Neidio i'r prif gynnwy

Bydd ugain o fusnesau Cymru yn arddangos eu cynnyrch i gwmnïau o un o'r gwledydd cyfoethocaf yn y byd mewn rhith-ymweliad â marchnad allforio Doha, Qatar.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Medi 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y rhith-ymweliad, a drefnwyd gan Lywodraeth Cymru, yn gyfle i fusnesau – gan gynnwys cwmnïau sy'n cynhyrchu dyfeisiau meddygol, tecstilau a bwyd o ansawdd uchel – feithrin cysylltiadau busnes gyda darpar bartneriaid a chwsmeriaid yn Doha.

Byddai'r ymweliad masnach amlsector wedi cael ei gynnal ‘yn y cnawd’ fel arfer gyda busnesau'n teithio o Gymru i Doha, ond mae'n cael ei gynnal yn rhithiwr eleni oherwydd pandemig y Coronafeirws.

Mae'r rhith-ymweliad hwn â marchnad allforio yn dechrau heddiw (28 Medi) a bydd yn cael ei gynnal dros y pedair wythnos nesaf, gyda Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'i swyddfa yn Doha i drefnu cyfres o gyfarfodydd ar gyfer busnesau Cymru ac i ddarparu cymorth a fydd wedi'i deilwra ar eu cyfer.

Y gobaith yw y bydd busnesau sy'n cymryd rhan yn y rhith-ymweliad â'r farchnad yn meithrin cysylltiadau gwerthfawr gyda diwydiannau cyfatebol ac yn rhoi hwb i'w hallforion yn y farchnad bwysig hon, lle mae gwerth y nwyddau sy’n cael eu hallforio o Gymru i Qatar wedi cynyddu dros 85% ers 2015.

Bydd yr ymweliad yn cynnwys sesiynau briffio rhithwir am y farchnad, cymorth
un-i-un oddi wrth Lywodraeth Cymru, a bydd y cwmnïau’n cael eu cynnwys mewn marchnata digidol.

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, Eluned Morgan:

Gobeithio y bydd y rhith-ymweliad hwn yn rhoi hwb sylweddol i’n hallforion i Doha.

Mae'n anffodus na all busnesau ymweld â Doha yn bersonol eleni, ond mae cynnal yr ymweliad o bell yn cynnig cyfleoedd newydd a mwy o hyblygrwydd i'r rheini sy'n rhan ohono.

Rydym yn benderfynol o gefnogi busnesau Cymru ym mhob ffordd y gallwn, ac o'u helpu i oresgyn yr heriau y maen nhw’n eu hwynebu yn y cyfnod anodd hwn.

Ar ôl inni adael yr Undeb Ewropeaidd, mae'n bwysicach nag erioed bod busnesau Cymru yn edrych ar farchnadoedd newydd. Mae'r rhith-ymweliad hwn â'r farchnad yn enghraifft o'r ffyrdd arloesol rydyn ni’n eu hystyried er mwyn rhoi cymorth i fusnesau i ymchwilio i farchnadoedd ledled y byd.

Dywedodd Huw James, Rheolwr Gyfarwyddwr yr Atlantic Service Company, sy'n arbenigo mewn llafnau cylchlifiau torri cig, eu bod yn edrych ymlaen at feithrin dealltwriaeth o'r farchnad a gweithio gyda dosbarthwyr strategol ar y rhith-ymweliad hwn.

Ychwanegodd:

Mae'r gefnogaeth barhaus gan Lywodraeth Cymru wedi bod yn bwysig i dwf Atlantic Service dros y chwe blynedd diwethaf ac mae'n ein helpu gyda’n huchelgais i fod yn wneuthurwr llwyddiannus yng Nghymru ymhell i'r dyfodol.

Mae rhith-deithiau masach fel y rhain yn helpu i ddileu rhwystrau ac yn ein galluogi i barhau i dyfu.