Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru: nodyn gan Gary Mitchell (Ebrill 2025)
Diweddariad gan aelod newydd o'r bwrdd Gary Mitchell.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru (FDWIB) – Gary Mitchell
Fel pob un ohonon ni ar y bwrdd, mae gen i gysylltiadau hir â bwyd a diddordeb arbennig mewn garddwriaeth ac amaeth-ecoleg. Etifeddais i'r diddordeb hwn oddi wrth fy nhad sydd wedi bod yn arddwr a thyfwr proffesiynol am y rhan fwyaf o fy mywyd i.
Roedden ni bob amser yn tyfu cymaint o'n bwyd ein hunain ag oedd modd, ac yn aml roedd gennyn ni syrcas o anifeiliaid.
Roedd fy nhad hefyd yn gyfrifol am adfer sawl gerdd furiog ar ystadau Fictoraidd mawr i'w hen ogoniant a'u gwneud yn llawn gynhyrchiol.
Fel llawer o fyfyrwyr, bues i'n gweithio mewn tafarn i ychwanegu at fy menthyciad / grant myfyrwyr, a ches i fy nghroesawu i deulu Whitbread. Yn fuan des i yn un o landlordiaid ifancach Whitbread – gan raddio o Sefydliad Tafarnwyr Prydain pan o'n i'n 23 oed. Bues i'n rhedeg tair tafarn yn ystod fy ngyrfa ac ro'n i hefyd yn gyfrifol am hyfforddi landlordiaid newydd yn y cwmni.
Ers mynd yn ôl i fy ngwreiddiau yng Nghanolbarth Cymru tua 2010 rwyf wedi bod yn gweithio ar systemau bwyd a chadwyni cyflenwi lleol. Ro'n i'n cefnogi gwaith sylfaenol cynnar Ymddiriedolaeth Tir Cwm Harry, menter economi gylchol wedi'i lleoli ar fferm mewn pentref bach ym Mhowys lle roedden nhw'n casglu gwastraff bwyd o'r gymuned, yn mynd ag ef yn ôl i'r fferm i'w gompostio ac wedyn defnyddio'r compost i dyfu llysiau i'w gwerthu yn ôl i'r gymuned. Dechreuodd y fenter hon ym 1998. Daeth y fenter honno yn Cwm Harry Food Co., a fi, ynghyd â ffrind gydol oes, oedd un o'r cyfarwyddwyr sefydlu.
Treulion ni flynyddoedd yn chwilio am dir fferm awdurdod lleol i ehangu'r fenter ond roedden ni'n methu'n gyson, gan fod y cysyniad hwn bach yn ddiarth i awdurdodau ffermio gwledig yr adeg honno – ond erbyn hyn mae pethau'n newid, diolch byth. Gwnaethon i benderfyniad dewr i newid o Gwmni Buddiant Cymunedol i Gymdeithas Buddiant Cymunedol (Coop) – ar y pryd ni oedd yr ail gwmni buddiant cymunedol yn unig i newid i'r model hwn, model lle mae gan y gweithwyr / cynhyrchwyr ragor o berchnogaeth, gan ddilyn arloeswyr fel SUMA ac eraill. Mae'r endid hwnnw'n masnachu o dan yr enw Cultivate am mae'n dal i gael ei reoli gan ffrind da i fi.
Rwyf bellach yn Brif Swyddog Gweithredol Elusen sy'n gweithredu ledled y DU gyfan – Social Farms and Gardens (SF&G) – lle rwy'n gweithio'n rhan-amser yn cefnogi 4,500 o aelodau i wneud yr hyn maen nhw'n ei wneud orau, sef creu allbynnau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd, i gyd yn seiliedig ar fwyd lleol a mannau gwyrdd lleol. Rwyf wedi bod yn gweithio i Social Farms and Gardens ers 13 mlynedd, a than yn ddiweddar roedd fy ngwaith yn canolbwyntio ar allbynnau yng Nghymru a meithrin cysylltiadau a phartneriaethau ar draws y sector. Yn ystod y cyfnod hwnnw rydyn ni wedi adeiladu partneriaethau parhaol â nifer sylweddol o sefydliadau, adrannau'r llywodraeth ac awdurdodau lleol. Rydyn ni wedi arwain ymchwil a threialon ar ran Llywodraeth Cymru, gan gynnwys mewn meysydd fel:
- amaethyddiaeth mewn amgylchedd a reolir
- caffael gan awdurdodau lleol
- datblygu canolfannau bwyd
- mynediad at dir
- rhandiroedd
a llawer mwy.
Mae gan y sector bwyd cymunedol dros 1,000 o safleoedd yng Nghymru, felly mae'n sector helaeth ac amrywiol. Yn erbyn y cefndir hwn y gofynnwyd i fi ystyried cefnogi Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru (FDWIB) – ac roedd yn bleser gen i dderbyn y cynnig. Rwyf i a sefydliadau eraill rwy'n gweithio gyda nhw wedi bod yn cefnogi'r datblygiadau a'r ddealltwriaeth y tu ôl i'r Strategaeth Bwyd Cymunedol a fydd yn cael ei lansio yn y Gwanwyn eleni.
Yn fy marn i mae hwn yn gam hynod gadarnhaol lle mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn casglu'r wybodaeth (am y rhwystrau a'r cyfleoedd) y tu ôl i'r system fwyd gymhleth sydd gennyn ni yng Nghymru .
Drwy wella'r cyflenwad o fwyd lleol, gallwn gynyddu mynediad pobl at fwyd iach a chynaliadwy – sydd â llai o filltiroedd bwyd ac sy'n cael ei gynhyrchu mewn ffordd sy'n cefnogi natur. Gall gwneud hyn ein helpu i leihau ansicrwydd ynghylch bwyd, atal salwch sy'n gysylltiedig â diet, a chreu cyfleoedd ar gyfer twf gwyrdd mewn economïau lleol.
Rwy'n ystyried fy rôl ar y bwrdd yn gyfle i dynnu sylw at natur amrywiol ein systemau bwyd cymunedol, ac i hyrwyddo'r manteision y mae'r rhain yn eu darparu wrth wella iechyd, lles, yr hinsawdd a natur wrth hefyd gyfrannu at ein heconomi a chynhyrchu bwyd. Rwyf am hyrwyddo a chefnogi'r rhai ar lawr gwlad sy'n wynebu problemau – ond hefyd rwyf am sicrhau cyfleoedd iddyn nhw ffynnu.
Mae Social Farms and Gardens yn arwain rhywfaint o waith arloesol o dan bartneriaeth Ffermydd y Dyfodol, lle rydyn ni'n rhyddhau tir ac yn newid polisi cynllunio i hyrwyddo a chefnogi cynhyrchu bwyd ffres, cynaliadwy yma yng Nghymru ac ar draws nifer o ardaloedd awdurdod lleol ac mae bod ar y bwrdd yn fy helpu i ledaenu'r dysgu o waith o'r fath.
Gary Mitchell, PBh (KCD), FRSA