Neidio i'r prif gynnwy

Croeso i Fro Tathan

Busnes, Awyr, Arloesedd

Ym mharc busnes Bro Tathan mae tuag 1.6 miliwn o droedfeddi sgwâr o ofod cyflogaeth ac mae’n gartref i gwmnïau mawr gan gynnwys Aston Martin Lagonda, eCube Solutions a Bristow Helicopters.

Mae Bro Tathan yn dechrau ar y cam nesaf yn ei ddatblygiad cyffrous i greu cyrchfan arloesol i fusnesau.

Ar safle o tua 1,200 o erwau gyda’i redfa ei hun, mae Bro Tathan mewn lleoliad strategol o fewn Ardal Fenter Maes Awyr Caerdydd a Bro Tathan, 5 milltir o Faes Awyr Caerdydd ac o fewn cyrraedd yn gyfleus i draffordd yr M4 a phrif ddinasoedd y DU. 

Mae Bro Tathan yn cynnig ystod eang o gyfleoedd datblygu yn yr ardal awyrennau ac ardaloedd eraill i ddatblygwyr a busnesau fel ei gilydd.  Mae eiddo ar gael ar amrywiaeth o gytundebau lesddaliad tymor byr a thymor hwy. 

Bydd rhagor o fanylion ar gael cyn bo hir, ond ar gyfer ymholiadau cychwynnol, cysylltwch â’r unig asiant.

Scott Caldwell

Savills

Rhif ffôn: +44 (0) 2920 368943

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Chloe Beard

Savills

Rhif ffôn: +44 (0) 2920 368967

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.