Neidio i'r prif gynnwy

Prif Weinidog Cymru'n cynnig ffordd newydd o edrych ar fudo ar ôl Brexit.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Medi 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

 

Lansiwyd papur Brexit diweddaraf Llywodraeth Cymru heddiw, gan gynnig ffordd deg o edrych ar fudo i'r DU yn y dyfodol.

Mae'r papur, a lansiwyd yn GE Aviation yn Nantgarw, yn canolbwyntio ar les economaidd Cymru. Drwy gysylltu’r hawl i fudo i’r DU yn agosach at gyflogaeth, mae’n cynnig safbwynt a fyddai’n galluogi’r DU i argyhoeddi negodwyr yr UE i gytuno ar fynediad llawn a dirwystr at y Farchnad Sengl ar ôl Brexit, gan alluogi cyflogwyr Cymru i barhau i gyrraedd at y sgiliau angenrheidiol ar yr un pryd.

Byddai'r ffordd hon o reoli mudo yn galluogi pobl o wledydd yr UE, Gwlad yr Iâ, Liechtenstein, Norwy a'r Swistir i barhau i ddod i'r DU i weithio os oes ganddynt gynnig swydd o flaen llaw, neu i chwilio am waith os oes ganddynt gyfle gwirioneddol i ddod o hyd i swydd yn gyflym.

O ganlyniad byddai Cymru a'r DU yn medru parhau i elwa ar fewnfudo, gan roi sylw ar yr un pryd i bryderon a fu'n elfen amlwg o'r drafodaeth yn arwain at refferendwm Brexit fis Mehefin llynedd. 

Mae'r papur sy'n cael ei gyhoeddi heddiw hefyd yn dweud bod angen gorfodi deddfwriaeth i roi sylw i bryderon pobl ynghylch y perygl fod camfanteisio ar weithwyr mudol yn tanseilio cyflogau ac amodau gwaith i bawb.

Gan ddadlau'n gryf dros degwch o ran symudiad, mae'r papur hefyd yn edrych ar yr hyn fedrai ddigwydd petai Llywodraeth y DU yn penderfynu gosod cyfyngiadau meintiol ar fudo o'r UE. Nid dyma fyddai dewis Llywodraeth Cymru, ond petai hynny'n digwydd, byddem yn ystyried pwyso am gwota penodol i Gymru.

Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones:

Mae'n hanfodol sicrhau bod y system ar gyfer mudo rhwng yr Undeb Ewropeaidd a'r Deyrnas Unedig ar ôl Brexit yn un sy'n addas i Gymru, ac i bob rhan o'r Deyrnas Unedig. Ein prif flaenoriaeth yw sicrhau ein ffyniant economaidd yn y dyfodol drwy gadw mynediad llawn a dirwystr at y Farchnad Sengl.

Mae'n cynigion ni'n rhoi sylfaen realistig ar gyfer trafodaethau'r Deyrnas Unedig gyda'r Undeb Ewropeaidd - yn wahanol i'r hyn sy'n cael ei weld fel safbwynt afrealistig Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Rydyn ni'n cydnabod bod nifer o bobl yn pryderu am raddfa a chyflymder mewnfudo, ac rydyn ni am weld mwy o reolaeth dros hyn. Dyna pam rydyn ni'n cynnig system deg a fyddai'n sicrhau cysylltiad rhwng mudo a chyflogaeth yn y dyfodol, gan ei gwneud yn ofynnol i'r rhai sydd am ddod i'r Deyrnas Unedig naill ai fod â swydd, neu fedru dod o hyd i un yn gyflym.”

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid a Llywodraeth Leol, Mark Drakeford:

Mae'n cynnig ni, sy'n cysylltu mudo â gwaith ac sy'n rhoi sylw priodol i'r mater o gamfanteisio ar weithwyr, yn un a fyddai yn ein barn ni yn ennill cefnogaeth eang gan bobl o bob cwr o Gymru a'r Deyrnas Unedig yn gyfan, ac fe fyddai'n sylfaen realistig ar gyfer y trafodaethau gyda'r Undeb Ewropeaidd.

Er nad Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am bolisi mewnfudo, dyma gyfraniad synhwyrol, wedi'i seilio ar dystiolaeth gadarn, i'r maes polisi pwysig hwn. Rwy'n annog Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ystyried ein cynigion yn ofalus.

Mae nifer o bobl o dramor wedi symud i Gymru ac wedi gwneud cyfraniad arbennig o gadarnhaol i’n cymdeithas a'n heconomi. Dydy hynny ddim yn mynd i ddod i ben pan fydd y Deyrnas Unedig wedi ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Byddwn yn parhau i fod angen recriwtio meddygon, nyrsys, gweithwyr y sectorau twristiaeth, bwyd ac amaeth, academyddion ac eraill o Ewrop ar ôl Brexit. Rydyn ni eisoes yn gweld dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd yn gadael y Deyrnas Unedig, sy'n achos pryder. Byddai cau ein ffiniau'n llwyr yn gwneud niwed difrifol i economi a gwasanaethau cyhoeddus Cymru. Nid oes angen i hynny ddigwydd, fel y gwelir yn y ddogfen hon."