Neidio i'r prif gynnwy

Diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru a'r Undeb Ewropeaidd (UE), bydd Canolfan Dulais yn Llanbedr Pont Steffan yn cael ei gweddnewid i greu Canolfan Fenter Gymdeithasol, a fydd yn cefnogi busnesau bach ac elusennau lleol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Mehefin 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

ydd Tai Ceredigion, y landlord cymdeithasol lleol, yn elwa ar £1.5m o Gyllid gan Lywodraeth Cymru i Dargedu Buddsoddiad mewn Adfywio, gan gynnwys £1.1m ychwanegol o gyllid gan yr UE i helpu i greu lleoedd ar gyfer swyddfeydd o ansawdd uchel er mwyn cefnogi busnesau bach ac elusennau lleol.

Bydd y ganolfan bresennol yn cael ei dymchwel a chaiff adeilad newydd pwrpasol deulawr 1,250 metr sgwâr ei adeiladu i fod yn ganolfan fenter gymdeithasol a all gynnig lle i 15 o fusnesau bach a chanolig ac elusennau. Bydd hyn yn creu 20 o swyddi newydd i hyfforddwyr, mentoriaid, a staff cymorth, a bydd hefyd yn targedu tenantiaid presennol Tai Ceredigion sydd am ddechrau busnes neu ddatblygu busnes.

Bydd y Ganolfan Fenter Gymdeithasol yn cynnig lle i fusnesau newydd ddatblygu, yn creu mannau cydweithio, yn cynnig ystafelloedd cynadledda a hyfforddi, gan gynnwys band eang cyflym iawn. Mae cynlluniau ar waith i gynnig cyrsiau hyfforddi i bobl ifanc ac i gynnig cymorth i helpu pobl i ddychwelyd i'r gwaith.

Roedd Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, wedi ymweld â Chanolfan bresennol Dulais yr wythnos yma, a dywedodd:

“Mae hwn yn ddatblygiad lleol cyffrous a fydd yn creu swyddi, cyfleoedd a swyddfeydd deniadol i entrepreneuriaid newydd.

“Mae'r cyllid hwn yn rhan o'n rhaglen flaenllaw Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio, sy'n rhoi £100m o gyllid i raglenni ledled Cymru dros gyfnod o dair blynedd i gefnogi prosiectau adfywio yn ein trefi.”

Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog Brexit sy’n gyfrifol am arian Ewropeaidd yng Nghymru:

“Bydd y cyllid hwn yn mynd at greu safle cymdeithasol pwrpasol arbennig. Bydd yr adeilad newydd yn diwallu anghenion Llanbedr Pont Steffan o ran cynnig swyddfeydd priodol, a lle i sefydliadau elusennol a fydd yn helpu cymunedau difreintiedig i gael cymorth. Bydd yn mynd i'r afael â nifer o flaenoriaethau lleol ar sawl lefel, ac yn ychwanegu gwerth gwirioneddol i economi wledig a llesiant cymdeithasol Llanbedr Pont Steffan. Rwy'n edrych ymlaen at weld y prosiect hwn yn ffynnu."

Dywedodd Steve Jones, Prif Weithredwr Tai Ceredigion:

“Rydyn ni'n hynod o falch i sicrhau'r cyllid sylweddol hwn i allu darparu Canolfan Fenter Gymdeithasol o'r radd flaenaf i Lanbedr Pont Steffan. Bydd y Ganolfan yn rhoi hwb enfawr i'r economi leol ac fe fydd yn ganolbwynt i'r gymuned leol.

“Fel cymdeithas tai cymdeithasol, mae Tai Ceredigion yn darparu cartrefi fforddiadwy o ansawdd uchel i bobl leol, ac mae'n ymwybodol iawn o'r angen am gael swyddi a busnesau i gefnogi'r economi leol mewn ardaloedd gwledig. Mae hwn yn gyfle gwirioneddol i fuddsoddi yng nghanol Canolbarth Cymru drwy'r datblygiad newydd hwn. Rydyn ni'n edrych ymlaen at weld y gwaith yn mynd rhagddo dros y misoedd nesaf."

Dywedodd y Cynghorydd Rhodri Evans, aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion sy’n gyfrifol am yr Economi ac Adfywio:

“Mae Canolfan Dulais yn ddatblygiad hynod o bwysig i Lanbedr Pont Steffan. Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi £1.5 miliwn o arian o ffynhonnell gyllidol y rhaglen Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio at y datblygiad hwn sy’n cael ei weinyddu gan Gyngor Sir Ceredigion. Rydw i wrth fy modd cael cefnogi datblygu adeiladau o’r safon uchaf ar gyfer busnesau sy’n cychwyn ac yn tyfu, yn arbennig yn y sector Gofal Cymdeithasol sy’n sector sy’n tyfu’n gynyddol bwysig yn ein cymdeithas.”

Yn ystod y degawd diwethaf, mae prosiectau a ariennir gan yr UE yng Nghymru wedi creu mwy na 48,000 o swyddi a 13,000 o fusnesau newydd, gan helpu 86,000 o bobl i ddychwelyd i'r gwaith.