Mae Llywodraeth Cymru wedi neilltuo £24 miliwn ar gyfer benthyciadau i ryddhau tir i ddatblygu tai ac adeiladu rhagor na 600 o gartrefi newydd arno ledled Cymru.
Mae'r cynllun Tir ar gyfer Tai yn neilltuo cyllid ar gyfer benthyciadau i ddatblygwyr i gaffael tir ar gyfer datblygu tai cymdeithasol a masnachol ledled y wlad.
Bydd yr arian hanfodol hwn yn helpu i sicrhau nad yw cyfleoedd datblygu yn cael eu colli, gan ddarparu cymorth yn aml cyn y gellir cynnig grant adeiladu.
Pan fydd cyllid adeiladu wedi cael ei sicrhau, caiff y benthyciad ei ad-dalu ac yna ei ail-fuddsoddi mewn prosiectau newydd, gan greu cylch cynaliadwy ar gyfer datblygu tai.
Cafodd Tai Wales & West £3 miliwn fel benthyciad tuag at gaffael tir yn Grangetown, Caerdydd. Cafodd grant o £10 miliwn wedi hynny i ddatblygu 100 o gartrefi cymdeithasol am rent fforddiadwy.
Ymwelodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol, Jayne Bryant, â'r datblygiad yn Ffordd yr Haearn yn ddiweddar, lle cafodd gwrdd â thenantiaid a oedd wedi symud i'w cartrefi newydd ar ôl eu cwblhau ym mis Rhagfyr 2021.
Mae'r safle yn darparu cymysgedd o fathau o lety, gan ymateb i'r galw lleol am dai i deuluoedd. Mae ei leoliad yn strategol, ger canol y ddinas, gyda chysylltiad ardderchog ag amwynderau a gwasanaethau lleol.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:
Rwy'n hynod falch bod ein Cynllun Tir ar gyfer Tai yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ledled Cymru.
Pan fyddwn ni'n buddsoddi mewn cynlluniau fel hyn, rydyn ni'n gwneud mwy na phrynu tir - rydyn ni'n buddsoddi mewn dyfodol gwell i gannoedd o bobl.
Mae cwrdd â'r trigolion yn Ffordd yr Haearn a gweld â'm llygaid fy hunan sut mae'r cyllid hwn wedi creu cymunedau go iawn, nid dim ond tai, lle gall pobl fwrw gwreiddiau ac adeiladu bywydau ystyrlon gyda'i gilydd, yn gwneud ein holl waith caled yn werth chweil.
Mae'r cynllun hefyd wedi bod yn allweddol i helpu i adeiladu piblinell gref o safleoedd, ac mae llawer ohonynt wedi dod â ni'n nes at ein nod o 20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon isel newydd yn ystod tymor y Senedd hon.
Dywedodd Stuart Epps, Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid, Asedau a Datblygu yn Dai Wales & West:
Ffordd yr Haearn oedd y cynllun cyntaf o dai fforddiadwy i’w rhentu lle gwnaethom gais am gyllid benthyciad o dan y cynllun Tir ar gyfer Tai.
Yn Ffordd yr Haearn rydym wedi gallu darparu 100 o gartrefi i bron i 350 o drigolion, gan roi sylfaen gadarn i deuluoedd adeiladu bywydau iach a hapus.
Ar y pryd, yn 2018, caniataodd y benthyciad inni brynu’r safle a dylunio ein datblygiad i ddiwallu anghenion cymuned Grangetown. Un o’r pethau allweddol yr oedd eu hangen ar y gymuned oedd cartrefi teulu diogel a sicr gyda gerddi, am oes. Felly, rydym wedi gallu darparu 52 o dai gyda lle awyr agored yn ogystal â 48 o fflatiau.
Rydym wedi defnyddio’r cyllid hwn ar gyfer nifer o ddatblygiadau tai ledled Cymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae cael y benthyciadau hyn gan Lywodraeth Cymru yn fuddiol gan ei fod yn caniatáu i ddarparwyr tai brynu tir, gan ryddhau arian arall y gallwn ei fuddsoddi mewn adeiladu a chynllunio mwy o gartrefi.