Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Gweinidog Iechyd Eluned Morgan wedi cyhoeddi y bydd mwy o fyfyrwyr meddygol yn treulio eu cyfnod hyfforddi i gyd yng ngogledd Cymru fel rhan o’r camau i sefydlu ysgol feddygol yno.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Medi 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dywedodd Eluned Morgan:

Rydw i am roi cyfle i hyd yn oed fwy o fyfyrwyr astudio tra eu bod wedi’u lleoli yng nghymunedau’r Gogledd, oherwydd rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu gofal mor agos â phosibl i gartrefi pobl.

Gwyddom fod heriau wrth recriwtio staff yn y Gogledd, a dyna pam rydym am feithrin myfyrwyr meddygol sydd wedi’u haddysgu yma, a’u hannog i aros, yn gyntaf drwy Raglen C21 Gogledd Cymru, sydd wedi bod yn eithriadol o lwyddiannus, ac yn y tymor hirach drwy ysgol feddygol Gogledd Cymru.

Mae Grŵp Gorchwyl a Gorffen Ysgol Feddygol Gogledd Cymru wedi adrodd yn ôl ataf i, a byddaf yn sefydlu Bwrdd Rhaglen i roi eu hargymhellion ar waith, a gweithio i sefydlu ysgol feddygol annibynnol yn y Gogledd.

Mae rhaglen C21 Gogledd Cymru, sy’n cael ei rhedeg mewn partneriaeth gan Brifysgol Bangor a Phrifysgol Caerdydd, yn galluogi myfyrwyr i astudio ar gyfer eu gradd meddygaeth i gyd yn y Gogledd, gyda mwy o ffocws ar feddygaeth yn y gymuned ac ystod eang o leoliadau gwaith gan gynnwys blwyddyn lawn mewn meddygfa.

Eleni, bydd nifer y myfyrwyr ar y rhaglen yn ehangu o 20 i 25, ac i 40 o fyfyrwyr erbyn y flwyddyn nesaf.

Dywedodd Iwan Davies, Is-Ganghellor, Prifysgol Bangor:

Mae Prifysgol Bangor yn croesawu’r ffaith bod Rhaglen C21 Gogledd Cymru yn ehangu, gan adeiladu ar y bartneriaeth lwyddiannus gyda Phrifysgol Caerdydd fel cam pwysig i gyflymu’r broses o sefydlu Ysgol Feddygol annibynnol sy’n cael ei harwain gan ymchwil ym Mangor ar gyfer Gogledd Cymru.

Caiff rhaglen meddygaeth i raddedigion Prifysgol Abertawe hefyd ei hariannu i gynnig lle i 25 o fyfyrwyr yn ychwanegol yn 2021.

Dywedodd yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd:

Mae’n wych clywed bod llwyddiant partneriaeth feddygol C21 Gogledd Cymru yn cael ei gydnabod ar ôl y gwaith caled y mae’r timau ym Mangor a Chaerdydd wedi’i wneud. Mae’r rhaglen bellach wedi’i sefydlu, gydag adborth gwych gan fyfyrwyr, a bydd Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd yn parhau i feithrin capasiti ar gyfer addysg feddygol, mewn partneriaeth, i wireddu uchelgeisiau’r rhanbarth.