Neidio i'r prif gynnwy

Fi yw un o aelodau diweddaraf y Bwrdd, yn dilyn fy mhenodiad ym mis Gorffennaf 2024.

Am y rhan fwyaf o 'ngyrfa, dwi i wedi gweithio gyda busnesau sy'n cyflenwi bwyd a diod i archfarchnadoedd mawr y DU. Dechreuais gyda swyddi marchnata yn Rank Hovis McDougall (RHM). Mae eu brandiau'n cynnwys Hovis, Mother's Pride, Nimble, Bisto a Saxa. Yna bues i'n gweithio i St Ivel (rhan o Unigate plc bryd hynny), yn arwain eu gwaith marchnata a datblygu cynnyrch newydd ar gyfer caws, menyn a llaeth powdr. Yn y rôl olaf hon y des i i weithio gyda chwmnïau manwerthu mawr y DU. Fe wnaethon ni weithio gyda'n gilydd ar waith datblygu categorïau a datblygu cynnyrch newydd o dan frand y manwerthwr.

Ym 1996 lansiais Axis Management Consulting a dwi wedi bod yn ei redeg byth ers hynny. Rydym yn cynnig gwasanaethau ymgynghori ac ymchwil i ddefnyddwyr/siopwyr ar gyfer ystod eang o fusnesau bwyd a diod.

Yng nghanol y 90au, roedd y prif siopau mawr yn disgwyl mwy a mwy oddi wrth eu cyflenwyr. Am y tro cyntaf, roedd disgwyl i gyflenwyr canolig a bach allu cydweithio yr un ffordd ag yr oedd disgwyl i gyflenwyr mawr ei wneud. "Category management" oedd y gair mawr ar y pryd. Ond nid oedd llawer o gyflenwyr yn gwybod sut oedd gwneud hyn. Fe wnaethon ni ddatblygu ffyrdd o weithio oedd yn effeithiol ac yn ymarferol i fusnesau oedd heb yr un adnoddau â busnesau mwy, gan eu helpu i fyw a ffynnu gyda'r archfarchnadoedd mawr. Dyna ddechrau ar duedd newydd! Rydym wedi treulio llawer o'n hamser ers hynny yn meddwl sut orau i helpu busnesau sydd â llai o adnoddau i fynd â’r maen i’r wal.

Mae gen i ddwy swydd Cyfarwyddwr Anweithredol hefyd. Y cyntaf oedd fel Cyfarwyddwr Anweithredol, ac yna Cadeirydd yr Ilchester Cheese Company – sy'n fwyaf adnabyddus am ei Applewood Smoked Cheddar. Bues i ynghlwm â threfnu bod rheolwyr yn prynu'r cwmni ac yna â chyfrannu at ddatblygiad y busnes dros bedair blynedd. Daeth y rôl i ben pan wnaethon ni werthu'r busnes, a oedd â throsiant o £30m+ erbyn hynny. Roedd yn brofiad dysgu gwych, gan roi boddhad mawr.

Fy ail swydd fel Cyfarwyddwr Anweithredol oedd cyfnod yn gadeirydd Cheese Innovations, busnes caws arbenigol llai yr oedd angen hwb arno. Roedd y busnes yn cymryd camau breision ymlaen pan wnaeth COVID daro. Er gweithio'n galed iawn i achub y busnes, bu'n rhaid ei gau yn 2021. Cyfnod anodd, gyda chanlyniad gwahanol iawn i'r hyn yr oeddem wedi'i ddymuno. Ond addysg werthfawr serch hynny.

Pan glywais fod cyfle i wasanaethu ar Fwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru, taniwyd fy niddordeb ar unwaith. Mae gen i hen ddiddordeb mewn economeg a datblygu polisi. Dwi hefyd yn awyddus i wneud cyfraniad trwy wasanaeth cyhoeddus. Mae'r Bwrdd yn ffenestr ddiddorol i weld cymaint o agweddau ar fwyd a diod Cymru. Bydd yn gyfle imi helpu i lywio'r gefnogaeth eang y mae Bwyd a Diod Cymru yn ei rhoi.

Mae llawer o'r heriau sy'n wynebu busnesau bwyd a diod Cymru yn debyg i'r rhai sy'n wynebu'r rheini yn rhannau eraill y Deyrnas Unedig. Wedi'r cyfan, yr un yw gofynion y manwerthwyr mawr, pa le bynnag maen nhw. Ond mae gan Gymru gyfran uwch o fusnesau bach a micro, ac mae hyn yn dod â heriau unigryw. 

Yn fy mlwyddyn gyntaf ar y Bwrdd, dwi wedi cael cwrdd â llawer o fusnesau bwyd a diod Cymru. Dwi wedi cael clywed eu hanes, ac wedi dysgu am eu llwyddiannau a'r heriau sy'n eu hwynebu.

Mae'r Bwrdd bellach yn gweithio'n amlach trwy is-grwpiau. Mae'r grwpiau yn cynnal ymchwiliadau 'dwfn' a gwaith 'gorchwyl a gorffen' ar bynciau penodol a meysydd sydd angen help. Er enghraifft:

  • mae un grŵp yn edrych ar yr help sy'n cael ei roi i fusnesau sy'n allforio, neu sydd am allforio
  • mae grŵp arall yn edrych ar fusnesau sy'n cyflenwi sector lletygarwch ffyniannus Cymru

Un mater sy'n mynd â fy sylw yw effaith Deallusrwydd Artiffisial (AI) ar y sector bwyd a diod yng Nghymru. Mae datblygiadau cyflym yn y maes yn dod â chyfleoedd mawr a bygythiadau mawr. Dros amser, bydd AI yn effeithio ar bob rhan o'r gadwyn gyflenwi bwyd a diod. Bydd angen i fusnesau bwyd a diod yng Nghymru fod yn barod i gymryd mantais lawn ar hyn.

Dwi'n edrych ymlaen at ail flwyddyn ddiddorol yn gweithio fel rhan o'r Bwrdd!