Lleoedd ar gael nawr ar gyfer 2025/2026.
Ydych chi eisiau cyflwyno talent newydd a sgiliau blaengar i gryfhau eich tîm caffael? Mae Prentisiaeth Caffael Cymru bellach ar agor i gyflogwyr gymryd rhan ym mlwyddyn academaidd 2025/2026. Dyma raglen a ddatblygwyd gan grŵp llywio o weithwyr caffael proffesiynol dan arweiniad Llywodraeth Cymru, ac mae wedi’i gynllunio i adlewyrchu anghenion y sector wrth iddynt newid dros amser, ac i helpu sefydliadau ar draws Cymru i feithrin gallu hirdymor.
Bydd prentisiaid yn cael profiad ymarferol wrth weithio tuag at ennill cymhwyster cydnabyddedig – a hynny gan gyfrannu gwerth gwirioneddol o'r diwrnod cyntaf. Ar hyn o bryd mae ALS Training a Grŵp Llandrillo Menai yn gwahodd cyflogwyr i fynegi diddordeb os ydynt eisiau bod yn rhan o'r cyfle cyffrous hwn i ddatblygu'r genhedlaeth nesaf o weithwyr caffael proffesiynol.
I gael gwybod mwy, dewch i’n gweminar am ddim ar 14 Gorffennaf rhwng 11:30 a 12:30, a fydd yn cynnwys cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, ALS Training a Grŵp Llandrillo Menai. I gofrestru, e-bostiwch GalluMasnachol@llyw.cymru.
Os na allwch ddod i’r weminar ond eich bod eisiau mwy o wybodaeth neu’n awyddus fynegi eich diddordeb, cysylltwch â ni drwy anfon neges i enquiries@alstraining.org.uk neu so.jones@gllm.ac.uk.
Dim ond hyn a hyn o leoedd sydd, felly cysylltwch yn fuan rhag cael eich siomi.
