Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r ddwy flynedd ddiwethaf, yn ddi-os, wedi bod y mwyaf heriol i'n diwydiant mewn cof. Brexit, yna Covid, yna mae'r argyfwng yn yr Wcráin wedi effeithio'n fawr arnom ni i gyd ac wedi gadael creithiau mewn sawl ffordd.

Mae effaith barhaus yr argyfyngau hyn wedi creu storm berffaith sy'n torri'n ddwfn ym mhob busnes bwyd a diod. Gwyddom ein bod yn gorfod delio â phrinder llafur, costau cynyddol ac anwadal, bygythiadau i'r gadwyn gyflenwi a'r her o drosglwyddo codiadau mewn prisiau i'n cwsmeriaid sy'n gweithio mewn marchnadoedd cystadleuol iawn ac sy'n cyflenwi defnyddwyr sydd eisoes yn teimlo effaith chwyddiant.

Felly, er gwaethaf yr holl heriau, a wyf wedi anobeithio gyda'r diwydiant Bwyd a Diod? Yn bendant ddim! Mae fy mrwdfrydedd dros y cyfleoedd y mae Bwyd a Diod Cymru yn eu cynnig yn parhau ond nid yw'n optimistiaeth ddall.

Mae gennym ddiwydiant anhygoel. Ein diwydiant yw un o'r rhai mwyaf arloesol yn Ewrop ac os oes unrhyw un yn amau hyn yna dylech ymweld ag un o'n canolfannau arloesi bwyd a diod niferus yng Nghymru. Mae arloesi'n mynd law yn llaw ag entrepreneuraeth ac mae'r sylfaen fusnes BBaChau sydd gennym yng Nghymru yn darparu'r egin a'r sbardun gwych i ysgogi'r arloesedd hwn.

Credaf mai'r un o'r pethau sy'n gwneud ein sector bwyd a diod yng Nghymru mor arbennig yw ein gallu i gydweithio yng Nghymru ac ar draws y DU. Rydym yn cael ein parchu fwyfwy am ein barn ac rydym yn chwarae rhan allweddol yn dylanwadu ar feddylfryd Llywodraeth San Steffan sy'n dal yr awenau ar nifer o faterion polisi sy'n effeithio ar ein diwydiant. Wrth gwrs, mae llawer o faterion polisi wedi'u datganoli a dylem gydnabod Llywodraeth Cymru am y cymorth y maent yn parhau i'w ddarparu i'n diwydiant o dan amgylchiadau anodd a newidiol.

Rwyf wedi ysgrifennu o'r blaen am y cyffro rwy'n ei deimlo am allforion sy'n rhoi cyfle gwirioneddol i'n sector. Credaf ei bod yn hanfodol ein bod yn gweithio mewn partneriaeth i nodi cyfleoedd mewn marchnadoedd allforio lle gallwn ychwanegu gwerth a chadw sefyllfa gystadleuol. Mae cytundebau masnach rydd yn esblygu'n gyflym ac yn fyd-eang gyda thrafodaethau gydag India a Chanada wedi dechrau ac eraill yn dilyn yn fuan. Mae gennym gyfrifoldeb i fod yn chwilfrydig, i chwilio am gyfleoedd nad ydynt efallai'n amlwg i ddechrau a bod yn barod i weithio gyda phartneriaid newydd a phartneriaid presennol i wireddu cyfleoedd. Taith yw hon.

Ac yn awr i'm pwynt olaf – er gwaethaf ein holl heriau, rydym yn byw mewn democratiaeth ac yn gallu cysgu'n ddiogel yn y nos. Ni ddylem fyth anghofio sefyllfa erchyll ein cyfeillion yn Wcráin yn gwynebu ymosodiadau creulon, a gwneud popeth o fewn ein gallu yn ein diwydiant i sicrhau bod y rhai yn Rwsia sy'n gyfrifol yn talu'n ddrud yn fasnachol am ymddygiad nad oes lle iddo mewn byd modern.

Andy Richardson, Cadeirydd Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru