Neidio i'r prif gynnwy

Bydd Brexit heb gytundeb yn drychinebus ac yn peryglu swyddi, buddsoddiadau a bywoliaeth yng Nghymru. Heddiw, bydd Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn galw ar Brif Weinidog nesaf y DU i'w osgoi ar unwaith.

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Gorffennaf 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Wrth siarad ar ail ddiwrnod Sioe Frenhinol Cymru, a'r diwrnod y bydd Prif Weinidog newydd y DU yn cael ei gyhoeddi, mae Eluned Morgan, y Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol a Jeremy Miles, y Gweinidog Brexit wedi rhybuddio na fydd Brexit heb gytundeb o les cenedlaethol y DU.

Gwnaethant hefyd rybuddio y byddai Brexit heb gytundeb yn dinistrio ffermio yng Nghymru. Mae'r sector wedi hen sefydlu cysylltiadau allforio da gyda gwledydd y DU ac mae'n allforio llawer iawn o gynhyrchion Cymreig i'r gwledydd hynny. Byddai tariffau ar gynhyrchion Cymreig pe bai'r DU yn ymadael heb gytundeb yn effeithio ar y cysylltiadau hynny.

Gallai Brexit heb gytundeb arwain at:

  • •economi lai – 8% i 10% yn llai dros yr hirdymor dan reolau Sefydliad Masnach y Byd. Byddai hynny'n gyfwerth â rhwng £1,500 a £2,000 y pen. 
  • •llai o swyddi - Bydd economi gwannach a mwy o rwystrau ar gyfer busnesau yn peryglu swyddi, buddsoddiadau a bywoliaeth pobl yng Nghymru.
  • •trethi allforio newydd ar fusnesau Cymru – Tariffau sylweddol ar allforion cig oen a chig eidion o Gymru. Gallai hynny gynnwys tariffau (trethi mewnforio) gymaint ag 84% ar garcasau gwartheg, 46% ar gig oen a 61% ar ddarnau o gig oen.  
  • •rhwystrau rheoleiddiol newydd ar gyfer busnesau yng Nghymru - Gallai unrhyw rwystrau newydd i farchnad yr UE fod yn hynod niweidiol i lawer o fusnesau Cymru, yn enwedig i'r rheini yn y sector bwyd yn ogystal â'r sectorau awyrofod a cherbydau modurol sydd oll yn bwysig i economi Cymru. Byddai hynny'n cael effaith uniongyrchol a hirdymor ar safonau byw ac yn gwthio mwy o bobl i dlodi yng Nghymru.
  • •biwrocratiaeth ac oedi – Gallai newidiadau i'r rheolau tollau sy'n ychwanegu at gostau, amser, anghyfleustra a rheoliadau gael effaith ddinistriol ar economi Cymru.
  • •oedi mewn porthladdoedd – Efallai y bydd oedi ym mhorthladdoedd Cymru a'r DU wrth i rwystrau a gwiriadau newydd gael eu cyflwyno. 

Dywedodd y Gweinidog Brexit, Jeremy Miles:

"Yn hwyrach heddiw, byddwn ni’n darganfod pwy fydd Prif Weinidog nesaf y DU. Pwy bynnag fydd yn ennill, rydyn ni'n gwybod ei fod wedi bygwth rhwygo'r DU allan o'r UE heb gytundeb, yn bennaf i blesio plaid ei hunan yn hytrach na meddwl am yr hyn fyddai o fudd i’r wlad.
"Rhaid i'r rheini sy'n frwd dros Brexit heb gytundeb glywed y neges glir o Gymru heddiw - byddai hyn yn ergyd enfawr i Gymru ac yn drychinebus i'n gwlad a'n heconomi.

"Ni ddylid caniatáu i hynny ddigwydd - ni allwn aros nôl ac edrych ar y twf sydd wedi’i gynnal yn y sector ffermio a bwyd yng Nghymru gael ei ddinistrio gan gamau difeddwl ambell berson. Heddiw, rydyn ni'n galw ar y Prif Weinidog nesaf i osgoi Brexit heb gytundeb".

Dywedodd y Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol, Eluned Morgan:

"Rwyf wedi siarad â sawl busnes ac maent wedi dweud wrthyf eu bod am fuddsoddi a chreu swyddi yng Nghymru ond eu bod yn oedi rhag gwneud hynny oherwydd yr ansicrwydd diddiwedd ynghylch Brexit. Mae angen y sicrwydd hwnnw arnom ac mae ei angen nawr.

"Dywedodd y rheini a oedd o blaid y DU yn ymadael â'r UE na fyddai dim yn newid. Ond rydyn ni'n gwybod erbyn hyn y byddai Brexit heb gytundeb yn newid popeth ac nid er gwell. Nid oedd neb wedi pleidleisio i wneud y genedl yn dlotach wrth bleidleisio am Brexit.

"Ffantasi oedd yr addewid. Mae'r Prif Weinidog newydd yn gwybod mai hunllef yw'r ffantasi yr ydym bellach yn ei hwynebu. 

"Dyna pam mae angen cynnal pleidlais Brexit newydd a byddwn yn parhau i bleidleisio o blaid Cymru yn aros yn yr UE".