Neidio i'r prif gynnwy

Mae Mark Drakeford wedi croesawu’r newyddion fod Control 2K Ltd, ym Mhen-y-bont ar Ogwr, wedi cael €680,000 o arian Ewropeaidd fel rhan o brosiect arloesol sy’n croesi ffiniau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Tachwedd 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd yr arian yn helpu Control 2K Ltd i gymryd rhan yn y prosiect  DIGICOR, a fydd yn creu technoleg ar-lein i alluogi busnesau bach ar draws Ewrop i gydweithio â gweithgynhyrchwyr mawr i ddatblygu cyfleoedd i fusnesau’r gadwyn gyflenwi. 

Mae’r prosiect €7.9m yn cael ei ariannu gan Horizon 2020, rhaglen ymchwil ac arloesi fwyaf y Comisiwn Ewropeaidd sy’n  helpu i dorri tir newydd drwy arloesi ac yn y maes gwyddoniaeth, ac mae’n cefnogi gwaith i ddatblygu cynnyrch a gwasanaethau sydd gyda’r gorau yn y byd. 

Dywedodd yr Athro Drakeford: 

“Mae Horizon 2020 yn rhaglen hynod gystadleuol. Dw i wrth fy modd y bydd busnes arall o Gymru yn elwa ar fuddsoddiad sylweddol gan yr UE i gydweithio â sefydliadau sy’n arwain yn eu meysydd a chreu technoleg a fydd yn paratoi’r ffordd ar gyfer arloesi hynod arbenigol a thwf busnesau o bob maint ledled Ewrop.”

Bydd DIGICOR yn datblygu marchnad a thechnoleg ar-lein a fydd yn golygu bod modd personoli cynnyrch a gwasanaethau drwy sicrhau bod cynnyrch y gwaith arloesi sy’n cael ei wneud gan fusnesau bach yn dod yn rhan annatod o brosesau cynhyrchu mwy o faint.

Bydd busnesau a phrifysgolion o’r Weriniaeth Tsiec, yr Almaen, Gwlad Groeg, yr Eidal, yr Iseldiroedd a’r Deyrnas Unedig yn cymryd rhan yn y prosiect. Mae’n cael ei lansio heddiw yng Nghymru mewn digwyddiad i hyrwyddo’r cyfleoedd mae’r rhaglen Horizon 2020 yn eu cynnig i fusnesau yng Nghymru. 

Dywedodd Gash Bhullar, rheolwr gyfarwyddwr Control 2K: 

“Fel busnes, rydyn ni wedi gweithio ar brosiectau ar draws Ewrop ers blynyddoedd. Drwy elwa ar raglen fel Horizon 2020, gallwn ni ddatblygu sgiliau, gwybodaeth a thechnoleg newydd drwy gydweithio â’r sefydliadau sy’n geffylau blaen ar draws Ewrop.

“Rydyn ni wrth ein boddau o gael bod yn rhan o DIGICOR. Mae hon yn fenter gyffrous, newydd â photensial mawr i Fusnesau Bach a Chanolig (BBaCh) sydd am elwa ar dechnolegau’r dyfodol; technolegau a fydd yn cael eu defnyddio’n gyffredin ymhen y tair i bum mlynedd nesaf.”

Mae DIGICOR yn dilyn cyhoeddi ystadegau sy’n datgelu bod busnesau a phrifysgolion yng Nghymru wedi cael €54m o gyllid ers i raglen Horizon 2020 gael ei lansio ddwy flynedd yn ôl.

I gefnogi busnesau yng Nghymru sy’n gwneud cais am brosiectau 2020, mae Llywodraeth Cymru yn helpu i lunio ceisiadau a gyda chostau teithio, drwy ei chronfa SCoRE Cymru. Hyd yma, mae 69 o sefydliadau, BBaCh yn bennaf, wedi cael dros £300,000 gan Lywodraeth Cymru i gefnogi ceisiadau am gyllid Horizon 2020 gan y Comisiwn Ewropeaidd.