Neidio i'r prif gynnwy

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles wedi croesawu gwaith ymchwil newydd sy’n edrych ar sut y gall busnesau weithio gydag ysgolion a cholegau er budd pobl ifanc i’r dyfodol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Gorffennaf 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae adroddiad ‘Pontio i Fyd Gwaith’, gan Dr Hefin David AS, wedi’i gomisiynu gan Lywodraeth Cymru.

Wrth groesawu’r adroddiad, dywedodd Jeremy Miles:

Mae’r adroddiad hwn yn dangos yn glir y manteision lawer i fusnesau o greu partneriaethau cryf gydag ysgolion a cholegau.

Yn ogystal â dod â boddhad enfawr, gall hefyd fod yn gyfle i feithrin talent ifanc a datblygu’r sgiliau sydd eu hangen ar gyflogwyr lleol, gan greu cronfa fwy o dalent a diogelu’r sgiliau angenrheidiol i’r dyfodol. 

Mae disgyblion cynradd yn Sir Benfro eisoes yn elwa ar gynllun sy’n cael ei redeg gan gwmni ynni gwynt ar y môr ger Doc Penfro, Floventis Energy. Mae’r cwmni hwn, ynghyd â Chanolfan Darwin, yn rhedeg gweithdai gyda disgyblion 7 i 11 oed.

Yn dilyn cyfres o weithdai ar strwythurau arnofiol gwynt ar y môr, newid hinsawdd, tanwydd ffosil, a manteision ynni adnewyddadwy, â ffocws ar gyfleoedd gwaith i’r dyfodol, cafodd gwaith y plant ei arddangos yn y Senedd, lle roedd modd i Weinidog y Gymraeg ac Addysg weld cymaint o ysbrydoliaeth i bobl ifanc yw cael profiad ymarferol o wyddoniaeth a natur.

Roedd yr arddangosfa yn cynnwys gwaith o Ysgol Penrhyn Dewi, Ysgol Gynradd Saundersfoot, Ysgol Portfield School, Ysgol Gynradd Wirfoddol a Reolir Cleddau Reach, Ysgol Gynradd Arberth ac Ysgol Gynradd St Francis, Aberdaugleddau.

Elusen yn Sir Benfro yw Canolfan Darwin sy’n ennyn brwdfrydedd pobl ifanc a chymunedau mewn pynciau STEM drwy deithiau maes a gweithdai ymarferol, o archwilio pyllau bach mewn creigiau i ffiseg niwclear ddamcaniaethol. Mae’n rhoi mynediad at arbenigwyr yn y diwydiant STEM ac yn tynnu sylw at y gyrfaoedd posibl sydd ar gael i bobl ifanc Sir Benfro.

Dywedodd Tess Blazey, Cyfarwyddwr Polisi a Materion Allanol Floventis:

Wrth inni barhau i gyflwyno ein rhaglen addysg ac ymgysylltu, mae’n wych gweld diddordeb plant lleol yn eu hamgylchedd, a’r cyfleoedd a ddaw i Gymru yn sgil ynni gwynt ar y môr. Rydyn ni wir yn gobeithio y bydd y gwaith rydyn ni’n ei wneud yn ysbrydoli pobl ifanc i ddatblygu eu sgiliau STEM ac ystyried gyrfaoedd mewn ynni adnewyddadwy i’r dyfodol.

Mae rhai o argymhellion adroddiad ‘Pontio i Fyd Gwaith’ eisoes yn cael eu gweithredu. Fis diwethaf, cyhoeddodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg £500,000 ar gyfer cynllun profiad gwaith pwrpasol i ddysgwyr ifanc sy’n ymddieithrio oddi wrth addysg ac mewn perygl o fod yn NEET.

Mae Addysg Gyrfaoedd a Phrofiadau sy’n Gysylltiedig â Byd Gwaith yn rhan orfodol o’r Cwricwlwm i Gymru erbyn hyn, o 3 i 16 oed, gan ddod â’r maes i sylw ysgolion cynradd yn ogystal ag ysgolion uwchradd.