Neidio i'r prif gynnwy

Mae cynllun peilot beiciau trydan sydd wedi derbyn mwy na £1 milliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru eisoes yn helpu trigolion lleol i gyfnewid eu car am feic mewn cymunedau ledled Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Medi 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r cynllun benthyca beiciau trydan, sy'n cael ei redeg gan Sustrans, yn cynnig amrywiaeth o feiciau trydan â batris am ddim ar fenthyg hirdymor i drigolion lleol nad ydynt yn beicio'n rheolaidd neu sy'n teimlo bod cost beiciau trydan yn rhwystr i'w defnyddio.

Mae'r cynllun yn cael ei gyflwyno mewn pum lleoliad ledled Cymru i ddechrau, y Rhyl, Abertawe, Y Drenewydd (gyda chysylltiadau ag Aberystwyth) a'r Barri, a bydd yn helpu Llywodraeth Cymru i gasglu data a fydd yn sail i argymhellion ynghylch y defnydd hirdymor o feiciau trydan a theithio llesol.

Wrth ymweld ag un o'r cyfleusterau benthyca beiciau trydan yn y Rhyl dywedodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, sydd â chyfrifoldeb am drafnidiaeth, Lee Waters:

"Rydym am i gerdded a beicio ddod yn ddewis arferol ar gyfer teithiau byrrach gan fod teithio llesol nid yn unig yn well i'n hamgylchedd, ond hefyd i'n hiechyd a'n heconomi.

"Rydyn ni'n gwybod y bydd hyn yn golygu newid diwylliannol enfawr a dyna pam rydyn ni'n buddsoddi mewn cynlluniau fel y cynllun peilot beiciau trydan i helpu pobl sydd erioed wedi beicio o'r blaen i newid eu dulliau teithio mewn ffordd fforddiadwy a chynaliadwy."

Dywedodd Johnny Eldridge, Swyddog Prosiect Sustrans ar gyfer Dinasoedd a Threfi Deniadol:

"Mae Sustans yn anelu at ei gwneud yn haws i bobl gerdded a beicio. Rydym yn gobeithio y bydd y cynllun yn galluogi mynediad fforddiadwy at feiciau trydan yn y Rhyl drwy brofi potensial cyfleusterau benthyca beiciau cymunedol. Bydd y prosiect peilot yn ein helpu i ddeall manteision beiciau â batri ar gyfer ystod amrywiol o ddefnyddwyr. Gellir gosod ategolion cario llwythi ar feiciau'r cynllun, gan eu gwneud yn amlbwrpas iawn.

"Rydym yn gobeithio y bydd yr e-feiciau hefyd yn cynnig ffordd hwyliog a phleserus o deithio a bydd yn cael effaith gadarnhaol ar les pobl."

Dau breswylydd lleol sydd wedi elwa ar y cynllun beiciau trydan yw Landen Sweeney a Marie Moore.

Mae Landen Sweeney yn gweithio fel Ceidwad Tref ar gyfer Ardal Gwella Busnes y Rhyl ac mae’n byw ym Mae Colwyn. Mae'n defnyddio ei feic ar gyfer ei daith ddyddiol i'r Rhyl ar gyfer gwaith.

Dywedodd Landen:

"Gan fy mod yn byw yn Hen Golwyn byddwn fel arfer yn gyrru i'r gwaith, sy’n cymryd llawer mwy o amser nag y dylai oherwydd bod y ffyrdd yn brysur, yn enwedig yn ystod misoedd yr haf. Felly pan ges i gynnig y cyfle i fenthyg beic trydan i feicio i'r gwaith penderfynais fynd amdani.

"Mae llwybr arfordirol Gogledd Cymru yn daith syml o Hen Golwyn i'r Rhyl gyda rhai golygfeydd arbennig ar hyd y ffordd, golygfeydd nad oeddwn i’n gallu eu gwerthfawrogi pan oeddwn i'n gyrru. Mae nid yn unig wedi arbed amser i mi ac wedi rhoi gwell cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith i mi, ond mae wedi bod yn wych ar gyfer fy iechyd a'm lles hefyd. Rwyf wedi dechrau colli pwysau ac wedi ennill ffitrwydd yn amlwg – felly mae’n fanteisiol ar sawl lefel!

"Does dim angen poeni os nad ydych yn feiciwr profiadol. Mae'r beic yn hawdd ei ddefnyddio a chan ei fod yn feic trydan mae bryniau'n hawdd diolch. Eto i gyd, mae’n ymarfer corff da gan fod yn rhaid i chi ddefnyddio’r pedalau. Hefyd mae'r bag mawr sydd ar ochr y beic yn darparu digon o le ar gyfer fy holl stwff gwaith ac mae gen i hyd yn oed le ar ôl i ddod â rhywfaint o siopa adref ar ddiwedd y dydd."

Mae Marie Moore yn ddynes wedi ymddeol sy'n byw yn Rhuddlan, taith feicio 15 munud o'r Rhyl. Mae hi wedi bod yn defnyddio ei beic bron iawn bob dydd ar gyfer teithiau cymdeithasol ac er mwyn cadw'n heini.

Dywedodd Marie:

"Mae’r beic gen i ers bythefnos bellach ac rydw i eisoes wedi teithio 130 milltir. Rydw i wrth fy modd! Mae mynd ar y beic trydan yn rhoi gwefr ac rydw i’n teimlo lawer yn fwy diogel nag ydw i ar feic arferol, ac yn enwedig pan rydw i ar fy mhen fy hun. Rydw i’n defnyddio’r car lawer yn llai aml ac felly rydw i’n gwario llawer iawn llai ar danwydd. Mae defnyddio’r beic trydan i wneud fy siopa lawer yn fwy ymarferol gan nad oes yn rhaid poeni am eistedd mewn traffig na dod o hyd i le parcio.

“Rydym yn ystyried o ddifrif gwerthu un o’n ceir a phrynu beic trydan yn ei le. Mae’n drueni nad ydynt ychydig yn fwy fforddiadwy!”

Mae Sustrans yn un o ddau gynllun peilot beiciau trydan sydd wedi derbyn rhan o’r pecyn £1 miliwn gan Lywodraeth Cymru.