Neidio i'r prif gynnwy

Disgwylir i dros ddeng mil o swyddi gael eu creu yng Nghymru ar ôl i'r Prif Weinidog gyhoeddi buddsoddiad newydd gwerth £1.4 biliwn heddiw cyn Uwchgynhadledd Buddsoddi Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Tachwedd 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r ffigur hwn yn dod â chyfanswm y buddsoddiadau newydd i Gymru ers cyhoeddi'r Uwchgynhadledd i £16 biliwn, ac mae'n cynnwys enwau rhyngwladol mawr gan gynnwys:

  • Vodafone – Buddsoddiad gwerth £600 miliwn i sicrhau cyrhaeddiad 5GSA o 99%, gyda dwy filiwn o bobl ychwanegol ar eu hennill
  • GE Aerospace Cymru – £19 miliwn i foderneiddio safle Nantgarw sy'n cyflogi mwy na 1,350 o beirianwyr ac arbenigwyr technegol medrus iawn, ac yn gwasanaethu cwsmeriaid yn fyd-eang
  • Porthladdoedd Cysylltiedig Prydain (ABP) – buddsoddiad cyfalaf gwerth £42 miliwn mewn pum porthladd yng Nghymru, gan gynnwys cyflwyno angorfa dŵr dwfn newydd yng Nghei Canol, Casnewydd
  • RWE – £200m i adeiladu ei gyfleuster storio ynni batri mwyaf erioed ym Mhenfro, gan gyfrannu at sefydlogi marchnad ynni'r DU drwy storio ynni dros ben a'i fwydo i'r Grid Cenedlaethol
  • Eni  – Buddsoddiad gwerth cannoedd o filiynau o bunnoedd mewn seilwaith dal a storio carbon yn y Parlwr Du, Sir y Fflint gan greu mwy na 1,000 o swyddi yng Nghymru.
  • Bad Wolf – £2 miliwn ar gyfer cynhyrchu dau gynhyrchiad teledu safon uchel newydd a fydd yn buddsoddi £30m yn economi Cymru.

Mae Vantage Data Centers yn buddsoddi £10 biliwn yn hen Ffatri Injan Ford Pen-y-bont ar Ogwr, gan drawsnewid y ffatri'n ganolfan ddata a champws o'r radd flaenaf i fodloni gofynion y chwyldro Deallusrwydd Artiffisial. Disgwylir i'r buddsoddiad hwn greu dros 5000 o swyddi mewn adeiladu a gweithrediadau canolfannau data.

Mae dros 300 o arweinwyr busnes a buddsoddwyr o 27 o wledydd ledled y byd yn cwrdd yng Nghasnewydd heddiw i archwilio cyfleoedd cyffrous ar gyfer buddsoddi yng Nghymru.  

Yn ymuno â nhw mae Tywysog Cymru. Bydd y Tywysog yn cwrdd â nifer o fusnesau o Gymru yn ystod taith o amgylch arddangosfa'r Uwchgynhadledd. Bydd Ei Uchelder Brenhinol hefyd yn clywed gan gynrychiolwyr o'r sector technoleg werdd yng Nghymru, cyn ymuno â'r brif gynhadledd, pan fydd yn rhoi araith.

Dywedodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan: 

"Mae'r cyhoeddiadau mawr hyn am gyllid, sy'n werth biliynau o bunnoedd, yn dangos yn glir yr hyder sydd gan bobl i fuddsoddi yng Nghymru.  

"Heddiw rydyn ni'n dathlu Cymru ac yn annog hyd yn oed mwy o gwmnïau i fuddsoddi yma a chreu swyddi yma. Mae'n blatfform i arddangos ein holl gryfderau – Toreth o gymwysterau gwyrdd, talent ac arloesedd.  

"Rydyn ni wedi bod yn brysur yn creu'r amodau cywir i Gymru ffynnu o ganlyniad i fuddsoddiadau o dramor. Ac mae eisoes yn talu ar ei ganfed gyda chwmnïau o'r radd flaenaf fel Vantage yn dewis buddsoddi yma yng Nghymru. 

"Y cam nesaf yw adeiladu ar y buddsoddiadau mawr hyn i sicrhau swyddi a budd economaidd ym mhob rhan o Gymru."