Rhestr o fuddiannau preifat perthnasol y gweinidogion
Rhestr o fuddiannau preifat perthnasol y gweinidogion.
Ar y dudalen hon
Gofyniad Cod y Gweinidogion
O dan God y Gweinidogion, rhaid i’r Gweinidogion sicrhau na fydd gwrthdaro, nac y gellid yn rhesymol gael yr argraff bod gwrthdaro, rhwng eu dyletswyddau cyhoeddus a’u buddiannau preifat – yn ariannol neu fel arall.
Adeg eu penodi i bob swydd weinidogol newydd, mae’n ofynnol i Weinidogion ddarparu datganiad ysgrifenedig i’r Ysgrifennydd Parhaol o’r holl fuddiannau a allai o bosibl arwain at wrthdaro. Dylai’r rhestr gynnwys buddiannau priod neu bartner y Gweinidog ac aelodau agos o’r teulu y gellid barnu eu bod yn arwain at wrthdaro.
Y broses ddatgan
Mae datganiadau gan Weinidogion, ynghyd â manylion unrhyw gamau a gymerwyd mewn perthynas â buddiannau unigol, yn cael eu hystyried gan yr Ysgrifennydd Parhaol, gan ymgynghori â’r Cynghorydd Annibynnol ar Safonau Gweinidogol, i benderfynu a oes angen unrhyw gamau pellach.
Rhaid i Weinidogion hysbysu’r Ysgrifennydd Parhaol yn ysgrifenedig yn ddi-oed os bydd eu hamgylchiadau yn newid o gwbl. Bydd yr Ysgrifennydd Parhaol yn ysgrifennu at y Gweinidogion yn flynyddol yn gofyn iddynt gadarnhau bod y cofnod presennol o’u buddiannau preifat yn gyflawn ac yn gyfredol.
Mae datganiadau’r Gweinidogion yn cael eu trin yn gyfrinachol. O ganlyniad, mae’n bosibl i Weinidogion ddarparu datgeliad llawn a gonest, gan gynnwys gwybodaeth na fydd yn y pen draw o bosibl yn berthnasol i’w cyfrifoldebau gweinidogol.
Y rhestr gyhoeddedig
Mae’r Rhestr o Fuddiannau Perthnasol y Gweinidogion gyhoeddedig (y Rhestr) yn cofnodi manylion buddiannau sy’n gyfredol ar ddyddiad ei chyhoeddi a gall hefyd gynnwys buddiannau a ddaeth i ben yn ystod y blynyddoedd rhagflaenol, gan ddibynnu ar eu cyd-destun a’u perthnasedd. Dim ond pan fyddant yn uniongyrchol berthnasol i bortffolio cyfrifoldebau’r Gweinidog y bydd buddiannau sydd eisoes wedi’u datgan yng Nghofrestr Buddiannau’r Gweinidog fel Aelod o’r Senedd yn cael eu cynnwys. Dylid darllen y Rhestr ochr yn ochr â’r Gofrestr o Fuddiannau’r Aelodau ac unrhyw wybodaeth berthnasol a gyhoeddir gan y Comisiwn Etholiadol. Ni chaiff buddiannau sydd wedi’u gwaredu, gan gynnwys y rhai a waredwyd cyn eu penodi i swydd weinidogol, ymddangos yn y Rhestr.
Mae’r Rhestr yn nodi buddiannau sy’n cael eu dal ar hyn o bryd gan Weinidogion, neu gan aelodau agos o’u teuluoedd, sydd, neu y gellid yn rhesymol gael yr argraff eu bod, yn uniongyrchol berthnasol i gyfrifioldebau swyddogol y Gweinidog. Mae hefyd yn darparu manylion yr elusennau y mae Gweinidog yn ymddiriedolwr neu’n noddwr iddynt. At hynny, gall fod gan Weinidogion gysylltiadau eraill ag elusennau neu sefydliadau nad ydynt yn rhai cyhoeddus – er enghraifft, drwy eu rôl fel Aelod o’r Senedd ar gyfer etholaeth. Gall cysylltiadau o’r fath fod yn rhai hanesyddol, yn anweithredol neu’n rhai na chyfranogir yn weithredol ynddynt mwyach.
Nid yw’r Rhestr yn gofnod cynhwysfawr o’r holl fuddiannau neu drefniadau ariannol sy’n cael eu dal gan Weinidogion neu aelodau agos o’u teulu. Byddai cyhoeddi gwybodaeth o’r fath yn cynrychioli ymyriad yn eu materion preifat na ellid ei gyfiawnhau. Yn hytrach, mae’r Rhestr wedi’i chyfyngu i’r buddiannau hynny sydd, neu y gellid yn rhesymol gael yr argraff eu bod, yn uniongyrchol berthnasol i ddyletswyddau cyhoeddus Gweinidog. Mae datganiadau llawn o’r holl fuddiannau yn cael eu cadw gan yr Ysgrifennydd Parhaol.
Y categorïau o fuddiannau a ddatgelir
Adeg eu penodi, gofynnir i Weinidogion nodi eu buddiannau mewn nifer o gategorïau:
- Gwybodaeth bersonol – Mae’r Gweinidogion yn darparu manylion eu cyfeiriad, dyddiad geni a chenedligrwydd yn gwbl gyfrinachol.
- Buddiannau ariannol – Dim ond y buddiannau ariannol hynny sy’n uniongyrchol berthnasol i rôl y Gweinidog, yn hytrach na phob buddsoddiad, benthyciad neu fuddiant arall sy’n cael eu dal gan y Gweinidog, sy’n cael eu cynnwys yn y Rhestr. Mae’n nodi unrhyw fuddiannau sy’n cael eu dal mewn ymddiriedolaeth ddall neu drefniant tebyg, lle nad yw’r Gweinidog yn rheoli nac yn gwybod pa asedau sy’n cael eu dal. Mae hyn yn cynnwys pensiynau, portffolios buddsoddi, rhwymedigaethau, buddiannau mewn ymddiriedolaethau teuluol ac unrhyw gyllid cyhoeddus y maen nhw eu hunain neu aelod agos o’r teulu wedi’i dderbyn.
- Materion Treth – Gofynnir i’r Gweinidogion gadarnhau bod eu materion treth yn gyfredol a datgan unrhyw anghydfodau cyfredol neu hanesyddol gydag unrhyw awdurdodau treth.
- Ymddiriedolaethau Dall – Gofynnir i’r Gweinidogion ddatgan a rhoi manylion unrhyw ymddiriedolaethau dall sy’n cael eu dal ganddynt. Bydd manylion cryno y rhain yn cael eu cynnwys yn y Rhestr. Mae’r Rhestr hefyd yn darparu gwybodaeth am ymwneud Gweinidogion ag ymddiriedolaethau nad ydynt yn rhai dall, er enghraifft rhai ymddiriedolaethau teuluol os ystyrir bod y rhain yn berthnasol i’w rôl.
- Swyddi Cyfarwyddwr a chyfranddaliadaeth – Er na fyddai Gweinidogion fel arfer yn cadw swyddi cyfarwyddwr tra byddant yn eu swydd weinidogol, mewn rhai amgylchiadau penodol, gall fod yn dderbyniol cadw swydd cyfarwyddwr, er enghraifft mewn cysylltiad â rheoli eiddo preswyl neu fenter deuluol, ac yn amodol ar gymryd camau penodol i osgoi gwrthdaro buddiannau. O dan yr amgylchiadau hyn, bydd manylion y swyddi cyfarwyddwr hyn yn cael eu cynnwys yn y Rhestr. Ni restrir cyfranddaliadau yr ystyrir eu bod yn de minimus o ran eu natur.
- Partneriaethau neu fuddiannau busnes eraill – Rhaid i Weinidogion sy’n bartneriaid mewn cwmni proffesiynol, fel cwmni cyfreithwyr neu gyfrifwyr, neu mewn unrhyw fusnes arall roi’r gorau i ymarfer ac ni ddylent gymryd rhan yn ei reolaeth o ddydd i ddydd. Rhaid i Weinidogion hefyd gofnodi unrhyw fuddiannau perthnasol sy’n cael eu dal gan eu priod neu bartner, neu gan aelod agos o’r teulu. Bydd manylion unrhyw fuddiannau busnes sy’n cael eu cadw gan Weinidogion, a’r trefniadau a roddir ar waith i osgoi gwrthdaro, yn cael eu cynnwys yn y Rhestr.
- Eiddo – Rhaid i Weinidogion ddatgan yr holl eiddo y maen nhw eu hunain neu eu priod neu bartner yn berchen yn llwyr neu’n rhannol arnynt. Ar gyfer pob eiddo, rhaid iddynt nodi a oes incwm yn deillio ohono neu a yw’n cael ei ddefnyddio ganddynt hwy eu hunain neu eu teulu yn unig. Rhaid iddynt hefyd ddatgelu unrhyw delerau rhent neu les ffafriol. Pan fo eiddo yn cynhyrchu incwm rhent, rhaid i Weinidogion gadarnhau ei fod wedi’i gofrestru gyda Rhentu Doeth Cymru, a bydd yn cael ei gynnwys yn y Rhestr. Yn unol â Chofrestr Buddiannau yr Aelodau o’r Senedd, nid yw’r Rhestr yn cynnwys eiddo a berchenogir neu a feddiannir at ddefnydd y Gweinidog ei hun neu ei deulu yn unig.
- Cysylltiadau â sefydliadau cyhoeddus ac elusennau – Dylai Gweinidogion ddatgan unrhyw rôl y maent yn ei dal gydag unrhyw sefydliadau neu elusennau. Gall y rolau hyn gynnwys, ond nid ydynt yn gyfyngedig i, benodiadau cyhoeddus, a rolau fel noddwyr, aelodau, llywyddion, is-lywyddion, ymddiriedolwyr, cyfeillion ac unrhyw rolau anrhydeddus. Gall fod gan Weinidogion gysylltiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’w Buddiannau fel Gweinidog, gydag elusennau neu sefydliadau nad ydynt yn rhai cyhoeddus, er enghraifft, yn rhinwedd eu rôl fel Aelodau etholaethol. Gall cysylltiadau o’r fath fod yn rhai hanesyddol, rhai sydd wedi dod i ben, neu efallai’n rhai nad yw’r Gweinidog ei hun yn cyfranogi’n weithredol ynddynt. Bydd y rolau hynny sy’n cael eu hystyried yn berthnasol i’w cyfrifoldebau gweinidogol yn cael eu cynnwys yn y Rhestr.
- Undebau Llafur – Rhaid i Weinidogion ddatgan manylion unrhyw aelodaeth o Undebau Llafur. Dylid cynnwys aelodaeth o undeb llafur gan aelod agos o’r teulu hefyd pan fo’n berthnasol i faes cyfrifoldebau’r Gweinidog. Fodd bynnag, nid yw’r wybodaeth hon fel arfer yn cael ei dangos yn y Rhestr gan ei bod yn cael ei dosbarthu fel “data categori arbennig” o dan ddeddfwriaeth diogelu data.
- Cyflogaeth flaenorol – Mae’n ofynnol i Weinidogion ddarparu manylion cyflogaeth flaenorol a ddaliwyd am y 3 blynedd ragflaenol, gan gynnwys manylion y sefydliad a’r swydd oedd yn cael ei dal. Bydd rolau blaenorol sy’n cael eu hystyried yn berthnasol i’w cyfrifoldebau gweinidogol yn cael eu cynnwys yn y Rhestr.
- Unrhyw fuddiannau perthnasol eraill – Rhaid i Weinidogion ddatgan unrhyw fuddiannau perthnasol eraill, gan gynnwys buddiannau aelodau agos o’r teulu y gellid yn rhesymol gael yr argraff eu bod yn rhai sy’n gwrthdaro â’u cyfrifoldebau gweinidogol. Dim ond buddiannau sy’n uniongyrchol ac yn sylweddol berthnasol fydd yn cael eu cynnwys yn y Rhestr, gan sicrhau cydbwysedd rhwng bod yn dryloyw â chynnal preifatrwydd a gallu aelodau o’r teulu i weithio. Gwneir penderfyniad ar “aelodau agos o’r teulu” fesul achos. Ni ddisgwylir i’r Gweinidogion fod yn ymwybodol o faterion pob perthynas, ond, pan fo ganddynt gysylltiad agos a pharhaus, dylent gymryd camau rhesymol i gyflawni eu cyfrifoldebau o dan God y Gweinidogion.
- Buddiannau Etholaethol – Yn ogystal â datgan nawdd ariannol, gall Gweinidogion ddefnyddio’r categori dewisol hwn i dynnu sylw at brosiectau penodol, cyflogwyr mawr neu faterion cynhennus yn eu hetholaeth neu o fewn eu cyfrifoldebau gweinidogol. Ystyrir fesul achos a ddylid cynnwys y mater yn y Rhestr.
- Cydymffurfio â Rhwymedigaethau Cyfreithiol – Gofynnir i’r Gweinidogion ystyried a all unrhyw agwedd ar eu bywyd eu rhoi mewn sefyllfa o dorri eu dyletswydd i gydymffurfio â’r gyfraith. Ystyrir fesul achos a ddylid cynnwys yr wybodaeth yn y Rhestr.
Rhun ap Iorwerth AS, Prif Weinidog Cymru
(Aelod o’r Senedd dros Fangor Conwy Môn)
2. Buddiannau ariannol
Mae’r Prif Weinidog yn aelod o Undeb Credyd Gogledd Cymru.
Mae aelodau agos o’r teulu yn derbyn grantiau ffermio.
Cyflogir aelod agos o’r teulu gan Mentera.
Er bod y tebygolrwydd yn isel iawn, os bydd y sefyllfa yn codi, bydd y Prif Weinidog yn ymesgusodi o unrhyw benderfyniadau sy’n effeithio’n uniongyrchol ar y sefydliad hwn.
Mae aelod agos o’r teulu yn Gyfarwyddwr cwmni a dderbyniodd fenthyciad gan Fanc Datblygu Cymru.
5. Swyddi cyfarwyddwr a chyfranddaliadau
Mae’r Prif Weinidog yn gyfranddaliwr ac yn gyn-gyfarwyddwr Paradwys Cyf a Rhun ap Iorwerth Cyf - ymddiswyddodd y Prif Weinidog o’i swyddi cyfarwyddwr adeg ei benodi.
Mae aelod agos o’r teulu yn gyfarwyddwr Paradwys Cyf, Rhun ap Iorwerth Cyf, Ateb Cyntaf Cyf, Port-a (Ateb) Cyf a Group Ed Ltd - bydd y Prif Weinidog yn ymesgusodi o unrhyw benderfyniadau sy’n effeithio’n uniongyrchol ar y cwmnïau hyn. Mae gan Ateb Cyntaf Cyf nifer o gleientiaid yng Nghymru a all ymgysylltu â Llywodraeth Cymru. Mae gwybodaeth am gleientiaid yn cael ei rhannu’n rheolaidd â’r tîm Priodoldeb a Moeseg, a’i monitro ganddo, ar ran y Prif Weinidog i nodi a fyddai’n briodol iddo ymesgusodi pe bai penderfyniad perthnasol yn dod iddo.
7. Eiddo
Mae’r Prif Weinidog yn berchen ar barsel bach o dir y mae’n cael incwm ohono.
Mae’r Prif Weinidog yn dal cyfranddaliadau yn Paradwys Cyf, sy’n berchen ar eiddo sy’n cynhyrchu incwm.
8. Cysylltiadau â sefydliadau cyhoeddus ac elusennau
Mae’r Prif Weinidog yn dal y rolau canlynol:
- Llywydd Côr Meibion Goronwy.
- Cydymaith Anrhydeddus Cymdeithas Milfeddygol Prydain
Mae aelod agos o’r teulu yn dal y rolau canlynol:
- Llywodraethwr Ysgol Henblas.
- Cynghorydd Cymuned Cyngor Cymuned Llangristiolus a Cherrigceinwen.
11. Unrhyw wybodaeth berthnasol arall
Mae aelod agos o’r teulu yn Aelod o Fwrdd Hybu Cig Cymru - er bod y tebygolrwydd yn isel, os bydd y sefyllfa yn codi, bydd y Prif Weinidog yn ymesgusodi o unrhyw benderfyniadau sy’n effeithio’n uniongyrchol ar y sefydliad hwn.
Sioned Williams AS, y Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb
(Aelod o’r Senedd dros Frycheiniog Tawe Nedd)
2. Buddiannau ariannol
Mae gan y Dirprwy Brif Weinidog gyfranddaliadau yn: Cwmni Cydweithredol Awel a Chwmni Cydweithredol Egni - bydd y Dirprwy Brif Weinidog yn ymesgusodi o unrhyw benderfyniadau sy’n effeithio’n uniongyrchol ar y cwmnïau hyn.
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog yn aelod o Undeb Credyd Celtic - bydd y Dirprwy Brif Weinidog yn ymesgusodi o unrhyw benderfyniadau sy’n effeithio’n uniongyrchol ar yr undeb credyd hwn.
8. Cysylltiadau â sefydliadau cyhoeddus ac elusennau
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog yn dal y rolau canlynol:
- Ymddiriedolwr Cronfa Goffa Saunders Lewis
- Ymddiriedolwr Banc Bwyd Pantry, Pontardawe
Er bod y tebygolrwydd yn isel iawn, os bydd y sefyllfa’n codi, bydd y Dirprwy Brif Weinidog yn ymesgusodi o unrhyw benderfyniadau sy’n effeithio’n uniongyrchol ar y sefydliadau hyn.
11. Unrhyw wybodaeth berthnasol arall
Cyflogir aelod agos o’r teulu gan Gyngor Celfyddydau Cymru - bydd y Dirprwy Brif Weinidog yn ymesgusodi o unrhyw benderfyniadau sy’n effeithio’n uniongyrchol ar y sefydliad hwn.
Mabon ap Gwynfor AS, y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal
(Aelod o’r Senedd dros Wynedd Maldwyn)
5. Swyddi cyfarwyddwr a chyfranddaliadau
Mae’r Gweinidog Cabinet yn dal Cyfranddaliadau cymunedol yn:
- Gwesty Owain Glyndŵr, Corwen
- Tafarn Glan yr Afon, Pennal
- Menter y Ring, Llanfrothen
- Saith Seren, Wrecsam
Bydd y Gweinidog Cabinet yn ymesgusodi o unrhyw benderfyniadau sy’n effeithio’n uniongyrchol ar y cwmnïau hyn.
8. Cysylltiadau â sefydliadau cyhoeddus ac elusennau
Mae’r Gweinidog Cabinet yn Aelod o’r grŵp Seneddwyr Cenedlaethol ac Ewropeaidd dros Weithredu ar Ganser.
11. Unrhyw wybodaeth berthnasol arall
Mae aelod agos o’r teulu yn gyfarwyddwr Partneriaeth Gymunedol De Sir Ddinbych - bydd y Gweinidog Cabinet yn ymesgusodi o unrhyw benderfyniadau sy’n effeithio’n uniongyrchol ar y sefydliad hwn.
Cyflogir aelod agos o’r teulu gan y Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol - bydd y Gweinidog Cabinet yn ymesgusodi o unrhyw benderfyniadau sy’n effeithio’n uniongyrchol ar y sefydliad hwn.
Anna Brychan AS, y Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg
(Aelod o’r Senedd dros Gaerdydd Penarth)
10. Cyflogaeth flaenorol
Cyflogwyd y Gweinidog Cabinet cyn hyn fel Deon Cynorthwyol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
Nid yw addysg drydyddol o fewn portffolio cyfrifoldebau’r Gweinidog Cabinet. Fodd bynnag, os daw penderfyniad iddi sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’r Brifysgol, bydd yn gofyn am gyngor.
11. Unrhyw wybodaeth berthnasol arall
Cyflogir aelodau agos o’r teulu gan Glwb Ifor Bach, Caerdydd - bydd y Gweinidog Cabinet yn ymesgusodi o unrhyw benderfyniad sy’n effeithio’n uniongyrchol ar y sefydliad hwn.
Cyflogir aelod agos o’r teulu gan Gyngor Caerdydd mewn perthynas â pholisi’r Gymraeg - bydd y Gweinidog Cabinet yn ymesgusodi o unrhyw benderfyniadau sy’n ymwneud â pholisi’r Gymraeg sy’n uniongyrchol gysylltiedig â Chyngor Caerdydd.
Cyflogir aelod agos o’r teulu fel athro mewn ysgol uwchradd yng Nghonwy - bydd y Gweinidog Cabinet yn gofyn am gyngor cyn gwneud unrhyw benderfyniadau sy’n effeithio’n uniongyrchol ar yr ysgol hon.
Dafydd Trystan Davies AS, y Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a’r Cyfansoddiad
(Aelod o’r Senedd dros Gaerdydd Ffynnon Taf)
2. Buddiannau ariannol
Mae’r Gweinidog Cabinet yn dal cyfrifon buddsoddi - nid oes gan y Gweinidog Cabinet unrhyw reolaeth dros benderfyniadau buddsoddi.
5. Swyddi cyfarwyddwr a chyfranddaliadau
Mae’r Gweinidog Cabinet yn dal Cyfranddaliadau cymunedol yn:
- Llety Arall (Caernarfon)
- Awel Egni (Awel Aman Tawe)
- Cwmni Cydweithredol Ynni Gwynt Graig Fatha
Bydd y Gweinidog Cabinet yn ymesgusodi o unrhyw benderfyniadau sy’n effeithio’n uniongyrchol ar y cwmnïau hyn.
Roedd y Gweinidog Cabinet yn Gyfarwyddwr ac yn Ymddiriedolwr y fenter gymdeithasol – TooGoodToWaste - ymddiswyddodd y Gweinidog Cabinet o’r ddwy rôl gyda’r fenter gymdeithasol adeg ei benodi.
8. Cysylltiadau â sefydliadau cyhoeddus ac elusennau
Roedd y Gweinidog Cabinet yn Ymddiriedolwr Cronfa Glyndŵr yr Ysgolion Cymraeg - ymddiswyddodd y Gweinidog Cabinet adeg ei benodi.
10. Cyflogaeth flaenorol
Cyflogwyd y Gweinidog Cabinet cyn hyn gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol fel Cofrestrydd - ymddiswyddodd y Gweinidog Cabinet ar 8 Mai 2026.
Cyflogwyd y Gweinidog Cabinet cyn hyn fel Cynghorydd Arbennig yn Llywodraeth Cymru yn ystod y Cytundeb Cydweithio rhwng y Blaid Lafur a Phlaid Cymru.
Heledd Fychan AS, Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon
(Aelod o’r Senedd dros Bontypridd Cynon Merthyr)
5. Swyddi cyfarwyddwr a chyfranddaliadau
Mae aelod agos o’r teulu yn Gyfarwyddwr Coetmor Properties Ltd.
8. Cysylltiadau â sefydliadau cyhoeddus ac elusennau
Mae’r Gweinidog Cabinet yn gyn-aelod o Lys Eisteddfod Genedlaethol Cymru - daeth i ben ym mis Awst 2026.
Mae’r Gweinidog Cabinet yn Noddwr Pontyclun Bosom Pals.
Mae aelod agos o’r teulu yn Aelod o Bwyllgor Clwb y Bont, Pontypridd - bydd y Gweinidog Cabinet yn ymesgusodi o unrhyw benderfyniad sy’n effeithio’n uniongyrchol ar y sefydliad hwn.
11. Unrhyw wybodaeth berthnasol arall
Cyflogir aelod agos o’r teulu gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru - bydd y Gweinidog Cabinet yn ymesgusodi o unrhyw benderfyniad sy’n effeithio’n uniongyrchol ar y sefydliad hwn.
Llyr Gruffydd AS, y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd
(Aelod o’r Senedd dros Glwyd)
2. Buddiannau ariannol
Mae cydnabod agos yn gyfarwyddwr mewn busnes ffermio sy’n derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru - nid yw grantiau ffermio yn cael eu cymeradwyo gan Weinidogion.
5. Swyddi cyfarwyddwr a chyfranddaliadau
Mae gan aelod agos o’r teulu fân gyfranddaliad mewn ocsiwn da byw yng Nghymru.
7. Eiddo
Mae Gweinidog y Cabinet yn berchen ar 2 eiddo sy’n cael eu gosod ar rent.
8. Cysylltiadau â sefydliadau cyhoeddus ac elusennau
Roedd y Gweinidog Cabinet yn llywodraethwr ysgol cyn hyn yn Ysgol Pentrecelyn - ymddiswyddodd adeg ei benodi.
Mae’r Gweinidog Cabinet yn Aelod Anrhydeddus o Gymdeithas Milfeddygol Prydain.
Mae’r Gweinidog Cabinet yn Aelod o Gyngor Gwobrau’r Cymdeithasau Amaethyddol Brenhinol (CARAS).
11. Unrhyw wybodaeth berthnasol arall
Cyflogir aelod agos o’r teulu yn y sector ffermio.
Siân Gwenllian AS, y Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio
(Aelod o’r Senedd dros Wynedd Maldwyn)
2. Buddiannau ariannol
Mae aelodau agos o’r teulu wedi derbyn cyllid cyn hyn gan Fanc Datblygu Cymru a’r cynllun Arfor.
5. Swyddi cyfarwyddwr a chyfranddaliadau
Mae gan y Gweinidog Cabinet fân gyfranddaliadau yn y mentrau cymdeithasol canlynol:
- Cymdeithas Tai Gwynedd
- Llety Arall (Caernarfon)
- Siop Griffiths, Penygroes
- Menter Felinheli
- Menter y Rabar, Abersoch
- Menter y Ring, Llanfrothen
Bydd y Gweinidog Cabinet yn gofyn am gyngor cyn gwneud unrhyw benderfyniadau sy’n effeithio’n uniongyrchol ar y cwmnïau hyn.
11. Unrhyw wybodaeth berthnasol arall
Cyflogir nifer o aelodau agos o’r teulu gan Gyngor Gwynedd – nid mewn rolau ar lefel uwch.
Mae aelod agos o’r teulu yn eistedd ar Fwrdd Grŵp Portmeirion Cyf.
Mae aelod agos o’r teulu yn ymddiriedolwr asiant eiddo yng Nghymru sy’n darparu gwasanaethau gwerthu a gosod.
Bydd y Gweinidog Cabinet yn gofyn am gyngor gan y tîm Priodoldeb a Moeseg os bydd penderfyniad yn dod iddi a all gael effaith sylweddol ar y cwmni.
12. Buddiannau etholaethol
Mae’r Gweinidog Cabinet wedi cytuno y bydd y Prif Weinidog neu’r Gweinidog Cabinet a enwebir ganddo yn ymdrin â materion Cynllunio sy’n ymwneud â’i hetholaeth neu ddatblygiadau yn ei phortffolio yn Llywodraeth Cymru, gan gynnwys unrhyw ohebiaeth etholaethol gysylltiedig.
Elin Jones AS, y Gweinidog Cabinet dros Gyllid
(Aelod o’r Senedd dros Geredigion Penfro)
5. Swyddi cyfarwyddwr a chyfranddaliadau
Mae’r Gweinidog Cabinet yn dal cyfranddaliad mewn menter gydweithredol – Tafarn y Vale.
Mae’r Gweinidog Cabinet yn dal cyfranddaliadau mewn sefydliad elusennol – Canolfan Dreftadaeth Aberteifi
Bydd y Gweinidog Cabinet yn ymesgusodi o unrhyw benderfyniadau sy’n effeithio’n uniongyrchol ar y cwmnïau hyn.
8. Cysylltiadau â sefydliadau cyhoeddus ac elusennau
Ymddiriedolwr Bwrdd yr Eisteddfod Genedlaethol - ymddiswyddodd y Gweinidog y Cabinet adeg ei phenodi.
Adam Price AS, y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni
(Aelod o’r Senedd dros Sir Gaerfyrddin)
5. Swyddi cyfarwyddwr a chyfranddaliadau
Mae gan aelod agos o’r teulu gyfranddaliadau mewn cwmni gweithgynhyrchu awyrofod sy’n gweithredu yng Nghymru - bydd y Gweinidog Cabinet yn ymesgusodi o unrhyw benderfyniadau sy’n effeithio’n uniongyrchol ar y cwmni hwn.
8. Cysylltiadau â sefydliadau cyhoeddus ac elusennau
Mae’r Gweinidog Cabinet yn Aelod o’r grŵp Seneddwyr dros Weithredu Byd-eang.
Mae’r Gweinidog Cabinet yn Aelod o Bwyllgor Llywio’r Cawcws Cydraddoldeb Byd-eang (cydraddoldeb LGBT).
Mae’r Gweinidog Cabinet yn Gadeirydd Dros Dro rhwydwaith LGBT+ Pwyllgor Llywio Cymdeithas Seneddol y Gymanwlad.
11. Unrhyw wybodaeth berthnasol arall
Mae’r Gweinidog Cabinet yn perthyn drwy briodas i Gadeirydd presennol y Panel cynghori annibynnol a sefydlwyd i bennu cynllun a chylch gwaith yr asiantaeth datblygu economaidd newydd i Gymru.
Cafodd gwrthdaro posibl ei ddatgan gan y Gweinidog Cabinet a phenderfynodd y Prif Weinidog wneud y penodiad.
Cefin Campbell AS, y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol
(Aelod o’r Senedd dros Sir Gaerfyrddin)
2. Buddiannau ariannol
Mae’r Dirprwy Weinidog yn dal cyfrifon buddsoddi - nid oes gan y Dirprwy Weinidog unrhyw reolaeth dros benderfyniadau buddsoddi.
7. Eiddo
Mae’r Dirprwy Weinidog yn berchen ar dir sy’n cael ei osod ar rent.
11. Unrhyw wybodaeth berthnasol arall
Cyflogir aelodau agos o’r teulu gan sefydliadau darlledu.
Cyflogir aelodau agos o’r teulu mewn ysgolion uwchradd.
Bydd y Dirprwy Weinidog yn ymesgusodi o unrhyw benderfyniadau sy’n effeithio’n uniongyrchol ar yr ysgolion hyn.
Nerys Evans AS, y Dirprwy Weinidog dros Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol
(Aelod o’r Senedd dros Sir Gaerfyrddin)
5. Swyddi cyfarwyddwr a chyfranddaliadau
Roedd y Dirprwy Weinidog yn Gyfarwyddwr Glanmor Davies Evans & Son Ltd - ymddiswyddodd y Dirprwy Weinidog fel cyfarwyddwr adeg ei phenodi.
Mae aelodau agos o’r teulu yn Gyfarwyddwyr Glanmor Davies Evans & Son Ltd.
Mae’r Dirprwy Weinidog yn Gyfranddaliwr Cavendish Consulting Cymru Ltd - daeth ei chyfnod fel cyfranddaliwr i ben ym mis Mawrth 2026.
Cyfranddaliwr (llai nag 1%) o Group Ed Ltd - bydd y Dirprwy Weinidog yn ymesgusodi o unrhyw benderfyniadau sy’n effeithio’n uniongyrchol ar y cwmni hwn.
8. Cysylltiadau â sefydliadau cyhoeddus ac elusennau
- Roedd y Dirprwy Weinidog yn Ymddiriedolwr Neuadd Bentref Leol
- Roedd y Dirprwy Weinidog yn Ymddiriedolwr Carmarthen Domestic Abuse Services Limited
Ymddiswyddodd y Dirprwy Weinidog o’r ddwy rôl Ymddiriedolwr adeg ei phenodi.
10. Cyflogaeth flaenorol
Roedd y Dirprwy Weinidog yn Gyfarwyddwr Cavendish Consulting Cymru Ltd (a arferai gael ei alw yn Deryn Consulting) - daeth ei chyfnod i ben ym mis Mawrth 2026.
Mae cyn-gleientiaid Cavendish Consulting Cymru Ltd i’w gweld ar y Cofrestr Lobïwyr Proffesiynol PRCA.
Mark Hooper AS, y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth
(Aelod o’r Senedd dros Ben-y-bont Bro Morgannwg)
5. Swyddi cyfarwyddwr a chyfranddaliadau
Roedd y Dirprwy Weinidog yn Gyfarwyddwr:
- Talking Wales Ltd
- IndyCube Ltd
- Cambria Cydfuddiannol Ltd
Ymddiswyddodd y Dirprwy Weinidog cyn iddo gael ei benodi. Bydd y Dirprwy Weinidog yn ymesgusodi o unrhyw benderfyniadau sy’n effeithio’n uniongyrchol ar y sefydliadau hyn.
6. Partneriaethau a buddiannau busnes eraill
Mae’r Dirprwy Weinidog yn gyn-aelod dynodedig o Consultancy.Coop LLP - ymddiswyddodd y Dirprwy Weinidog cyn iddo gael ei benodi. Bydd y Dirprwy Weinidog yn ymesgusodi o unrhyw benderfyniadau sy’n effeithio’n uniongyrchol ar y sefydliad hwn.
10. Cyflogaeth flaenorol
Cyflogwyd y Dirprwy Weinidog cyn hyn gan Ynni Cymunedol Cymru - ymddiswyddodd y Dirprwy Weinidog cyn iddo gael ei benodi. Bydd y Dirprwy Weinidog yn ymesgusodi o unrhyw benderfyniadau sy’n effeithio’n uniongyrchol ar y sefydliad hwn.
Cyflogwyd y Dirprwy Weinidog cyn hyn fel Cynghorydd Arbennig yn Llywodraeth Cymru yn ystod y Cytundeb Cydweithio rhwng y Blaid Lafur a Phlaid Cymru.
Delyth Jewell AS, y Dirprwy Weinidog dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod
(Aelod o’r Senedd dros Flaenau Gwent Caerffili Rhymni)
8. Cysylltiadau â sefydliadau cyhoeddus ac elusennau
Mae’r Dirprwy Weinidog yn Aelod o Ganolfan y Glowyr Caerffili ar gyfer y Gymuned.
Elfyn Llwyd, y Cwnsler Cyffredinol
(nid yw’n Aelod o’r Senedd)
5. Swyddi cyfarwyddwr a chyfranddaliadau
Cyfarwyddwr Cwmni Pum Plwy Penllyn Cyf a Sesiwn Fawr Dolgellau - ymddiswyddodd adeg ei benodi.
Mae’n dal cyfranddaliadau yn Bys a Bawd a Menter Yr Eagles.
Bydd y Gweinidog Cabinet yn ymesgusodi o unrhyw benderfyniadau sy’n effeithio’n uniongyrchol ar y cwmnïau hyn.
8. Cysylltiadau â sefydliadau cyhoeddus ac elusennau
- Dirprwy Ganghellor Prifysgol Aberystwyth
- Cadeirydd Cwmni Pum Plwy Penllyn Cyf ac is-grŵp sy’n codi arian ar gyfer gosod cerflun
- Is-lywydd Eisteddfod Ryngwladol Llangollen
- Aelod o’r Bwrdd a Chyfreithiwr Anrhydeddus – Gorsedd y Beirdd
- Aelod o’r Cyngor – Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Er bod y tebygolrwydd yn isel iawn, os bydd y sefyllfa’n codi, bydd y Cwnsler Cyffredinol yn ymesgusodi o unrhyw benderfyniadau sy’n effeithio’n uniongyrchol ar y sefydliadau hyn.
Aelod o’r Bwrdd – Eisteddfod Genedlaethol Cymru - ymddiswyddodd y Cwnsler Cyffredinol adeg ei benodi.
