.  Rwy’n benderfynol bod eu safbwyntiau a’u pryderon yn dod yn hysbys ac yn cael eu hystyried yn ystod y trafodaethau wrth i Brydain dynnu allan o’r UE.  

“Mae Prif Weinidog Cymru wedi ei wneud yn glir eisoes i Brif Weinidog y DU na ddylai Gymru golli allan yn ariannol yn dilyn Brexit.  Rhoddodd Prif Weinidog y DU sicrwydd iddo y byddai Llywodraeth Cymru yn rhan bwysig o’r broses o drafod telerau wrth dynnu allan o’r UE.  Bydd sicrhau perthynas fasnachu yn y dyfodol yn hanfodol os yw ein sectorau amaethyddiaeth a’r amgylchedd i oroesi yn yr hirdymor.  Dywedais hyn unwaith eto wrth Weinidog Ffermio y DU a byddaf yn ysgrifennu ato eto ar y mater hwn yn y dyfodol agos.

Ar gael mynediad i’r Farchnad Sengl Ewropeaidd, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:  

“Mae Cymru yn wlad sy’n edrych allan i’r byd.  Mae ein cynnyrch o safon fyd-eang ac mae gennym yr hyder i ddatblygu cyfleoedd newydd ledled y byd.  Ni allwn anwybyddu’r ffaith, fodd bynnag, o’r holl fwyd a diod yr ydym yn ei allforio, bod 90% ohono yn mynd i’r UE.  Dyna pam ein bod yn bendant ei fod yn hollol hanfodol fod Prydain yn trafod i gadw mynediad at y 500 miliwn o gwsmeriaid yn y Farchnad Sengl.