Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething wedi cyhoeddi buddsoddiad o £4m fel rhan o fesurau i drawsnewid gwasanaethau gofal llygaid ar draws Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Medi 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Wrth siarad yng Nghynhadledd Gofal Llygaid Cymru yng Nghaerdydd heddiw (17 Medi), dywedodd Mr Gething y bydd yr arian yn trawsnewid gwasanaethau i sicrhau bod cleifion yn cael diagnosis a thriniaeth yn gynt.

Bydd Llywodraeth Cymru yn penderfynu sut yn union i ddyrannu'r £4m ar ôl cael cyngor gan banel annibynnol. Mae'n bosibl y gallai gynnwys ehangu'r canolfannau triniaeth yn y gymuned sydd eisoes yn bodoli, hyfforddiant ychwanegol ar gyfer staff meddygol i drin mwy o amrywiaeth o gleifion a gweithgareddau eraill i gynnal gwasanaethau cynaliadwy. 

Bydd y newidiadau i'r gwasanaeth yn ategu mesur perfformiad newydd i'w gyflwyno yn ddiweddarach yn y mis, ar sail angen clinigol y claf. Cymru fydd y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno mesur o'r fath i gleifion gofal llygaid wrth ochr y targed presennol ar gyfer amser aros o'r atgyfeiriad i'r driniaeth. 

Mae'r newidiadau yn cael eu cyflwyno yn dilyn ymgynghoriad gydag offthalmolegwyr a'r RNIB am y ffordd orau o sicrhau bod cleifion llygaid yn cael eu gweld a'u trin yn brydlon.

Dywedodd Mr Gething: "Mae profion llygaid rheolaidd a diagnosis cynnar yn bwysig tu hwnt er mwyn atal a thrin clefydau ar y llygaid. 

Ar hyn o bryd mae bron i 107,000 o bobl Cymru'n colli eu golwg, ac mae disgwyl i hyn ddyblu erbyn 2050. Rhaid gwella mynediad at wasanaethau a chyflymu diagnosis er mwyn sicrhau bod gwasanaethau gofal llygaid yn addas ar gyfer y dyfodol.  

Bydd y buddsoddiad yn cael ei ddefnyddio i wella gwasanaethau er mwyn cefnogi'r mesur perfformiad newydd ar gyfer gwasanaethau gofal llygaid. O'r mis hwn ymlaen, bydd yr holl gleifion gofal llygaid yn cael uchafswm o amser aros ar ôl eu hatgyfeirio ac unrhyw adolygiadau parhaus ar sail eu cyflwr a'r perygl o niwed.

Ni oedd y llywodraeth gyntaf yn y byd i gael cynllun cyflawni gofal llygaid, a nawr ni yw'r cyntaf yn y DU i gyflwyno mesur perfformiad o'r fath ar gyfer gofal llygaid. 

Mae'r newidiadau hyn yn unol â'n gweledigaeth hirdymor ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru i drawsnewid y ffordd y mae gwasanaethau'n cael eu darparu, gan gynnig gofal o safon yn agosach at gartrefi pobl."