Neidio i'r prif gynnwy

Newidiadau i’r busnes er mwyn helpu i greu meddylfryd mwy gwyrdd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Mawrth 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:
Cradoc’s Savoury Biscuits

Mae Cradoc's Savoury Biscuits Ltd, sydd wedi'i leoli yng nghanol Aberhonddu, wedi bod yn pobi cracers ers 2008. Wedi’i sefydlu’n wreiddiol o fwrdd y gegin gan Allie Thomas a’i merch, Ella, mae’r busnes bellach yn cyflenwi archfarchnadoedd, siopau bwydydd tramor a siopau ar-lein ac yn allforio i Ewrop a’r Dwyrain Canol a'r Dwyrain Pell.

Yn ogystal â bod yn angerddol dros greu bisgedi blasus, mae'r dylunydd cynnyrch, Allie, hefyd yn awyddus i wneud beth bynnag a all i leihau ôl troed carbon y busnes. Ers 2019, mae Cradoc's wedi cael ei bweru gan ynni gwynt ac ynni'r llanw, ar ôl cysylltu â darparwr trydan gwyrdd i gytuno ar dariff, Allie Dywed:

"Rydym wedi cael ein pweru gan ynni gwyrdd ers pedair blynedd. Roedd yn bwysig i ni wneud y dewis busnes bwriadol fel y gallem gyflawni carbon sero net. Nid oeddem am ddibynnu ar nwy wedi'i fewnforio. Rydym ar dariff sefydlog felly nid yw ein costau wedi cod."

Lle bo modd, daw'r cynhwysion o ffynonellau lleol neu o'r tu mewn i'r DU; daw sbeisys a pherlysiau o Gas-gwent, gwneir y caws gan Hufenfa De Arfon, mae'r menyn yn cael ei gorddi yng Nghaerffili, a darperir y blawd gan gwmni cydweithredol annibynnol, Bako Wales.

Mae cwmni Cradoc's yn cyfuno llysiau ffres yn ei gracers ac yn dewis cynnyrch lleol pan fo modd. Mae blodau organig, sych fel melyn Mair a lafant hefyd yn cael eu hychwanegu at rai ryseitiau.

Mae’r microfusnes, sy’n mabwysiadu ethos teulu yn gyntaf pan ddaw at ei weithlu, yn annog ei staff i gerdded i’r gwaith, neu i rannu ceir, ac mae car y cwmni’n drydanol.

Mae'r cwmni o Ganolbarth Cymru hefyd yn adolygu ei ddeunydd pecynnu. Mae'r blychau cardbord ar gyfer y cracers wedi'u gwneud o ffynonellau cynaliadwy ardystiedig ac ar hyn y bryd mae'r cwmni'n archwilio a all leihau ei ddeunydd pacio. Yna, caiff y cracers eu dosbarthu i stocwyr mewn blychau cardbord wedi'u hailddefnyddio.

Mae gwastraff yn broblem fawr i Allie. Mae hi'n sicrhau bod cymaint o wastraff â phosibl yn cael ei ailgylchu ac mae'n sicrhau bod unrhyw stoc ddiangen yn cael ei hanfon i'r banc bwyd lleol i'w hatal rhag mynd i safleoedd tirlenwi.

Yn ddiweddar, mynychodd Allie gwrs chwe wythnos gan Sgiliau Bwyd Cymru a oedd yn canolbwyntio ar gynaliadwyedd, a byddai'n yn ei hargymell i fusnesau eraill yn y sector:

"Dylai pob busnes ddilyn yr hyfforddiant hwn, mae mor effeithiol. Gwnaethom gydnabod ein cyfrifoldeb corfforaethol tuag at gynaliadwyedd beth amser yn ôl. Roeddem wedi gosod rhai strategaethau ond roedd angen cymorth arnom i gasglu'r wybodaeth, astudio'r canllawiau a gosod hyn yn erbyn safbwyntiau byd-eang. Felly, pan hysbysebwyd y cwrs gan Sgiliau Bwyd Cymru, roeddem wrth ein boddau gan mai dyna'r peth oedd ei angen arnom."

Mae’r cwrs wedi'i hysbrydoli i ddatblygu a gweithredu modiwl hyfforddi Cradoc’s ei hun ar gyfer staff ar reoli gwastraff, a fydd yn egluro’r argyfwng hinsawdd a sut mae cymryd camau yn gallu helpu, Allie Dywed:

"Rydym bob amser yn edrych i weld sut y gallwn wella. Ar hyn o bryd, mae gennym 25% o wastraff nad yw'n cael ei ailgylchu, felly mae angen i ni wella ar wahanu sbwriel. Byddwn hyd yn oed yn pwyso ein gwastraff, i weld a ydym yn gwneud gwahaniaeth.

"Bydd yn effeithio ar sut mae’r staff yn gweithredu, felly bydd y modiwl hyfforddi newydd yn esbonio pam ei bod mor bwysig ein bod yn cymryd pob cam bach y gallwn tuag at sero net.

"Dydyn ni ddim yn berffaith o bell ffordd. Rydym yn aml yn gwneud camgymeriadau, ond yn gwella. Eglurodd cwrs Sgiliau Bwyd Cymru anferthedd y sefyllfa ac, er ei bod hi’n hawdd teimlo ein bod ni methu a gwneud dim, mae popeth yn helpu."

Mae Carol Younger yn oruchwyliwr yng nghwmni Cradoc's. Mae hi'n arwain y tîm yn ogystal â bod yn gyfrifol am yr amserlen cynhyrchu:

"Wrth symud ymlaen, bydd yr hyfforddiant yn ein gwneud ni’n fwy ymwybodol o’r hyn sydd angen i ni fod yn ei wneud i fodloni'r her hon. Bydd yn heriol gan fod angen i ni newid ein harferion gwaith. Ond rydym yn sylweddoli y gallwn wneud mwy i helpu’r amgylchedd ac mae hynny’n golygu bod yn rhaid i ni gefnogi’r newid hwn yn llwyr a’i gyflawni fel tîm."

Dywed Sarah Lewis, Rheolwr Sgiliau Bwyd Cymru:

"Ers lansio’r Rhaglen Hyfforddiant Cynaliadwyedd yn gynharach eleni, rydym wedi cefnogi bron i 50 o ficrofusnesau, busnesau bach a chanolig, a busnesau mawr. Mae’r rhaglen wedi’i chynllunio’n benodol ar gyfer y sector gweithgynhyrchu bwyd a diod yng Nghymru, ac mae’n rhoi’r wybodaeth, y cymwyseddau a’r galluoedd i’r unigolion er mwyn iddynt allu gwneud penderfyniadau gwell a rhoi newidiadau ar waith yn eu busnesau ar gyfer dyfodol mwy cynaliadwy, gan helpu i symud y sector tuag at amcanion sero net Llywodraeth Cymru."

Mae cyllid ar gael i gefnogi Rhaglen Hyfforddiant Cynaliadwyedd Sgiliau Bwyd Cymru. Os hoffech gael rhagor o fanylion, cysylltwch â wales@lantra.co.uk neu ffoniwch 01982 552 646.