Neidio i'r prif gynnwy

Mae siop trin gwallt yng Nghaerdydd, siop gaws yn Sir Ddinbych a chwmni gweithgareddau awyr agored yng Nghastell-nedd yn dair enghraifft o bron i 2,000 o fusnesau newydd o Gymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Awst 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r ffigurau diweddaraf gan y Start Up Loans Company (SULCO), cwmni sy’n gweithredu ledled Prydain, yn dangos ei fod wedi rhoi cymorth a benthyciadau i 1943 o fusnesau sydd ar gychwyn a busnesau newydd ers i’r gronfa gael ei sefydlu yng Nghymru ym mis Hydref 2013, gyda swm o oddeutu £8000 fesul cwmni yn cael ei fenthyca ar gyfartaledd.

Mae’r ffigurau’n golygu, dros y bedair mlynedd ddiwethaf, bod dau fusnes newydd y dydd o Gymru ar gyfartaledd wedi elwa o’r cyllid gan y Start Up Loan Company.

Wrth drafod y ffigurau diweddaraf, dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi:

“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i annog entrepreneuriaeth a busnesau newydd ledled Cymru. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod mai yr un peth sy’n dal y rhan fwyaf o entrepreneuriaid yn ôl yw eu hanhawster i ddod o hyd i gyllid fforddiadwy a’r cymorth mentora cywir.

“Rydym yn falch o gefnogi y Start Up Loans Company sy’n cael ei ddarparu’n rhannol gan wasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru.

“Ers y dechrau yn 2012 mae cronfa y Start Up Loans Company wedi cefnogi bron i 2000 o fusnesau newydd yng Nghymru ac mae’n galonogol iawn gweld llwyddiant parhaus cwmnïau fel yr arbenigwyr organig ar drin gwallt, Goji Hair yng Nghaerdydd, y cwmni gweithgareddau awyr agored, Waterfall Ways yng Nghastell-nedd, a Bite Wales – the Little Cheese Shop yn Sir Ddinbych.

“Mae eu storïau yn dangos yr hyn y gellir ei gyflawni pan fydd awydd, uchelgais a gallu yn cyd-fynd â’r cyllid a’r cymorth cywir.”

Meddai Joanna Hill, Prif Swyddog Gweithredol dros-dro y Start Up Loans Company:

“Mae busnesau newydd yn chwarae rhan hollbwysig wrth sbarduno twf yr economi, ac mae’n wych gweld cymaint o alw am gyllid yng Nghymru. Mae’r busnesau yr ydym wedi helpu eu lansio yn cynnwys sawl sector, ac yn dangos gallu ac amrywiaeth y gymuned sy’n dechrau busnesau yng Nghymru.

“Rydym wedi helpu i ariannu dros 2,000 o fusnesau newydd yng Nghymru ers dechrau’r cynllun ac mae wedi rhoi boddhad inni eu gweld yn datblygu i fod yn fusnesau llwyddiannus, proffidiol.  Trwy weithio mewn partneriaeth â gwasanaeth Busnes Cymru rydym yn rhagweld y bydd y momentwm hwn yn parhau, ac rydym yn edrych ymlaen at weld mwy o funsesau yn dechrau ac yn ffynnu ledled y wlad.”