Neidio i'r prif gynnwy

Airflo yw’r unig gwmni yn y byd sy’n cynhyrchu ystod o leiniau genweirio sy’n gyfan gwbl ddi-PVC. Y mae felly’n arloesydd blaenllaw yn y sector.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Mehefin 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:
  • Llywodraeth Cymru’n neilltuo £566,000 o Gronfa Dyfodol yr Economi i Airflo Fishing Products Ltd.
  • Y cwmni o Aberhonddu yw prif gynhyrchydd y diwydiant o leiniau pysgota arbenigol di-PVC
  • Mae’r buddsoddiad yn diogelu 44 ac yn creu 21 o swyddi, gan baratoi’r ffordd ar gyfer allforio pedair gwaith yn fwy o gynnyrch i Ogledd America

Mae Llywodraeth Cymru’n buddsoddi £566,000 i helpu Airflo, cwmni cynhyrchu leiniau pysgota arbenigol, i dyfu a sicrhau llewyrch y ffatri yn Aberhonddu at y dyfodol, gan greu 21 a diogelu 44 o swyddi, cyhoeddodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething.

Yn eu ffatri yn Ystâd Ddiwydiannol Ffrwdgrech yn Aberhonddu sy’n eiddo i gwmni Mayfly Group o’r Unol Daleithiau, mae Airflo wedi tyfu’n llwyddiant allforio yng Nghymru. Mae’r archebion cyn dechrau’r tymor yn awgrymu bedair gwaith yn fwy o fusnes â Gogledd America. Bydd buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn y cwmni nid yn unig yn cynyddu ei allforion i Ogledd America ond yn ei helpu hefyd i fentro i farchnadoedd newydd fel Japan, Seland Newydd a De Affrica.

Bydd buddsoddiad Cronfa Dyfodol yr Economi yn golygu y bydd Airflo’n gallu dod â chynnyrch newydd i’r farchnad. Bydd yr offer newydd yn cymryd lle’r hen gynnyrch gan gynyddu cynhyrchiant a sicrhau bod swyddi’n aros yng Nghymru a bod ymchwil a datblygu’n parhau yn Aberhonddu.  Mae’n dilyn buddsoddiad sylweddol o bron £2 miliwn gan y busnes yn ei offer yn Aberhonddu ers 2020.

Am ragor na 70 o flynyddoedd, mae’r rhan fwyaf o leiniau genweirio wedi’u gwneud o PVC (polyvinyl chloride), plastig sy’n naturiol o anystwyth. Mae leiniau PVC yn dechrau dadelfennu’n syth ar ôl eu cynhyrchu.  Gan nad oes ffordd ddiogel o ailgylchu PVC, mae hynny’n arwain at ollwng plastig yn yr amgylchedd, gan effeithio’n arbennig ar fiomas organeddau pridd a’u gallu i oroesi.

Mae’r prosiect yn gyson â’r ymrwymiad yn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru i adeiladu economi sy’n seiliedig ar egwyddorion gwaith teg, cynaliadwyedd a diwydiannau a gwasanaethau’r dyfodol. Mae’n cyd-fynd hefyd â nifer o amcanion Cynllun Gweithredu ar yr Economi Llywodraeth Cymru, gan gynnwys:

  • cefnogi busnesau i sbarduno ffyniant
  • mynd i’r afael ag anghydraddoldebau rhanbarthol a hyrwyddo gwaith teg
  • sbarduno twf cynaliadwy a milwrio yn erbyn y newid yn yr hinsawdd.

Wrth gyhoeddi’r dyfarniad, dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

“Mae’n bleser gen i gyhoeddi’r buddsoddiad sylweddol hwn i gefnogi diwydiant arbenigol ym Mhowys.

“Mae Airflo yn gwmni unigryw sy’n cynhyrchu cynnyrch arloesol sydd â’r potensial ar gyfer ei werthu ledled y byd.  Bydd y prosiect hwn felly yn hwb i’r economi leol yn Aberhonddu, gan ddod â chyfleoedd gwaith o ansawdd a chyflogau cystadleuol iawn i ardal wledig. Yn ogystal â hynny, bydd yn arwain at ddatblygu cynnyrch newydd fydd yn helpu i ddiogelu’r amgylchedd.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddiogelu’r amgylchedd ac mae’r buddsoddiad hwn yn cyd-fynd â’r amcan tymor hir o roi’r gorau fesul cam ar ddefnyddio cynnyrch untro diangen, yn enwedig plastig, a rhoi’r gorau’n llwyr i anfon plastig i safleoedd tirlenwi.

Wrth groesawu cefnogaeth Llywodraeth Cymru, dywedodd Cyfarwyddwr Cyllid ac Adnoddau Dynol Airflo, Sherrie Woolf:

"Rydym wrth ein boddau bod Llywodraeth Cymru’n helpu’n busnes i dyfu.  Mae gennym gyfleoedd anferth i gynyddu’n hallforion ac ar y funud, dydyn ni ddim yn gallu cwrdd â’r galw!

“Bydd y benthyciad hwn yn ein helpu i ychwanegu offer cynhyrchu sylweddol a chreu 21 o swyddi amser llawn newydd yn y cwmni. Mae’n wych bod Cymru’n agored i fusnes!”

Mae Contract Economaidd Llywodraeth Cymru’n rhoi blaenoriaeth i anghenion cymdeithasol ac amgylcheddol Cymru gan ddatblygu yr un pryd economi lesiant wytnach a mwy ffyniannus.

Mae contract economaidd eisoes wedi’i lofnodi rhwng Airflo a Llywodraeth Cymru a bydd y buddsoddiad newydd hwn yn arwain at gontract newydd gwell cyn pen 12 mis ar ôl derbyn y cyllid.