Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb o ddiben y bwrdd a sut y bydd yn gweithio (diwygiwyd Mehefin 2019).

Diben

Mae'r Bwrdd Cyflawni'n rheoli ac yn symud ymlaen busnes gweithredol y rhaglen waith a amlinellir yn Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein Cenedl (y rhaglen). Mae'r Bwrdd yn monitro'r hyn a gyflawnir a'r perfformiad, gan sicrhau bod prosesau cadarn yn cael eu dilyn, ac yn gwneud argymhellion mewn perthynas â phenderfyniadau i'w cymeradwyo gan Fwrdd Newid y rhaglen. Gall y Bwrdd uwchgyfeirio materion i'r Bwrdd Newid ar gyfer sicrwydd ychwanegol lle bo angen, ac mae'n helpu i nodi risgiau'r rhaglen ac yn awgrymu mesurau i fynd i'r afael â nhw.

Tasgau allweddol

Bydd y bwrdd yn:

  • monitro'r hyn a gyflawnir yn erbyn cerrig milltir y rhaglen ar gyfer partneriaid a Llywodraeth Cymru
  • gwneud argymhellion mewn perthynas â phenderfyniadau sy'n cyfrannu at gyflawni amcanion lefel uchel y rhaglen a'r camau gweithredu cysylltiedig
  • argymell gwaith i'w uwchgyfeirio er mwyn cael cymeradwyaeth pellach, a
  • darparu cyfeiriad ac arweinyddiaeth o ran cyfathrebu â phartneriaid, gan sicrhau bod rhanddeiliaid mewnol ac allanol wedi'u cynnwys ac yn wybodus drwy gydol y broses o weithredu'r rhaglen.

Rolau a chyfrifoldebau

Mae aelodau'r Bwrdd yn gyfrifol am:

  • ddarparu cyngor ac arweiniad ar gyfeiriad y rhaglen, a
  • rhaeadru gwybodaeth, camau gweithredu a phenderfyniadau sy'n deillio o gyfarfodydd y Bwrdd i'r timau a'r sefydliadau y maent yn eu cynrychioli.

Amlder y cyfarfodydd

Bydd y Bwrdd yn cwrdd yn fisol fel arfer, ond gall hyn amrywio i gyd-fynd ag adegau penderfynu allweddol yn y rhaglen. Lle bo angen, gellir gwneud penderfyniadau y tu allan i'r cyfarfodydd.

Ysgrifenyddiaeth

Tîm y rhaglen yng Nghyfarwyddiaeth Addysg Llywodraeth Cymru fydd yn darparu cymorth gweinyddol i'r Bwrdd.

Aelodaeth

Mae aelodau'r Bwrdd Newid yn cynnwys cynrychiolwyr ar lefel Cyfarwyddwr Cynorthwyol a Dirprwy Gyfarwyddwr, ac ar lefel gyfatebol o'r haen ganol gan gynnwys Awdurdodau Lleol, Awdurdodau Esgobaethol, y Consortia Addysg Rhanbarthol, Estyn, Cymwysterau Cymru a Chyngor y Gweithlu Addysg.

Aelodau

  • Estyn
  • Cymwysterau Cymru
  • Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru
  • Consortiwm Canolbarth y De (CSC)
  • Gwasanaeth Cyflawni Addysg (EAS)
  • Ein Rhanbarth ar Waith (ERW)
  • Consortiwm Gogledd Cymru (GwE)
  • Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) (i'w gadarnhau)
  • Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) (i'w gadarnhau)
  • Cyfarwyddwyr Addysg Esgobaethol Cymru
  • Colegau Cymru
  • Swyddfa Archwilio Cymru (i'w gadarnhau)
  • Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol (i'w gadarnhau)
  • Llywodraeth Cymru - Addysg, Cynllunio Busnes a Llywodraethiant
  • Llywodraeth Cymru - Cwricwlwm
  • Llywodraeth Cymru - Effeithiolrwydd Ysgolion
  • Llywodraeth Cymru - Addysgeg, Arweinyddiaeth a Dysgu Proffesiynol
  • Llywodraeth Cymru - Cymorth i Ddysgwyr
  • Llywodraeth Cymru - y Gymraeg
  • Llywodraeth Cymru - Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi
  • Llywodraeth Cymru - Ymgysylltu - Ysgolion a Phobl Ifanc
  • Llywodraeth Cymru - Archwilio Mewnol
  • Llywodraeth Cymru - Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes