Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi penodi 5 Aelod newydd i Fwrdd Cynghorol Cymru ar Ddatblygu Diwydiannol (WIDAB). Gan ddechrau ym mis Tachwedd 2025, bydd y penodiadau yn para 3 blynedd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Tachwedd 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r Bwrdd, a sefydlwyd yn wreiddiol o dan Ddeddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975, yn rhoi cyngor i Ysgrifennydd y Cabinet ar faterion sy'n ymwneud ag economi Cymru ac yn helpu Llywodraeth Cymru i wireddu'i nod o sbarduno twf cynaliadwy a chynhwysol ym mhob un o ranbarthau Cymru trwy'r Cynllun Gweithredu ar yr Economi. Rhan ganolog o waith y Bwrdd yw rhoi cyngor ar brosiectau unigol sy'n gofyn am gymorth ariannol gwerth dros £1 miliwn o'r cynlluniau perthnasol sy'n rhan o Gronfa Dyfodol yr Economi.

Dyma aelodau newydd y Bwrdd:

Karen Cherrett

Dechreuodd Karen Cherrett ei gyrfa mewn plismona gweithredol cyn symud i fyd rheoli cyfleusterau a rhaglenni. Fel Cyfarwyddwr Gwasanaethau Meddal, arweiniodd Karen ar drafod a chyflawni contractau gwerth miliynau o bunnoedd gydag awdurdodau lleol cyn dod yn Ymgynghorydd Rheoli ar gyfer cwmni cynghori byd-eang. Ar ôl symud yn ôl i Gymru, sefydlodd Karen ei busnes ymgynghori ei hun tra hefyd yn bachu ar gyfleoedd i roi ei sgiliau a'i phrofiad ar waith i helpu eraill trwy fod yn aelod o Banel Adolygu Digidol Llywodraeth Cymru ac yn Gadeirydd Cyngor Cynghorol Cymru ar Arloesi. Mae Karen yn parhau i ddefnyddio ei sgiliau ers ymddeol trwy ymgymryd â rolau megis bod yn gyfarwyddwr anweithredol ar ddwy elusen leol ac un elusen genedlaethol, yn ogystal â bod yn fentor i raddedigion ac ôl-raddedigion ac yn fentor i fusnesau bach gyda Busnes Cymru. Mae Karen yn angerddol am helpu pobl a busnesau i gyrraedd eu potensial llawn trwy fynd i'r afael â'r materion sy'n eu rhwystro. 

Nicola Berry

Mae Nicola Berry yn Gynghorydd Cyffredinol ar gyfer A-Lab Solutions Limited, menter newydd sy'n gweithio i symleiddio gwiriadau gwrth-wyngalchu arian a gwiriadau adnabod cwsmer wrth dderbyn cleientiaid. Cyn hynny, roedd hi'n Uwch Gyfarwyddwr ar yr uned Materion Cyfreithiol a Busnes gyda Sony Interactive Entertainment Europe Limited, sy'n gweithredu busnes PlayStation yn Ewrop. Mae ganddi brofiad anweithredol, gan wasanaethu fel ymddiriedolwr ar gyfer Côr Dynion Hoyw Llundain ac Ymddiriedolaeth Natur Sir Drefaldwyn.

Iwan Trefor Jones

Iwan Trefor Jones yw Prif Weithredwr Adra, cymdeithas dai yng Ngogledd Cymru, sy'n cyflogi dros 400 o staff ac yn gyfrifol am ddarparu llety i 18,000 o bobl mewn mwy na 7,500 o gartrefi cymdeithasol a fforddiadwy ledled y rhanbarth. Cyn ymuno ag Adra, roedd Iwan yn Gyfarwyddwr Corfforaethol i Gyngor Gwynedd, yno darparodd arweinyddiaeth strategol ar gyfer nifer o wasanaethau gan gynnwys datblygu economaidd, cynllunio ac adfywio. Iwan hefyd oedd Cyfarwyddwr Arweiniol Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, gan arwain ar gais llwyddiannus y Cynllun Twf ar gyfer Gogledd Cymru, gan weithio'n agos gyda'r sector preifat ar draws y rhanbarth. Mae Iwan hefyd yn Gadeirydd Gafael Llaw, elusen sy'n cefnogi plant a phobl ifanc sy'n dioddef o ganser. Mae gan Iwan o brofiad helaeth a sgiliau yn y sector preifat a chyhoeddus ac angerdd dros lesiant cymunedol a hyrwyddo a gwella'r Gymraeg. 

Clive Glover

Ar hyn o bryd Clive Glover yw Is-lywydd / Rheolwr Cyffredinol Pall Medical. Mae gan Clive ybrofiad helaeth ac agwedd flaengar ym maes gwyddorau bywyd, yn enwedig mewn meddygaeth genomig a thechnolegau therapiwtig uwch. Gyda PhD mewn Geneteg o Brifysgol British Columbia a BSc mewn Ffiseg o Brifysgol McGill, mae Clive wedi treulio ei yrfa yn ysgogi cynnydd yn y diwydiant gwyddor bywyd. Mae ei rolau arweinyddiaeth yn cynnwys arwain y sefydliad Meddygaeth Genomig yn Pall Corporation. Yno, lluniodd strategaeth meddygaeth genomig Danaher ac arweiniodd ar gaffaeliadau allweddol fel Precision Nanosystems a CEVEC. Cyn hyn, bu'n rheoli portffolios cynnyrch therapi celloedd yn GE Healthcare Life Sciences a STEMCELL Technologies. Mae Clive yn cyfuno arbenigedd gwyddonol â chraffter busnes, gan ganiatáu iddo arwain datblygiad a masnacheiddio atebion meddygol arloesol, meithrin partneriaid i gydweithio â nhw a darparu technolegau sy'n gwella canlyniadau i gleifion ledled y byd.

Gus Williams

Gus Williams yw Prif Swyddog Gweithredol Bevan Buckland, cwmnïau cyfrifyddu ac archwilio annibynnol sydd wedi'i leoli yng Nghymru ac sydd ymhlith 100 uchaf y DU. Mae Gus hefyd yn Brif Swyddog Gweithredol Siambrau Cymru, mae'n rhan o rwydwaith Siambr Fasnach Prydain a sefydliad aelodaeth nid-er-elw sy'n cefnogi busnesau a chyrff eraill yn y sector preifat a chyhoeddus ledled de Cymru. Cenhadaeth y Siambrau yw cefnogi datblygiad economaidd a chymdeithasol y rhanbarth. Mae gan Gus hefyd gefndir mewn bancio rhyngwladol gyda phrofiad mewn datblygu busnes, buddsoddiad rhyngwladol, rheoleiddio byd-eang a rheoli risg. 

Cadeirydd newydd y Bwrdd, Owen Derbyshire, a benodwyd i'r rôl am gyfnod o 3 blynedd fydd yn arwain trafodaethau'r cyfarfodydd Bwrdd ac yn helpu ei gyd-aelodau i ddod i gonsensws fel bod modd rhoi argymhellion addas i Ysgrifennydd y Cabinet.

Bydd yr Aelodau newydd yn ymuno ag Owen, yn ogystal â Mark Rhydderch-Roberts, a ailbenodwyd am dymor arall o 3 blynedd ym mis Hydref 2025 a Trefor Owen, sydd wedi bod yn Aelod o'r Bwrdd ers mis Mehefin 2023.

Y tâl ar hyn o bryd yw £198 y diwrnod ar gyfer y Cadeirydd am ymrwymiad o ddiwrnod y mis ar gyfartaledd. Cynhelir cyfarfodydd bob mis. 

Mae'r penodiadau hyn wedi cael eu gwneud yn unol â'r Cod Ymarfer ar Benodiadau Cyhoeddus. Gwneir pob penodiad ar sail teilyngdod, ac nid yw gweithgarwch gwleidyddol yn rhan o’r broses ddethol. Nid yw'r Aelodau wedi datgan unrhyw weithgareddau gwleidyddol yn y bum mlynedd ddiwethaf.