Neidio i'r prif gynnwy

Mae cynllun sydd wedi cael gwerth £7.3 miliwn o gymorth er mwyn helpu myfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig ddatblygu eu gyrfaoedd wedi cael ei gyhoeddi.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Gorffennaf 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dros y tair blynedd nesaf, bydd cynllun GO Cymru: Cyflawni trwy Brofiad Gwaith yn helpu dros 2,000 o fyfyrwyr gael i ddod o hyd i brofiad gwaith.

Gan ychwanegu at brofiad y rhaglen GO Cymru ddiwethaf, bydd myfyrwyr yn gallu manteisio ar sesiynau blasu a chyfleodd cysgodi, yn ogystal â phrofiad gwaith gyda thâl, gyda chyflogwyr mewn meysydd sy’n mynd â’u bryd.

Nod y cynllun, sydd wedi cael £4.7 miliwn gan gronfeydd yr UE, yw creu mwy o gyfleoedd i raddedigion o gefndiroedd difreintiedig a’u helpu i ddod o hyd i waith yn yr hirdymor 

Bydd cyfleoedd profiad gwaith yn cael eu creu mewn sectorau pwysig gan gynnwys gweithgynhyrchu uwch, y gwasanaethau ariannol a phroffesiynol, gwyddorau bywyd, TGCh, twristiaeth a’r sector bwyd a diod.

Bydd myfyrwyr sydd o gefndiroedd difreintiedig, sydd ag anableddau neu sydd â chyfrifoldebau gofalu ynghyd â’r rheini sydd o gefndiroedd du a lleiafrifoedd ethnig, yn cael budd o’r cynllun hwn.

Dywedodd Julie James, y Gweinidog dros Sgiliau a Gwyddoniaeth:  

“Mae’r ffaith ein bod yn gallu ymgeisio am arian o gronfeydd yr Undeb Ewropeaidd yn ein helpu ni i fuddsoddi a chreu cyfleoedd rhagorol i bobl ifanc er mwyn gwella eu dyfodol.  Mae’r cynllun hwn yn enghraifft wych o hynny.

“Bydd dros 2,000 o bobl ifanc talentog Cymru yn gallu cael budd o’r cyfleoedd i dreulio amser gyda chyflogwyr, gwella eu CV a chael y cyfle cyntaf i ddechrau ac i ddatblygu eu gyrfa.

“Dyma ddangos eto pa mor bwysig yw hi bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gallu cadarnhau wrthym ni bod pob ceiniog a gaiff Cymru gan yr UE yn ddiogel er gwaethaf y ffaith ein bod wedi dewis rhyddhau ein hunain o’r UE.”

Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW), ynghyd â Phrifysgolion Cymru, fydd yn arwain y cynllun Cyflawni trwy Brofiad Gwaith. 

Dywedodd Dr David Blaney, Prif Weithredwr HEFCW: 

“Diolch i’r arian hwn gan yr UE, rydym wedi gallu datblygu cynllun Cyflawni trwy Brofiad Gwaith, cynllun cyffrous newydd sy’n dod o dan ymbarél cynlluniau GO Cymru.  

“Bydd y cynllun hwn yn gallu ein helpu i sicrhau bod profiad gwaith yn cael ei dargedu’n uniongyrchol ar gyfer y myfyrwyr hynny sydd ei angen fwyaf ac sy’n cael cryn drafferth i ddod o hyd i gyfleoedd profiad gwaith.  Fel gyda chynlluniau eraill GO Cymru, rwy’n edrych ymlaen at glywed straeon llwyddiant y myfyrwyr fydd, dros y blynyddoedd nesaf, yn cael budd ohono.”