Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru: nodyn gan Margaret Ogunbanwo (Rhagfyr 2025)
Diweddariad gan aelod o'r bwrdd Margaret Ogunbanwo.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
A hithau nawr yn fis Rhagfyr, mae'n rhyfeddol myfyrio ar ba mor bell rydyn ni wedi dod ers mis Ionawr. Nawr, dyma ni yn paratoi ar gyfer y Nadolig ac yn ffarwelio â 2025. Gan symud gam wrth gam o un digwyddiad i'r llall, mae blwyddyn arall yn dod i ben. Mae pob un ohonom ar daith: boed hynny'n cynnwys dechrau neu dyfu busnes, trawsnewid syniadau'n realiti, neu gynnal ein mentrau i gefnogi ein cymunedau.
Dechreuodd fy nhaith fy hun fel foodie cyn i mi droi'n 10 oed, wedi fy ysbrydoli gan puff-puffs blasus fy Nana a werthais yn ystod gwyliau ysgol (rhywbeth nad yw'n hollol gyfreithlon, fel y dysgais flynyddoedd wedyn!). Mae'r llwybr hwn wedi mynd â mi o arlwyo ar gyfer Ystâd y Goron i addysgu am fwydydd amrywiol, gan gynnwys bwyd Indiaidd ac Affricanaidd, lansio fy mrand bwyd fy hun Maggie's African Twist yng Ngŵyl Fwyd Caernarfon i ysgrifennu tri llyfr coginio ac ym mis Tachwedd 2020, fe ddes i'n aelod o Fwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru.
Mae wedi bod yn daith o ddarganfod, wedi'i llenwi â deinameg adeiladu a chwalu rhwydweithiau. Eleni gyrrais dros bedair awr i fynychu Blas Cymru am y tro cyntaf - y daith hiraf rydw i wedi'i gwneud mewn dau ddegawd. Trwy gydol y broses hon, rwyf wedi dod ar draws cynhyrchwyr a chyflenwyr gwych, ac er bod 2025 wedi bod yn daith wyllt, mae wedi bod yn allweddol i mi gofio: nid pen y daith yw'r unig peth pwysig, mae'n bwysig mwynhau'r daith hefyd.
Wrth inni agosáu at ddiwedd 2025, rwy'n eich annog i dreulio ychydig eiliadau i werthfawrogi eich taith eich hun, p'un a ydych chi'n dechrau, tyfu, neu ddirwyn eich busnes i ben. Cymerwch anadl, edrychwch i fyny, ac aroglwch y glaswellt gwlyb (os ydych chi yng Nghymru! 😁). Bydd y cylch yn dechrau o'r newydd, ac os ydych chi wedi dod o hyd i lawenydd ym mhrofiad eleni, bydd yn tanio eich gobaith a'ch ysbrydoliaeth ar gyfer 2026.
Gadewch i ni barhau â'n taith ar y cyd i gynhyrchu ac arddangos y gorau o fwyd a diod Cymru. Dymunwn Nadolig gwych i chi!
Mwynhewch y daith
Maggie O
