Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £280m mewn moderneiddio ysgolion yng Ngogledd Cymru, dywedodd Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, heddiw wrth iddo lansio dau o'r cynlluniau mwyaf newydd a gyflawnwyd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Gorffennaf 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Ysgol Pen Barras ac Ysgol Stryd y Rhos yn Rhuthun wedi derbyn £8.6m gan un o raglenni blaenllaw Llywodraeth Cymru, sef Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif.  

Mae'r ysgolion cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg hyn wedi'u lleoli ar gampws newydd, ond maent yn ddwy ysgol ar wahân sy'n mwynhau cyfleusterau o'r radd flaenaf.

Maent yn rhan o gam cyntaf rhaglen Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif, sydd wedi cynnwys 170 o brosiectau ysgolion ar hyd a lled Cymru, gan gynnwys 39 yng Ngogledd Cymru.

Bydd ail gam y rhaglen, sydd wedi'i ailenwi'n Golegau ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif, yn cynnwys buddsoddiad ychwanegol o £2.3bn i'w gwario ledled Cymru.  

Un o'r prif bethau y bydd ail gam y rhaglen yn rhoi sylw iddo yw trawsnewid ysgolion a cholegau yn ganolfannau ar gyfer profiadau dysgu ehangach a gweithgareddau lleol, gan herio a chefnogi ysgolion, colegau a chymunedau yng Nghymru i weithio ar y cyd i sicrhau bod y cyfleusterau hynny'n ganolog i'w cymunedau.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford: 

“Rwy'n edrych ymlaen at ymweld ag Ysgol Pen Barras ac Ysgol Stryd y Rhos yn Rhuthun i glywed am brofiadau’r staff a'r disgyblion yn eu hysgolion newydd.   

“Mae cam cyntaf rhaglen Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif wedi buddsoddi mwy na £280m mewn ysgolion a cholegau ar draws Gogledd Cymru, gan sicrhau manteision gwirioneddol i ddisgyblion. 

“Dyma'r buddsoddiad mwyaf mewn adeiladau ysgolion ers yr 1960au, ac mae wedi'i gyflawni ar y cyd â chymunedau ac awdurdodau lleol. Mae'n rhywbeth y gall pawb fod yn falch iawn ohono.

“Ac mae mwy i ddod, wrth i'r ail gam ddechrau nawr. Gyda’r £2.3bn sydd ar gael i ysgolion a cholegau ym mhob rhan o Gymru, bydd rhagor o gyfleoedd ar gael i Ogledd Cymru fanteisio arnyn nhw.”    

Dywedodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg: 

“Ro'n i'n falch iawn i lansio dyraniad y cyllid ar gyfer ail gam y rhaglen hon yn ddiweddar. Bydd hwnnw'n golygu y bydd buddsoddiad ychwanegol mewn ysgolion a cholegau ledled Cymru.  

“Mae'r buddsoddiad hwnnw'n gwbl hanfodol os ydyn ni am sicrhau bod gan ein disgyblion yr amgylcheddau dysgu y maen nhw'n eu haeddu, i'w cefnogi i gyflawni eu huchelgeisiau. 

“Rwy'n dymuno pob lwc i'r holl ddisgyblion a'r staff ar gyfer eu dyfodol yn yr ysgolion newydd a gwell hyn.”

Mae'r ysgolion a'r colegau yng Ngogledd Cymru sydd wedi elwa ar gam cyntaf y rhaglen yn cynnwys: 

  • Ysgol Cybi, Caergybi
  • Ysgol Awel y Mynydd, Cyffordd Llandudno
  • Ysgol Hafod y Lôn, Penrhyndeudraeth
  • Ysgol Glancegin, Bangor
  • Ysgol Uwchradd y Rhyl
  • Campws Dysgu Treffynnon
  • Chweched Glannau Dyfrdwy, Cei Connah
  • Ysgol O M Edwards, y Bala
  • Ysgol Hafod y Wern, Wrecsam
  • Coleg Cambria, Ffordd y Bers, Wrecsam