Neidio i'r prif gynnwy

Mae ffigurau diweddaraf yn dangos bod nifer y buchesi sydd o dan gyfyngiadau yng Nghymru oherwydd TB ar eu lefel isaf ers 2006.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Mehefin 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei data TB chwarterol. Mae’r data hwnnw’n rhoi trosolwg o sefyllfa’r clefyd ledled Cymru ac mae’n dangos hynt y cynnydd a wneir drwy’r Rhaglen Dileu TB mewn Gwartheg.

Hefyd, mae’r data’n dangos bod 94.6 y cant o fuchesi wedi bod yn rhydd o TB yng Nghymru yn ystod chwarter cyntaf 2016. Golyga hynny fod dros 200 yn llai o fuchesi o dan gyfyngiadau oherwydd TB o’i gymharu â thair blynedd yn ôl.

Dywedodd yr Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths:

“Mae TB mewn Gwartheg yn broblem iechyd ddifrifol i anifeiliaid ac rydw i wedi ymrwymo i adeiladu ar ein hymdrechion hirdymor i ddileu’r clefyd hwn yng Nghymru.

“Rwy’n croesawu’r data diweddaraf, sy’n cadarnhau’r ffaith ein bod yn gweld peth cynnydd o ran sicrhau ein bod yn cyrraedd y nod hwn, ac mae nifer yr achosion o TB yn parhau i leihau.

“Wrth gwrs, mae sefyllfa TB ar draws Cymru yn un gymhleth. Yn aml, mae pobl yn credu bod y cynnydd yn nifer y gwartheg sy’n cael eu difa yn golygu bod y clefyd ar gynnydd. Mewn gwirionedd, gwelwyd cynnydd yn nifer y gwartheg sy’n cael eu difa oherwydd y newidiadau a wnaed i’r dulliau o reoli gwartheg a’r mesurau i gadw golwg ar y sefyllfa. Mae hynny wedi gwella’r modd rydym yn canfod ac yn dileu’r clefyd ymhlith ein buchesi.”

Ychwanegodd Ysgrifennydd y Cabinet:

“Mae ein Rhaglen i Ddileu TB mewn Gwartheg yn gwneud defnydd o’r dulliau sydd gennym i ddileu’r clefyd. Mae hyn yn cynnwys profi gwartheg, bioddiogelwch llym, rheoli symudiadau a gwella’r drefn o reoli achosion o TB.

“Nod y dull hwn yw mynd i’r afael â phob ffynhonnell o’r clefyd ac yn amlwg mae’n cael effaith ar y sefyllfa. Mae’r ystadegau diweddaraf yn dangos bod nifer yr achosion newydd o TB yn ystod y 12 mis hyd at fis Mawrth 2016 14% yn llai na’r hyn oeddynt yn ystod y 12 mis hyd at fis Mawrth 2015.

“Byddaf yn parhau i fonitro ac adolygu’r sefyllfa ar draws Cymru ac rydw i wedi ymrwymo i gael fy arwain gan wyddoniaeth wrth fynd ati i ystyried yr holl opsiynau ar gyfer symud ymlaen.”

Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei data TB chwarterol ar Ddangosfwrdd  TB, ac mae’n rhoi’r wybodaeth ar fformat gweledol sy’n hawdd i’w ddeall. Mae’r dangosfwrdd yn dangos sefyllfa’r clefyd ar draws Cymru ac yn dangos y cynnydd y mae’r Rhaglen Dileu TB mewn gwartheg wedi’i wneud.  

I weld y Dangosfwrdd TB, cliciwch yma:

http://gov.wales/topics/environmentcountryside/ahw/disease/bovinetuberculosis/bovinetberadication/tb-dashboard/?lang=cy