Neidio i'r prif gynnwy

Bydd y Gweinidog Tai ac Adfywio Rebecca Evans yn cyhoeddi heddiw pa brosiectau fydd yn rhannu’r cyllid ar gyfer ail gam y Rhaglen Tai Arloesol dros gyfnod o dair blynedd a fydd werth cyfanswm o £90m.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Hydref 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y Gweinidog Tai ac Adfywio Rebecca Evans yn cyhoeddi heddiw pa brosiectau fydd yn rhannu’r cyllid ar gyfer ail gam y Rhaglen Tai Arloesol dros gyfnod o dair blynedd a fydd werth cyfanswm o £90 miliwn.

Mae’r prosiectau llwyddiannus yn cynnwys:

  • Bron i £7 miliwn ar gyfer Grŵp Pobl sy’n datblygu 225 o gartrefi ger Tonyrefail. Bydd y buddsoddiad yn creu seilwaith i sicrhau y gall cartrefi fod fel gorsafoedd pŵer – y rhai cyntaf yn y Deyrnas Unedig ar y raddfa hon
  • £4m ar gyfer Cartrefi Croeso i adeiladu 30 o dai ym Mhorth Tywyn gan ddefnyddio coed o Gymru a gweithgynhyrchu yn lleol oddi ar y safle drwy ddefnyddio llafur lleol ac a fydd yn cynnwys paneli Tŷ Solar a weithgynhyrchwyd yng Ngorllewin Cymru
  • £650,000 i Gyngor Sir Dinbych i greu cartrefi Passivhaus ffrâm bren. Bydd Cartrefi Conwy yn cyd-weithio gyda phartneriaid i greu ffatri newydd i gynhyrchu'r tai ar gyfer ei hun tai ychwanegol ar gyfer landlordiaid cymdeithasol lleol eraill. Bydd y gadwyn gyflenwi leol yn hyfforddi pobl leol a fyddai fel arall yn wynebu anawsterau, o bosib, wrth geisio ymuno â’r farchnad swyddi
  • Bydd Cartrefi Conwy yn derbyn £442,000 i adeiladu 16 o gartrefi yn defnyddio’r system. Bydd y gadwyn gyflenwi leol yn hyfforddi pobl leol a fyddai fel arall yn wynebu anawsterau, o bosib, wrth geisio ymuno â’r farchnad swyddi
  • £1m i Gyngor Ynys Môn sy’n gweithio gyda Choed Cymru a darparwyr tai cymdeithasol er mwyn cyflwyno system o adeiladu tai fforddiadwy a hyblyg sy’n defnyddio pren meddal lleol o Gymru a chynorthwyo’r gwaith o ddatblygu’r gadwyn gyflenwi leol
  • £1.1m i Gyngor Sir y Fflint i adeiladu 12 fflat gyda’r hyblygrwydd o fodloni anghenion cyfnewidiol o ran tai cymdeithasol gan gynnwys maint fflatiau, mynedfeydd addas i gadeiriau olwyn a llety â chymorth
  • £1.9m ar gyfer Cymdeithas Dai Newydd i adeiladu 23 o gartrefi gan gynnwys lle ar gyfer busnesau newydd eu sefydlu a rhai mwy sefydledig yn rhan o’r datblygiad Goods Shed yn y Barri
  • £2.6m i Gyngor Powys i adeiladu 26 o gartrefi carbon isel yn y Drenewydd gan ddefnyddio coed o Gymru
  • £839,000 i Gymdeithas Tai Cymru a’r Gorllewin i adeiladu 14 o gartrefi ym Mhen-y-bont ar Ogwr gan ddefnyddio model Solcer House sy’n ymgorffori technolegau ynni effeithlon ac adnewyddadwy.
  • £568,000 i Gyngor Gwynedd i adeiladu pedwar pod y gellir eu haddasu fel y bo angen ac i safon Passivhaus er mwyn cynnig llety sefydlog dros dro i bobl ddigartref
  • £9m i Gymdeithas Dai Linc Cymru i greu 50 o dai mewn tŵr pren gyda gwyrddni fertigol yng Nghaerdydd

Dywedodd Rebecca Evans:

“Rydym yn buddsoddi yn ein Rhaglen Tai Arloesol er mwyn lleihau tlodi tanwydd, lleihau effaith adeiladu tai ar yr amgylchedd, a lleihau’r anghydraddoldebau iechyd a lles sy’n gwaethygu oherwydd tai o ansawdd gwael.

“Os yw graddfa a chyflymder adeiladu tai yn cynyddu'n sylweddol, nid yw dulliau traddodiadol yn debygol o gyflawni’n amcanion ar eu pennau’u hunain. Trwy wneud hwn yn gywir, mae gennym gyfle i adeiladu tai o ansawdd uchel, bron di-garbon, sy’n cymryd mantais o ac yn gwella’r sgiliau yn y diwydiannau adeiladu a gweithgynhyrchu.”