Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ken Skates, wedi croesawu ystadegau sy’n dangos bod Cymru ar flaen y gad o ran nifer ei busnesau sector preifat.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Hydref 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dengys ffigurau diweddaraf Llywodraeth y DU ynghylch busnesau fod oddeutu 872 o fusnesau sector preifat yng Nghymru ar hyn o bryd am bob 10,000 o bobl. 

Golyga hyn fod gan Gymru fwy o fusnesau y person na’r Alban, Gogledd Iwerddon a Gogledd-ddwyrain Lloegr. Yn wir, mae’n prysur efelychu nifer y busnesau a geir yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr.  

Dywedodd Ken Skates: 

“Mae’r ffigurau diweddaraf hyn ynghylch nifer y busnesau yn galonogol iawn. Maent yn dangos bod nifer y busnesau yng Nghymru’n parhau i gynyddu – ac er bod cryn le i wella cyn y gallwn efelychu De-ddwyrain Lloegr rydym yn sicr yn symud i’r cyfeiriad cywir.  

“Mae’r llywodraeth hon yn awyddus i gynnig pob cymorth i fusnesau, ac rydym wedi ymrwymo i gydweithio â busnesau bach a chanolig a chefnogi entrepreneuriaid sy’n awyddus i sefydlu ac ehangu busnesau yng Nghymru. 

“Tystia’r ffigurau hyn i’r ffaith bod rhaglenni fel ein gwasanaeth Busnes Cymru yn gwneud gwahaniaeth. Maent yn darparu’r gefnogaeth, y cyngor a’r wybodaeth cynhwysfawr sydd ei angen ar entrepreneuriaid newydd a busnesau bach a chanolig i oroesi a ffynnu.”