Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r gwaith o adeiladu melin rholio dur newydd yng Nghaerffili yn mynd rhagddo ar hyn o bryd diolch i fuddsoddiad ariannol gan Lywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Gorffennaf 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r buddsoddiad o £1 miliwn gan Caledan Ltd o Ystâd Ddiwydiannol Penallta, Hengoed wedi cael £134,000 o help ariannol gan Lywodraeth Cymru.  Mae hyn wedi helpu’r cwmni i fwrw ‘mlaen â’r buddsoddiad yng Nghymru.

Bydd y felin newydd yn defnyddio dur sy’n cael ei wneud yn lleol, yn bennaf yn safle Tata Steel yn Llanwern, i brosesu a chyflenwi rhannau o fframiau haearn sydd un ai wedi’u cynllunio’n arbennig ar gyfer y prosiect neu sydd wedi’u gwneud yn barod ar gyfer y diwydiant adeiladu.

Dywedodd Chris Morton, Rheolwr Gyfarwyddwr Caledan:  

“Gyda’r felin rholio dur newydd hon, byddwn yn gallu darparu gwasanaethau heb eu hail - popeth o ddylunio, cynhyrchu a saernïo i gyflawni a gosod gan ddefnyddio ein rhwydwaith o osodwyr.”

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith:  

“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i helpu’r diwydiant dur yng Nghymru; rwy’n falch iawn bod y prosiect hwn yn helpu i wneud hynny.

“Nid yn unig mae’r buddsoddiad yn diogelu menter newydd ond bydd yn creu swyddi newydd ac yn gwella’r cyfleoedd o fewn y gadwyn gyflenwi leol.  Hefyd, mae’n cefnogi nodau arloesi’r sector adeiladu o ran cynhyrchu nwyddau oddi ar y safle a defnyddio dulliau adeiladau modern.”

Ychwanegodd Chris Morton:  

“Roedd yr help a gawsom gan Lywodraeth Cymru’n hanfodol i sicrhau ein bod yn gallu rhoi’r prosiect hwn ar waith yng Nghymru yn hytrach na rhoi prosiect arall ar waith yng Nghanolbarth Lloegr.

“Nawr, gallwn fanteisio ar y bwlch yn y farchnad a phrynu a chynhyrchu stripiau o ddur oer at ein dibenion ein hunain ac er mwyn cyflenwi’r diwydiant adeiladu ehangach.

“Bydd yn ein helpu i fod yn effeithiol ac i wneud arbedion i’n busnes a chan y byddwn hefyd yn cyflenwi’r farchnad leol, byddwn yn arbed arian o ran costau teithio ac o ganlyniad, yn gallu lleihau ein hôl troed carbon hefyd.”

Yn dilyn cynnydd mewn cynhyrchu oddi ar y safle gwaith a defnyddio dulliau cynhyrchu mwy modern, rydym wedi gweld cynnydd mewn dylunio a defnyddio fframiau dur ‘modwlar’, gan gynnwys y rheini sydd wedi’u gwneud gyda phren a systemau sydd â fframiau dur.  

Mae fframiau dur yn ddull cost-effeithiol o ddarparu ‘amlen’ adeilad.  Mae llawer o brosiectau proffil uchel yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig, gan gynnwys yr ATRiuM: Ysgol Diwydiannau Creadigol a Diwylliannol Prifysgol Caerdydd; pencadlys newydd WJEC ar Rodfa’r Gorllewin yn Nghaerdydd a Ferrera Tower yng Nghei Meridian Abertawe.

Mae adeiladu yn un o sectorau blaenoriaeth economaidd pwysicaf Llywodraeth Cymru ac mae Caledan wedi gallu manteisio ar raglen cymorth busnes Dyfodol Adeiladu Cymru.

Gyda help ariannol Llywodraeth Cymru, nod y rhaglen yw datblygu dyfodol cynaliadwy’r sectorau adeiladu yng Nghymru yn yr hirdymor a’i helpu i ehangu drwy helpu busnesau i berfformio’n well a bod mor gystadleuol â phosibl.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i caledan.co.uk (Saesneg yn unig - dolen allanol).