Bydd mwy o oroeswyr cam-drin domestig a thrais rhywiol yn gallu cael help mewn mannau diogel a chroesawgar ledled Cymru, diolch i £3.1 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru.
I lawer o bobl sy'n dianc rhag camdriniaeth, mae llochesi a chanolfannau cymorth yn darparu llety brys a lle ar gyfer cyngor a chymorth arbenigol. Er mwyn gwneud hyn yn effeithiol, rhaid i adeiladau fodloni safonau modern ar gyfer diogelwch, preifatrwydd a hygyrchedd. Bydd y cyllid hwn yn helpu sefydliadau i wella ac ehangu eu hadeiladau fel y gallant gefnogi mwy o bobl.
Bydd grantiau o hyd at £350,000 yn helpu sefydliadau i brynu, uwchraddio ac atgyweirio adeiladau, gwella diogelwch, a chreu mannau mwy hygyrch fel y gall mwy o bobl gael cymorth pan fydd ei angen arnynt.
Un sefydliad sy'n derbyn cyllid yw Cymorth i Fenywod Cyfannol, sydd wedi derbyn £350,000 i sefydlu Hwb pwrpasol yng Nghaerffili. Bydd yr Hwb yn darparu gofod canolog sy'n seiliedig ar drawma i'r rhai yr effeithir arnynt gan Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) ledled y fwrdeistref. Bydd y ganolfan amlswyddogaethol, hygyrch i bobl anabl yn cynnig cymorth galw heibio, allgymorth, cwnsela, rhaglenni adfer grŵp, a gwasanaethau arbenigol i blant a phobl ifanc. Bydd ardaloedd preifat i gefnogi apwyntiadau gydag asiantaethau partner, gan gynnwys iechyd a'r heddlu, yn sicrhau ymagwedd gyfannol at ofal.
Dywedodd Debra Richards, Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Datblygu Cyfannol Cymorth i Fenywod:
Bydd y cyllid hwn yn gwella'r gefnogaeth sydd ar gael i unigolion a theuluoedd yng Nghaerffili yn uniongyrchol, gan sicrhau eu bod yn gallu cael gafael ar yr help sydd ei angen arnynt mewn amgylchedd sy'n teimlo'n ddiogel, yn groesawgar ac yn canolbwyntio ar eu lles. I lawer, bydd camu i mewn i'r Hwb yn nodi dechrau eu taith i ailadeiladu eu bywyd ar ôl camdriniaeth. Diolch i'r buddsoddiad hwn, gallwn gynnig gofod cyfrinachol a hygyrch sy'n darparu'r preifatrwydd, urddas a chefnogaeth arbenigol sydd eu hangen ar bobl i symud ymlaen mewn bywyd heb gamdriniaeth.
Dywedodd Jane Hutt, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol:
Gall cael mynediad at fannau diogel wneud gwahaniaeth hanfodol. Mae'n golygu bod gan rywun sy'n ffoi rhag cam-drin rhywle diogel i fynd, lle maen nhw'n cael eu cefnogi a'u diogelu. Bydd y buddsoddiad hwn yn cryfhau gwasanaethau ledled Cymru fel y gall mwy o oroeswyr gael help yn gyflym a dechrau symud ymlaen yn hyderus.
Mae'r llinell gymorth Byw Heb Ofn ar gael am ddim, 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, i unrhyw un sy'n cael eu heffeithio gan gam-drin domestig neu drais rhywiol ar 0808 80 10 800.
