Neidio i'r prif gynnwy

Mae Kirsty Williams, yr Ysgrifennydd Addysg, wedi cael y golau gwyrdd i fuddsoddi £15 miliwn mewn adeiladau newydd ar gyfer Ysgol Croes-y-ceiliog, Cwmbrân.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Rhagfyr 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd lle yn yr ysgol newydd ar gyfer 1,200 o ddisgyblion sy’n byw yn bennaf ar ochr ddwyreiniol Cwmbrân. Bydd y prosiect yn costio cyfanswm o £30miliwn a bydd Cyngor Torfaen yn darparu gweddill yr arian.

Mae Ysgol Croes-y-ceiliog yn rhan o fuddsoddiad £86miliwn sydd wedi’i glustnodi ar gyfer gwella adeiladau ysgolion yn Nhorfaen drwy’r Rhaglen Gyfalaf i Sicrhau Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif.

Dywedodd Kirsty Williams: 

“Bydd yr arian newydd hwn yn golygu y bydd Ysgol Croes-y-ceiliog yn cael adeilad newydd gwerth £30miliwn a fydd yn darparu’r cyfleusterau diweddaraf i ddisgyblion a’r amgylchedd gorau posibl i ddysgu ynddo.

“Rydym yn benderfynol o barhau i fuddsoddi yn ein hysgolion fel rhan o’n hymgais i godi safonau.”