Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan wedi croesawu canfyddiadau arolwg o’r ffordd mae agweddau’r cyhoedd tuag at gosbi plant yn gorfforol yng Nghymru wedi newid ers cyflwyno’r ddeddfwriaeth newydd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Chwefror 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae data a gyhoeddwyd heddiw yn rhoi cipolwg ar safbwyntiau o ddechrau 2022, ychydig cyn i’r ddeddf ddod i rym. Mae’r cipolwg hwn yn dangos bod 62% o bobl yn anghytuno ei bod hi weithiau’n angenrheidiol smacio plentyn o’i gymharu â 53% o’r bobl a holwyd yn 2021. Mae’r ffigur yn uwch ar gyfer rhieni/gofalwyr plant o dan saith oed, sef 71%.

Canfu’r adroddiad hefyd fod cynnydd wedi bod yn lefel yr ymwybyddiaeth o Ddeddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru), a’r gefnogaeth iddi, ers 2018. Dywedodd 59% o’r ymatebwyr eu bod o blaid y newid yn y gyfraith o’i gymharu â 38% yn 2018.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan:

Wrth inni agosáu at flwyddyn ers i gosbi’n gorfforol ddod yn anghyfreithlon yng Nghymru, mae’n galonogol iawn gweld y newid mewn agweddau ymhlith rhieni.

Mae’r oes wedi newid, magu plant mewn modd cadarnhaol a di-drais yw’r hyn y mae’r rhan fwyaf o rieni’n anelu ato heddiw. Mae mwy a mwy o bobl yn ymwybodol o’r ffaith bod cosbi plentyn yn gorfforol yn anghyfreithlon yng Nghymru, yn ogystal â hynny roedd 62% o bobl yn anghytuno ei bod hi weithiau’n angenrheidiol smacio plentyn.

Fodd bynnag, er bod y gyfraith wedi newid, ac mae’r ffigyrau hyn yn dangos ein bod yn mynd i’r cyfeiriad cywir, rydym yn gwybod bod gennym waith i’w wneud o hyd. Nid ydym yn llaesu dwylo o ran addysgu a chefnogi rhieni. Magu plant mewn modd cadarnhaol yw ein ffocws o hyd ac rwy’n gobeithio gweld datblygiadau cadarnhaol pellach ledled Cymru wrth i ragor o becynnau magu plant gael eu darparu i rieni.

Wrth i’r blynyddoedd fynd heibio, bydd mwy a mwy o blant a theuluoedd yn gweld budd y newid pwysig hwn yn y gyfraith a’r gefnogaeth mae wedi’i rhoi i hawliau plant yng Nghymru.