Neidio i'r prif gynnwy

Bydd gweithdy roboteg uwch-dechnoleg yn cael ei sefydlu yng Nghymoedd Technoleg Cymru i helpu i ysbrydoli myfyrwyr lleol i fod y genhedlaeth nesaf o beirianwyr, gan helpu i ddarparu nifer o recriwtiaid newydd talentog ar gyfer busnesau gweithgynhyrchu uwch lleol, yn ôl y Gweinidog Economi Vaughan Gething.

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Tachwedd 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd y gweithdy'n cael ei sefydlu yng Ngholeg Gwent gyda chanolfan beilot yn Ysgol Gyfun Tredegar, diolch i fuddsoddiad o £600,000 gan Lywodraeth Cymru.

Mae'r fenter yn rhan o raglen Cymoedd Technoleg gwerth £100 miliwn Llywodraeth Cymru, sy'n anelu at sefydlu Cymoedd De Cymru a Blaenau Gwent yn arbennig fel canolfan a gydnabyddir yn fyd-eang ar gyfer datblygu technolegau newydd.

Bydd offer arbenigol yn y gweithdy, a hyfforddiant cysylltiedig, yn helpu Coleg Gwent i roi'r hyfforddiant i ddysgwyr i ddiwallu anghenion sgiliau diwydiannau arloesol yn y dyfodol.

Bydd y ganolfan beilot yn Ysgol Gyfun Tredegar yn gweld myfyrwyr o'r ardal leol yn profi sesiynau blasu gan ddefnyddio'r gweithdy, gan helpu i godi dyheadau pobl ifanc nad ydynt efallai wedi ystyried cyfleoedd gyrfa mewn peirianneg roboteg o'r blaen.

Mae'r fenter yn rhan o ymdrechion Llywodraeth Cymru i greu mwy o swyddi gwell yn nes at adref, gan helpu mwy o bobl ifanc i deimlo'n hyderus wrth gynllunio eu dyfodol yng Nghymru.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

"Ein gweledigaeth yw creu canolfan dechnoleg uchel fywiog o'r safon uchaf yn y cymoedd a all ddenu mewnfuddsoddwyr o fewn y sector gweithgynhyrchu uwch a manteisio ar y cyfleoedd sy'n deillio o dechnolegau newydd ac sy'n datblygu.

"Bydd hyn yn dibynnu ar weithlu clyfar sydd wedi'i hyfforddi yn yr holl sgiliau cywir, felly mae'n hanfodol bod gan ysgolion a cholegau'r adnoddau sydd eu hangen arnynt i baratoi cenedlaethau'r dyfodol gyda'r sgiliau a'r profiad sydd eu hangen arnynt i ymgymryd â'r swyddi gwerth uchel hyn. Bydd hyn yn ein gweld yn cyflawni amcanion ein rhaglen uchelgeisiol ar gyfer y Cymoedd Technoleg.

"Mae'r gweithdy roboteg hwn hefyd yn ffordd arall i ni wneud i bobl ifanc deimlo'n hyderus wrth gynllunio eu dyfodol mewn Cymru fwy llewyrchus, tecach a gwyrddach. Fy neges i iddyn nhw yw does dim rhaid i chi fynd allan i fynd ymlaen."

Dywedodd Guy Lacey, Pennaeth Coleg Gwent:

"Mae'r Coleg yn chwarae rhan allweddol wrth hyfforddi gweithlu'r dyfodol ac mae'r buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru yn y cyfleusterau modern, cyfoethog hyn yn wych.

"Rydym yn falch iawn o'r cysylltiadau cryf sydd gennym ag ysgolion partner ym Mlaenau Gwent a bydd gweithio gydag Ysgol Gyfun Tredegar yn gyfle i annog mwy o bobl ifanc i ddilyn llwybrau technoleg yn eu hastudiaethau."

Dywedodd Charlotte Leaves, Pennaeth Ysgol Gyfun Tredegar:

"Mae datblygu Hyb Peirianneg yn Ysgol Gyfun Tredegar yn gyfle gwych i gyfoethogi'r cwricwlwm a chodi dyheadau ein myfyrwyr Peirianneg.

"Rydym yn teimlo’n gyffrous i gydweithio â Choleg Gwent ar hyn wrth i ni anelu at uwchsgilio myfyrwyr a staff mewn Technolegau Gweithgynhyrchu a Pheirianneg Uwch yr 21ain ganrif.

"Ein nod yw sicrhau bod myfyrwyr Tredegar yn gallu dysgu sgiliau arloesol a fydd yn cefnogi sector cynyddol o beirianwyr o'r radd flaenaf yn y Cymoedd. Rydym yn gobeithio y bydd y prosiect yn cyflawni ei botensial llawn ac y bydd y sgiliau a fegir gan ein disgyblion yn denu buddsoddiad o ddiwydiannau sy'n arwain y sector gan ddarparu swyddi â chyflog da mewn diwydiannau cynaliadwy ar gyfer yr ardal."