Neidio i'r prif gynnwy

Mae Gweinidog yr Economi Vaughan Gething wedi ailbenodi Mr Michael Macphail yn Gadeirydd Bwrdd Cynghorol Datblygu Diwydiannol Cymru am gyfnod arall o dair blynedd sy’n dechrau ar 1 Gorffennaf 2022 ac yn dod i ben ar 30 Mehefin 2025.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Gorffennaf 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r Bwrdd, a sefydlwyd yn wreiddiol o dan Ddeddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975, yn rhoi cyngor i Weinidog yr Economi ar faterion sy'n ymwneud ag economi Cymru ac yn helpu Llywodraeth Cymru i wireddu ei nod o sbarduno twf cynaliadwy a chynhwysol ym mhob un o ranbarthau Cymru drwy'r Cynllun Gweithredu ar yr Economi. Rhan ganolog o waith y Bwrdd yw rhoi cyngor ar brosiectau unigol sy'n gofyn am fwy na £1 miliwn o gymorth gan y cynlluniau perthnasol sy'n rhan o Gronfa Dyfodol yr Economi.

Mae Michael Macphail yn Beiriannydd Siartredig ac yn Gymrawd Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol, a bu’n Gyfarwyddwr Peiriannu i Tata Steel Europe gynt. Mae wedi cael gyrfa amrywiol ac eang yn y diwydiant dur mewn swyddi cyfrifol ym meysydd peirianneg, gweithrediadau ac adnoddau dynol yn y DU ac yn Ewrop. Symudodd i fyw yng Nghymru o'r Alban yn 1990 ac mae wedi gweithio ar dimau rheoli busnesau British Steel yng Nghymru a'r Iseldiroedd. Bu'n gweithio i Corus ar ôl hynny, ac wedyn Tata ym Mhort Talbot.

Mae wedi gwasanaethu fel Aelod o Fwrdd Cynghorol Datblygu Diwydiannol Cymru ac wedi bod yn ei gadeirio am y tair blynedd ddiwethaf. Mae Michael wedi arwain prosiectau buddsoddi mawr yn y diwydiant, diolch i'w brofiad ym meysydd rheoli newid, busnes a rhoi strategaethau ar waith, rheoli prosiectau, ynni a'r amgylchedd. 

Fel Cadeirydd, bydd Mr Macphail yn arwain trafodaethau cyfarfodydd y Bwrdd ac yn helpu ei gyd-aelodau o'r Bwrdd i ddod i gonsensws fel y gellir rhoi argymhellion addas i'r Gweinidog. 

Nid yw Mr Macphail wedi cyflawni unrhyw weithgarwch gwleidyddol yn ystod y pum mlynedd diwethaf ac nid yw'n dal unrhyw benodiadau Gweinidogol eraill. Bydd y penodiad hwn yn para am dair blynedd. Y taliad cydnabyddiaeth presennol yw £256 y diwrnod ar gyfer y Cadeirydd am ymrwymiad o ddiwrnod y mis ar gyfartaledd. Cynhelir cyfarfodydd bob mis. 

Mae'r ailbenodiad wedi'i wneud yn unol â'r Cod Llywodraethu ar Benodiadau Cyhoeddus. Caiff pob penodiad ei wneud ar sail teilyngdod ac nid yw gweithgarwch gwleidyddol yn chwarae unrhyw ran yn y broses ddethol hon.