Neidio i'r prif gynnwy

Annwyl bawb

Mae’r 18 mis diwethaf wedi bod ymysg y misoedd mwyaf heriol ers cenhedlaeth. Mae gwydnwch a phenderfyniad Busnesau Bwyd a Diod Cymru wedi cael eu profi i’r eithaf, ac mae'n dyst gwirioneddol i bawb yn ein diwydiant ein bod mewn sefyllfa i geisio symud ymlaen wrth i’r hydref agosáu. 

Er na fyddai’n briodol i anwybyddu'r heriau niferus yr ydym yn parhau i'w hwynebu gan gynnwys cludo nwyddau, ansicrwydd rheoleiddio mewnforio, allforio mwy biwrocrataidd, prinder staff ac wrth gwrs continwwm Covid, mae mor bwysig ein bod yn mynd ati yn awr i ddechrau adeiladu ar gyfer ein dyfodol. 

Nid oes gennyf amheuaeth o gwbl bod Bwyd a Diod Cymru yn ddiwydiant sy’n tyfu ond er mwyn I ni allu parhau i ddilyn yr un trywydd mae’n rhaid inni ganolbwyntio ar yr hyn sydd ei angen ar ein cwsmeriaid mewn marchnadoedd cartref, y DU a'r byd. Mae'n siŵr y bydd angen canolbwyntio ar arloesi, tarddiad a chynaliadwyedd.  

Credaf fod posibiliadau di-ri i Fwyd a Diod Cymru o fewn y farchnad allforio fyd-eang. Wrth i fanylion Cytundebau Masnach Rydd ddechrau cael eu datgelu, credaf yn gryf y dylem ganolbwyntio ar yr hyn y mae'r Cytundebau Masnach Rydd hyn yn ei olygu i fusnesau Bwyd a Diod Cymru, gan gynnwys lle mae ein mantais gystadleuol. Bydd ein llwyddiant yn ddibynnol ar y modd y byddwn yn elwa ar y fantais gystadleuol hon ac nid ar ein gallu i ymateb i gyfleoedd nad ydynt yn gweddu i'n cryfderau yng Nghymru. 

Ni allaf aros i ddathlu ein Bwyd a Diod yn ystod digwyddiad BlasCymru ym mis Hydref. Dyma ein harddangosfa i'r Byd ac mae’n gyfle gwirioneddol i ddechrau cam nesaf ein twf felly edrychaf ymlaen at gwrdd â chymaint ohonoch â phosibl yn y digwyddiad, naill ai wyneb yn wyneb neu dros y we! 

Mae cydweithio'n parhau’n allweddol a byddwn yn annog busnesau bwyd a diod o bob maint ac ym mhob rhan o Gymru i ymgysylltu â'r Bwrdd a rhannu eich profiadau. Dylem barhau i rannu ein gwybodaeth a'n mewnwelediad, chwilio am atebion ac wynebu heriau’r cyfnod ansicr hwn gyda'n gilydd. 

Andy Richardson, Cadeirydd Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru