Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi penodi Owen Derbyshire yn Gadeirydd newydd Bwrdd Cynghorol Cymru ar Ddatblygu Diwydiannol (WIDAB). Gan ddechrau ar 1 Gorffennaf 2025, bydd y penodiad yn para am 3 blynedd.
Mae'r Bwrdd, a sefydlwyd yn wreiddiol o dan Ddeddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975, yn rhoi cyngor i Ysgrifennydd y Cabinet ar faterion sy'n ymwneud ag economi Cymru ac yn helpu Llywodraeth Cymru i wireddu'i nod o sbarduno twf cynaliadwy a chynhwysol ym mhob un o ranbarthau Cymru trwy'r Cynllun Gweithredu ar yr Economi. Rhan ganolog o waith y Bwrdd yw rhoi cyngor ar brosiectau unigol sy’n gofyn i'r cynlluniau perthnasol sy'n rhan o Gronfa Dyfodol yr Economi am fwy na £1 miliwn o gymorth.
Fel Cadeirydd, bydd Owen yn arwain trafodaethau'r Bwrdd ac yn helpu ei gyd-aelodau i ddod i gonsensws a rhoi argymhellion addas i Ysgrifennydd y Cabinet. Bydd yn helpu hefyd i recriwtio aelodau newydd i'r Bwrdd yn ddiweddarach eleni.
Owen yw Prif Weithredwr Cadwch Gymru'n Daclus ac mae'n gyn-Aelod o WIDAB yn ogystal â Chadeirydd Grŵp Her Annibynnol Dŵr Cymru Welsh Water. Yn gyn-entrepreneur ym maes technoleg, mae wedi gweithio yn y byd darlledu gydag S4C ac ers hynny bu ganddo swyddi arwain uwch ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat a thrydydd sector. Mae gan Owen nifer o swyddi anweithredol ac ymddiriedol hefyd mewn ystod o sefydliadau sydd wedi ymrwymo i gael effaith gymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.
Y tâl ar hyn o bryd yw £256 y diwrnod ar gyfer y Cadeirydd am ymrwymiad o ddiwrnod y mis ar gyfartaledd. Cynhelir cyfarfodydd bob mis.
Mae'r penodiad hwn wedi'i wneud yn unol â'r Cod Llywodraethu ar gyfer Penodiadau Cyhoeddus. Gwneir pob penodiad ar sail teilyngdod, ac nid yw gweithgarwch gwleidyddol yn rhan o’r broses ddethol. Nid yw'r Cadeirydd wedi datgan unrhyw weithgareddau gwleidyddol yn y bum mlynedd ddiwethaf.
