Bydd cytundeb sy'n rhoi mynediad am ddim at Microsoft 365 yn yr ysgol ac yn y cartref i bob dysgwr yn ysgolion gwladol Cymru yn parhau, yn dilyn cytundeb trwyddedu newydd.
Wrth i dymor newydd ddechrau, mae'r cytundeb newydd yn sicrhau bod Cymru yn parhau i fod ar flaen y gad ym maes addysg ddigidol. Mae mynediad ar gael drwy Hwb, platfform dysgu digidol arloesol Cymru, ac mae dysgwyr ac athrawon yn gallu lawrlwytho gwasanaethau Microsoft 365 yn eu cartrefi, am ddim.
Cymru oedd un o'r gwledydd cyntaf yn y byd i ddarparu'r fenter hon ac ers ei chyflwyno yn 2019, mae dros 1,450 o ysgolion a mwy na 122,000 o deuluoedd wedi elwa arni, yn arbed 84.99 iddynt ar drwydded Microsoft 365 bersonol. Ochr yn ochr â mynediad at feddalwedd, mae dros 320,500 o ddyfeisiau, gan gynnwys gliniaduron, wedi cael eu hariannu drwy raglen Hwb.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle:
"Roeddem yn un o'r gwledydd cyntaf i fuddsoddi fel hyn i gefnogi mynediad at Microsoft 365. Gan adeiladu ar y gwaith hwn, rydym unwaith eto yn gallu ariannu mynediad yn llawn i ysgolion.
"Eleni rydym wedi buddsoddi £12 miliwn mewn darpariaeth ddigidol ar gyfer ysgolion, ac rydym wedi ymrwymo'n llwyr i wella amgylcheddau digidol ysgolion, gyda £167 miliwn wedi'i fuddsoddi ers 2019. Mae hyn yn cynnwys darparu dyfeisiau i ddysgwyr ac ymarferwyr i sicrhau mynediad teg at dechnoleg ddigidol.
"Mae cael un cytundeb wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru yn dangos yr ymrwymiad i gydraddoldeb a chynhwysiant digidol i'n dysgwyr ac yn helpu i leddfu'r pwysau ariannol ar ysgolion, gan eu galluogi i wneud y mwyaf o fanteision technoleg ddigidol mewn addysg.
"Mae llawer o ddysgwyr eisoes yn elwa ar y cytundeb hwn, ond mae arnaf eisiau codi ymwybyddiaeth bod y gwasanaethau digidol hyn ar gael am ddim i ddysgwyr ac athrawon eu defnyddio gartref."
