Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, cyhoeddodd y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, Rebecca Evans, fod pecyn buddsoddi cyfalaf gwerth £85 miliwn yn cael ei ddarparu fel rhan o Gyllideb Atodol Gyntaf 2019-20.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Mehefin 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, cyhoeddodd y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, Rebecca Evans, fod pecyn buddsoddi cyfalaf gwerth £85 miliwn yn cael ei ddarparu fel rhan o Gyllideb Atodol Gyntaf 2019-20.

Bydd y cyllid hwn yn rhoi hwb uniongyrchol i economi Cymru, gan ein helpu pe baem yn ymadael â'r UE heb gytundeb. Bydd y buddsoddiad yn cynnwys: 

  • £50 miliwn ar gyfer rhaglenni tai cymdeithasol llywodraeth leol, er mwyn helpu i ddarparu hyd at 650 o dai ledled Cymru, gan roi hwb i'r diwydiant adeiladu, a chreu gwaith am flwyddyn i 1,000 o bobl
  • £5m tuag at gynnal ein rhwydwaith o ffyrdd, er mwyn sicrhau ei fod yn ddibynadwy, yn gadarn, ac yn hwyluso teithio i bob rhan o Gymru
  • £10m ar gyfer Cronfa Dyfodol yr Economi, i gefnogi'r Cynllun Gweithredu ar yr Economi a chryfhau economi Cymru yn y tymor hir
  • £20m i lywodraeth leol – yn ychwanegol at y pecyn o gyllid cyfalaf gwerth £100m dros gyfnod o dair blynedd a gyhoeddwyd fel rhan o'r Gyllideb.

Bydd y Gyllideb Atodol Gyntaf yn cael ei gosod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol heddiw [dydd Mawrth 18 Mehefin] gan y Gweinidog Cyllid.
Wrth siarad ymlaen llaw, dywedodd Rebecca Evans:

“Dydy'r peryglon sy'n gysylltiedig â Brexit heb gytundeb ddim wedi diflannu. Ein dyletswydd ni fel llywodraeth gyfrifol ydy paratoi orau y gallwn ar gyfer pob canlyniad posibl.

“Bydd y pecyn hwn, sy'n werth £85m, yn ariannu amrywiaeth o brosiectau a all gael eu darparu'n gyflym o fewn y flwyddyn. Daw hyn â manteision economaidd sy'n gydnaws â'n blaenoriaethau, gan symbylu'r galw economaidd ehangach ar adeg pan fo angen hynny.

“Er ein bod yn cymryd camau ymarferol i baratoi ar gyfer Brexit heb gytundeb, dw i am ddatgan yn hollol glir – heb os nac oni bai byddai Brexit o’r fath yn gwneud difrod anferthol i Gymru a'i heconomi.”

Nid yw'r cyllid newydd hwn ond yn un o'r mesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu rhoi ar waith i ymateb i'r heriau difrifol i'n heconomi sy'n codi o ganlyniad i ymadael â'r UE. Yn ogystal â'n cronfa bwrpasol, Cronfa Bontio'r UE sy'n werth £50 miliwn, a'r pecyn Cyllid Busnes gwerth £121 miliwn, sy'n cael ei ddarparu drwy Fanc Datblygu Cymru, rydym yn parhau i ddefnyddio cyfres o fesurau i baratoi ar gyfer effeithiau Brexit.