Neidio i'r prif gynnwy

Cyfanswm y cyllid ar gyfer y contract fferylliaeth gymunedol yn 2017-18 fydd £144.3 miliwn, meddai'r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Ebrill 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y cyllid, sy’n cael ei gyhoeddi heddiw, yn gwella mynediad i wasanaethau a ddarperir gan fferyllfeydd cymunedol - megis y gwasanaeth mân anhwylderau a brechiadau rhag y ffliw mewn fferyllfeydd. Bydd hefyd yn cefnogi rhoi rhaglen ansawdd fferyllfeydd ar waith ac yn cefnogi cydweithio rhwng fferyllfeydd a darparwyr gofal sylfaenol eraill.

Dywedodd Vaughan Gething: 

“Y llynedd, fe wnes i ailddatgan ymrwymiad Llywodraeth Cymru i'r sector fferylliaeth gymunedol fel rhan annatod o wasanaeth sector gofal sylfaenol cryf yng Nghymru."

“Ar adeg pan fo fferyllfeydd cymunedol yn Lloegr dan fygythiad o orfod cau o ganlyniad i doriadau cyllid o dros 7 y cant, dywedais nad oedd unrhyw gynigion i leihau buddsoddiad mewn fferylliaeth gymunedol yma yng Nghymru. Mae'r cyhoeddiad heddiw yn dangos ein bod wedi cyflawni ein haddewid.”

Yn ogystal â'r arian a gyhoeddwyd heddiw, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Iechyd hefyd y bydd Llywodraeth Cymru'n darparu cyllid yn 2018-19 a 2019-20 i drefnu bod cymhwysiad y Dewis Fferyllfa ar gael i holl fferyllfeydd Cymru.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd: 

“Bydd Dewis Fferyllfa yn cefnogi fferyllwyr i ddarparu ystod gynyddol o wasanaethau clinigol sy'n canolbwyntio ar y claf.  Mae ein cynllun mân anhwylderau'n caniatáu i bobl sydd â mân anhwylderau weld fferyllwyr medrus iawn i gael cyngor a thriniaeth, gan ryddhau amser ymarferwyr cyffredinol i ganolbwyntio ar achosion mwy cymhleth a lleihau amseroedd aros i gleifion.

“Bydd  Dewis Fferyllfa hefyd yn caniatáu i fferyllwyr gael mynediad i gofnodion meddygol cryno cleifion, gan leihau'n sylweddol nifer y bobl y mae angen eu hatgyfeirio at ymarferwyr  cyffredinol, gwasanaethau y tu allan i oriau , ac adrannau damweiniau ac achosion brys gan gyflwyno gwelliannau sylweddol mewn diogelwch cleifion. Rwyf wrth fy modd ein bod yn trefnu bod cymhwysiad TG Dewis Fferyllfa ar gael i holl fferyllfeydd Cymru.

“Mae'r cytundeb hwn yn enghraifft bellach o sut y gallwn wneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl Cymru trwy fynd ati i gydweithio.”

Dywedodd Phil Parry, fferyllydd sy'n cadeirio Fferylliaeth Gymunedol Cymru, y cyhoeddiad o gyllid gan Lywodraeth Cymru a dywedodd:

“Rydyn ni wrth ein bodd bod Llywodraeth Cymru yn parhau i gydweithio gyda ni fel proffesiwn er mwyn manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd i foderneiddio a defnyddio'r rhwydwaith fferyllfeydd yng Nghymru ar un pryd ag y mae cyllid yn cael ei dorri yn Lloegr. Mae'r ymrwymiad i drefnu bod platfform Dewis Fferyllfa ar gael i bob fferylliaeth gymunedol yn gam i'w groesawu'n arbennig ac yn cadarnhau ein rôl fel rhan o'r teulu gofal iechyd yng Nghymru.

“Rydyn ni'n falch iawn o weld canlyniad lle mae cyllid yn cael ei sicrhau i gynyddu mynediad i wasanaethau fferylliaeth ledled Cymru ac mae Bwrdd Fferylliaeth Gymunedol Cymru wedi ymrwymo i sicrhau lefelau uchel o ymgysylltiad gan ein contractwyr fel bod fferyllwyr cymunedol yn chwarae rôl fwyfwy pwysig o ran darparu gofal iechyd yng Nghymru.”