Neidio i'r prif gynnwy

Beth am ddechrau ar nodyn positif – onid oedd yn anhygoel gweld pawb yn y Sioe Frenhinol ym mis Gorffennaf ar ôl bwlch o 3 blynedd?

Roedd mor galonogol gweld cynifer ohonoch yn y digwyddiad a chlywed eich straeon am y gwytnwch, yr arloesedd a’r ystwythder sydd wedi helpu'r diwydiant i addasu a hyd yn oed i fanteisio ar bandemig Covid. Rwy’n cael fy synnu bob amser gan ddyfeisgarwch y diwydiant hwn ac o weld eich bod, mewn sawl achos, wedi achub ar y cyfle i adfywio’ch busnesau.

Pan adawsom y sioe ar y diwrnod olaf yn ôl yn 2019, pwy allai fod wedi rhagweld pandemig Covid-19 a'r effaith enfawr y byddai’n ei chael ar yr economi fyd-eang, ar economi’r DU a Chymru, ar y ffordd y mae busnesau'n gweithredu ac, wrth gwrs, ar ein bywydau personol.

Wrth inni geisio symud ymlaen ar ôl Covid, allwn ni ddim anwybyddu’r prinder llafur sy'n ein hwynebu ar draws y DU ar hyn o bryd. Mae Brexit, colli gweithwyr mudol, a’r pandemig, i gyd wedi chwarae’u rhan yn hynny o beth ac, am y tro cyntaf, mae mwy o swyddi gwag nag o bobl sy'n chwilio am waith. Mae hynny’n cael effaith andwyol ar weithgynhyrchu bwyd a diod o Gymru, a rhaid i ni ddod o hyd i atebion er mwyn mynd i'r afael â'r prinder hwnnw.

Roeddwn i'n arbennig o falch o weld yr Hwb Gyrfaoedd Bwyd a Diod yn y Sioe Frenhinol yn rhoi proffil uwch i yrfaoedd yn y maes. Mae'r fenter hon yn adeiladu ar waith ymgyrch Gweithlu Bwyd Cymru sy'n ceisio annog rhagor o bobl i weithio yn y sector ac sydd wedi cyrraedd dros 7 miliwn o bobl drwy wahanol blatfformau ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae ymgyrch Gweithlu Bwyd Cymru, a lansiwyd ym mis Ionawr eleni, wedi bod yn helpu'r sector gyda phroblemau recriwtio, gan dynnu sylw at y cyfleoedd gyrfa gwych sydd ar gael a hysbysebu swyddi go iawn sydd ar gael ar hyn o bryd drwy'r Hysbysfwrdd Swyddi.

Rydym yn siarad yn aml am y daith o’r cae i’r fforc, ond wrth wneud hynny, rydym, yn aml iawn, yn neidio yn syth o amaethyddiaeth i faes manwerthu a lletygarwch, ac nid yw’r negeseuon hanfodol am brosesu a gweithgynhyrchu yn cael eu hadrodd. Yn y sioe, bu'r Hwb Gyrfaoedd Bwyd a Diod yn adrodd hanes y daten gyffredin, gan ddechrau yn y cae a dilyn ei hynt trwy’r broses weithgynhyrchu, o gynaeafu, tasgau logistaidd megis symud paledi o datws ar wagenni fforch godi, y llu o weithredwyr cynhyrchu sy'n rhan o'r broses, rheoli hylendid, rôl gwyddonwyr bwyd wrth ddatblygu cynnyrch newydd, a phwysigrwydd marchnata a chyllid; pob rôl â rhan bwysig i’w chwarae wrth sicrhau bod yn daten honno’n cyrraedd plât y defnyddiwr.

Wrth edrych i’r dyfodol, rwy'n credu'n angerddol bod bwyd a diod o Gymru mewn sefyllfa berffaith i ffynnu pan fydd y marchnadoedd yn ymadfer, a phethau'n gwella. Nid optimistiaeth ddall yw hynny ond yn hytrach ymdeimlad o frwdfrydedd pendant bod yr hyn y mae ei angen arnom er mwyn llwyddo yn y dyfodol eisoes yn ei le.

Yn fy nghylchlythyr diwethaf, siaradais am y rôl y bydd arloesi’n ei chwarae yn ein llwyddiant yn y dyfodol. Hoffwn fynd ati yn awr i ystyried cynaliadwyedd. Does dim dwywaith bod nifer o fusnesau wedi bod yn rhoi llai o sylw i bwysigrwydd cynaliadwyedd wrth iddynt ganolbwyntio ar oroesi ar ôl Covid ac effeithiau'r rhyfel yn Wcráin, yn enwedig y cynnydd aruthrol ym mhrisiau ynni. Rwy'n deall yn iawn yr effaith y mae'r sefyllfa bresennol o ran ynni yn ei chael ar ein diwydiant ac mae'r Bwrdd wedi bod yn gweithio'n ddiflino i sicrhau bod llunwyr polisi'n ymwybodol o'r effaith y mae ac y bydd prisiau ynni’n ei chael ar ein sector. Rwy’n cydnabod hefyd fod y cyfuniad o gostau cynyddol ac anwadal yn golygu bod cynllunio ar gyfer y dyfodol yn gryn her.

Er gwaethaf yr heriau sy’n ein hwynebu ar hyn o bryd, rwy'n hyderus y bydd y ffocws yn troi’n ôl at gynaliadwyedd yn fuan. Heb os nac onibai, bydd cwsmeriaid y dyfodol yn y DU ac yn rhyngwladol am weld cynnydd yn cael ei wneud ar gynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy. Bydd hynny’n dod yn "drwydded i gynnal busnes" yn ystod y blynyddoedd nesaf.

Felly, rwy'n falch iawn o glywed bod aelodaeth Clwstwr Cynaliadwyedd Bwyd a Diod Cymru wedi cynyddu i dros 100 o aelodau busnes yn ychwanegol at gyrff y llywodraeth a sefydliadau academaidd. Mae hynny’n tystio i’r diddordeb sydd gan fusnesau Bwyd a Diod Cymru mewn cynaliadwyedd. Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu sut y gallai cynaliadwyedd helpu i greu busnes mwy cadarn ar gyfer y dyfodol ac os hoffech gael gymorth i wneud eich model busnes yn un mwy cynaliadwy, dylech ystyried ymuno â'r Clwstwr Cynaliadwyedd. Byddwch yn cael cyfle i ddysgu oddi wrth gymheiriaid, yn cael cymorth gyda'ch prosiectau, ac yn cael eich cyfoethogi trwy straeon achos ysbrydoledig sy'n ein hysbrydoli ni i gyd i "anelu’n uwch o ran cynaliadwyedd".

Ac yn olaf, bydd nifer ohonoch yn gwybod bod Gwobrau Bwyd a Ffermio'r BBC yn ymweld â Chymru am y tro cyntaf erioed ym mis Tachwedd. Mae hon yn bluen enfawr yng nghap y diwydiant yng Nghymru ac yn gyfle gwirioneddol i ddangos yr hyn sydd gennym i’w gynnig i’r byd ac i gydnabod rôl Bwydydd a Diodydd o Gymru a’r dylanwad cynyddol y maen nhw’n n ei gael ar y map bwyd yn y DU ac yn fyd-eang.

Diolch am yr hyn yr ydych chi i gyd yn parhau i'w wneud dros ein diwydiant hanfodol.

Andy Richardson, Cadeirydd Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru