Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei bod wedi gwerthu Seren Stiwdios yng Nghaerdydd i gwmni seilwaith cyfryngau mawr Great Point Studios sydd wedi lesio'r stiwdio ers 2020.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Medi 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r pryniant yn enghraifft arall o ddangos hyder yn y diwydiant ffilm a theledu llwyddiannus yng Nghymru ac yn ogystal â gwerthu'r safle, mae Llywodraeth Cymru a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi cytuno ar becyn cyllido o £18 miliwn i ddatblygu stiwdios a chyfleusterau Gwynllŵg ymhellach. Mae £12 miliwn o gyllid dyled wedi'i sicrhau drwy Gronfa Safleoedd Strategol gwerth £50 miliwn Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, gyda £6 miliwn o gyllid grant drwy Cymru Greadigol.

Bydd y buddsoddiad yn golygu y gall Great Point Studios uwchraddio'r stiwdio ymhellach i greu cyfleuster stiwdio hunangynhaliol o'r safon uchaf fydd nid yn unig yn cynnal mwy o alw am gynhyrchu ond hefyd yn darparu swyddi, cyfoeth a thwf ar gyfer y gadwyn gyflenwi a'r rhanbarth ehangach. Bydd ychwanegu cyfleuster hyfforddi cydweithredol hefyd yn helpu i adeiladu'r cyflenwad o sgiliau a thalent lleol a sefydlu'r stiwdio fel canolfan arloesi ar gyfer cynhyrchu rhithwir.

Bydd y prosiect yn darparu 257,000 troedfedd sgwâr o ofod cynhyrchu o'r safon uchaf, gyda phedair stiwdio fodern a seilwaith cymorth cynhwysfawr yn cael ei adeiladu dros ddau gam. Yn ogystal, bydd y prosiect hefyd yn cefnogi hyd at 750 o griw llawrydd y flwyddyn, sy’n gynnydd o'r 250 presennol, ac fe fydd y stiwdio yng Nghymru yn dod yn bencadlys i Great Point Studios.

Mae Great Point Studios yn gwmni cyfryngau sy'n arbenigo mewn seilwaith ffilm a theledu. Mae prynu cyfleuster Caerdydd yn dilyn datblygiad eu Lionsgate Studios yn Yonkers, Efrog Newydd, yn ogystal ag ail ganolfan stiwdio yn Buffalo, Efrog Newydd.  Yn gynharach eleni, cyhoeddodd Great Point Studios gyfleuster cynhyrchu mawr newydd hefyd yn Atlanta, Georgia – ardal y mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething yn ymweld â hi heddiw fel rhan o ymweliad â’r Unol Daleithiau.

Meddai Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dawn Bowden:

Mae hwn yn gyfnod cyffrous iawn i'r sector creadigol yng Nghymru, ac mae gweld Great Point Studios yn prynu’r stiwdio a'u buddsoddiad arfaethedig yn dangos enghraifft arall o hyder yng Nghymru fel lleoliad gwych a sefydledig ar gyfer cynyrchiadau ffilm a theledu.  

"Bydd y buddsoddiad hwn yn creu rhagor o swyddi ac yn helpu i gadarnhau dyfodol cryf i'r sector, gan atgyfnerthu'r galw a'r parch mawr i'n gweithlu creadigol medrus yma yng Nghymru."

Meddai Robert Halmi, Sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Great Point Studios:

Mae gan Gaerdydd gymuned greadigol ffyniannus ac mae'n cynnig gweithwyr proffesiynol medrus iawn yn y diwydiant heb sôn am leoliad prydferth ar gyfer unrhyw ffilmio lleoliad. Gyda'r galw cryf parhaus am gynnwys, roedd prynu Seren Stiwdios ac ehangu ein hôl troed yng Nghymru yn gam nesaf naturiol. Edrychwn ymlaen at barhau â'n hymrwymiad i addysg,  gweithio gyda'r gymuned leol a datblygu llawer o gyfleoedd ymhellach yn Great Point Studios Cymru wrth i'r wlad barhau i brofi twf mor aruthrol."

Tynnodd Cynghorydd Anthony Hunt, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen a Chadeirydd Cabinet Rhanbarthol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd sylw at amseriad pwysig y buddsoddiad:

Bydd y buddsoddiad hwn yn galluogi safle presennol Seren Studios i wireddu ei botensial llawn fel rhan allweddol o sector blaenoriaeth Diwydiannau Creadigol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Daw ar adeg pan mae cynhyrchu ffilm a theledu yn newid ffurf ledled y byd, a bydd yn galluogi ein Rhanbarth i gael mwy o effaith yn fyd-eang ar ddiwydiant creadigol sy'n dod â gwerth aruthrol, o ran creu swyddi cynaliadwy a chryfhau cadwyni cyflenwi lleol. 

"Rwy'n falch iawn bod yr holl waith caled a wnaed gan gymaint o bobl wedi sicrhau canlyniad mor aruthrol, ar gyfer datblygiad sy'n crynhoi nodau ac amcanion Cynllun Economaidd a Diwydiannol Rhanbarthol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd mor berffaith, a'n huchelgais i feithrin 'Twf Da' ar draws y Rhanbarth.