Neidio i'r prif gynnwy

Mae cwmni o Ben-y-bont ar Ogwr sy'n arbenigo mewn technolegau adfer ac ailgylchu gwres gwastraff yn buddsoddi mewn cyfarpar

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Gorffennaf 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r systemau hynny'n rhai ar raddfa fawr iawn sy'n cael eu teilwra at ofynion unigol. Bydd y cwmni'n creu 10 o swyddi newydd gyda chymorth Llywodraeth Cymru.

Mae Econotherm UK Ltd yn dylunio ac yn gweithgynhyrchu pibellau gwres a phibellau cyfnewid gwres i'w defnyddio mewn amryw o sectorau diwydiannol i adfer gwres gwastraff o ffwrneisi, boeleri, ffyrnau, ocsidyddion thermol, injans a phibellau mwg llosgyddion.


Mae'r gwres a adferir yn cael ei droi'n ddŵr twym, yn aer neu'n olew thermol sy'n cael eu defnyddio mewn prosesau gwaith, i wresogi ac i gynhyrchu trydan. Mae hynny'n arwain at ostyngiad sylweddol yng nghostau tanwydd ac allyriadau CO2 ei gleientiaid.  


Mae'r cwmni'n cyflenwi systemau i gwmnïau o'r radd flaenaf ledled y byd, a bydd y buddsoddiad mewn dau graen nenfwd 25 tunnell yn helpu i gyflymu prosesau cynhyrchu ac i wneud y cwmni'n fwy cystadleuol a bydd yn ei alluogi i ymdrin ag archebion mewn ffordd fwy effeithiol.   


Bydd buddsoddiad y cwmni a'r cymorth ariannol o £50,000 a gafwyd o dan Gynllun Cyllid Busnes Llywodraeth Cymru yn arwain at greu 10 o swyddi newydd ac yn diogelu 12 arall.  


Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi: 


"Mae Econotherm yn gweithio yn y sector technolegau gwyrdd glân, sy'n prysur dyfu. Mae ei gynhyrchion yn defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf ac yn cael eu hallforio i bedwar ban byd, gan roi hwb i allforion Cymru a helpu i leihau allyriadau CO2 ac i dorri costau tanwydd ar yr un pryd.


"Cafodd y dechnoleg y mae wedi'i datblygu gydnabyddiaeth o'r cychwyn cyntaf pan enillodd wobrau technoleg werdd Shell Oil ac Ymddiriedolaeth Garbon y DU. Dw i'n hynod falch bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r prosiect ehangu hwn a fydd o fudd i'r busnes ac yn creu swyddi newydd."


Mae technoleg Ecotherm, sy'n cael ei diogelu â phatentau, yn golygu y gall adfer gwres gwastraff o amgylcheddau garw megis allyriadau asidig iawn neu fwg ac ynddo ddeunydd gronynnol brwnt iawn. Mae ei gynhyrchion yn gallu ymdopi ag ystod eang o dymereddau, gan amrywio o 50 i 1000oC, ac maent hefyd yn gallu tynnu hyd at 25% yn fwy o ynni o wres gwastraff na chyfnewidyddion gwres confensiynol, a hynny mewn amgylcheddau garw lle nad yw cyfarpar confensiynol yn addas.


Dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr, Mark Boocok:

"Ar ôl 10 mlynedd o waith caled, a wnaed yn bennaf mewn cyfnod pan oedd yr amodau economaidd yn anarferol ledled y byd, mae'r cwmni'n cael cydnabyddiaeth ym mhedwar ban byd bellach am ei thechnoleg, ac mae rhai o gwmnïau mwyaf y byd yn gwsmeriaid inni.    


"Cafodd Ecotherm gefnogaeth hynod effeithiol gan Lywodraeth Cymru o'r cychwyn cyntaf, a hynny ar ffurf grantiau a buddsoddiad ecwiti gan Busnes Cymru. Mae'r cymorth pellach hwn i wella capasiti wedi dod ar amser da iawn a bydd yn sicrhau y byddwn ni'n gallu fod yn fwy effeithlon wrth weithio ar archebion newydd mewn.


Ers i'r cwmni gael ei sefydlu yn 2007, mae wedi darparu cynhyrchion sydd wedi'u teilwra at ofynion unigol, ac sy'n amrywio o ran maint o ychydig o gilowatau i nifer o fegawatau, i fusnesau mewn bron pob un o'r sectorau diwydiannol.    


Yn fwy diweddar, mae ei gynhyrchion wedi cael cydnabyddiaeth gan sefydliadau petro cemegol mawr, gan gynnwys Dow Chemical a Chorfforaeth Alldraeth Genedlaethol Tsieina. Maen nhw wedi prynu cyfarpar adfer gwres Ecotherm a'i ddefnyddio'n llwyddiannus ac wedi archebu cyfarpar mwy o faint.

Yn ddiweddar, cafodd ei ddewis hefyd i gyflenwi pibellau gwres ar gyfer rhagwresogyddion aer i Exxon Mobil, ac ef fydd unig gyflenwr cymeradwy’r cwmni hwnnw. Mae wrthi hefyd yn gweithio ar ennill archebion oddi wrth burfeydd yn Asia a'r UDA.    

Mae ei gwsmeriaid yn amrywio o QinetiQ a Toyoda i Spirax Sarco, Ideal Standard a Saint Gobain. Cafodd archeb yn ddiweddar am uned a fydd yn cael ei defnyddio un o longau Llynges yr UDA, gan ychwanegu at unedau a ddarparodd yn y gorffennol i'r gwasanaethau milwrol yn y DU a'r UDA. Mae ganddo rwydwaith o ddosbarthwyr ym mhedwar ban byd ac mae'n allforio i Ogledd America, y Dwyrain Canol, Ewrop, Gwledydd Llychlyn a Mongolia, a chafodd archebion yn ddiweddar o Wrwgwái ac India.