Neidio i'r prif gynnwy

Clefyd hynod heintus ar anifeiliaid yw brwselosis, sy'n cael ei achosi gan facteria.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'n gallu effeithio ar amrywiaeth o da byw gan gynnwys:

  • gwartheg
  • defaid
  • moch
  • geifr

Mae e'n gallu effeithio ar bobl hefyd (milhaint). Adroddwyd yr achos diwethaf mewn da byw yn 2004 ym Mhrydain.

Mae yna hefyd fath o Brwselosis (Brucella Canis) sydd yn effeithio ar gŵn. Nid yw hon yn hysbysadwy yn anifeiliaid. Ymwelwch â Brucella canis: gwybodaeth i'r cyhoedd a perchnogion cŵn (ar gov.uk) i ddarganfod fwy o wybodaeth. 

Mae’r wybodaeth isod yn ymwneud a brwselosis mewn da byw. 

Amheuon a chadarnhad

Os oes gennych unrhyw amheuon y gall brwselosis fod ar eich anifeiliaid, cysylltwch â'ch swyddfa Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion leol ar 0300 303 8268 ar unwaith.

Bydd milfeddygon APHA yn archwilio'r achosion hynny.

Arwyddion clinigol

Mae'r arwyddion yn amrywio yn ôl rhywogaeth. Gallwch ddisgwyl gweld:

  • lloi wedi'u herthylu a'u geni cyn pryd
  • cadeiriau (pyrsau) a cheilliau wedi chwyddo mewn defaid a geifr
  • nerfusrwydd
  • gwres

Trosglwyddo, atal a thriniaeth

Mae'r clefyd yn cael ei ledaenu trwy gysylltiad â deunydd sydd wedi'i heintio â'r bacteria. Mae gan anifeiliaid heintiedig lefelau uchel iawn o'r bacteria yn eu hylifau geni.

Prif ffyrdd heintio:

  • yfed neu fwyta dŵr neu fwyd heintiedig
  • yfed llaeth anifail heintiedig

Ar gyfer pobl, gall hyn gynnwys:

  • cysylltiad uniongyrchol ag anifeiliaid heintiedig neu eu hylifau a'u tail
  • yfed neu fwyta llaeth a chynnyrch llaeth heb eu pasteureiddio (mewn gwledydd lle ceir brwselosis)

Gallwch helpu i atal y clefyd trwy gadw at fesurau bioddiogelwch da ar eich fferm. Mae hyn yn arbennig o bwysig wrth drin ffetysau sydd wedi'u herthylu. Rhowch wybod i APHA am bob erthyliad a genedigaeth cyn pryd.

Nid oes modd trin brwselosis. I rwystro'r clefyd rhag lledaenu, rhaid difa anifeiliaid heintiedig, yn unol â chyfarwyddyd APHA.