Neidio i'r prif gynnwy

Annwyl bawb,

 ninnau ar bwynt canol y flwyddyn, mae hi'n amser da cymryd cam yn ôl i fyfyrio ar hanner cyntaf digon ymestynnol i 2021, ac i feddwl hefyd am y cyfleoedd sydd o'n blaenau. 

Wrth i Gymru barhau i gymryd camau pwyllog a gofalus tuag at lacio cyfyngiadau Covid, mae effeithiau'r pandemig ar fusnesau bwyd a diod yn dod yn fwyfwy amlwg. Mae llawer o fusnesau'n dal i ddioddef effeithiau 18 mis cythryblus, ac mae straen ariannol yn dal i fod yn sialens i lawer o fusnesau. Fodd bynnag, mae hi'n hanfodol nad ydym yn caniatáu i'r pandemig lesteirio momentwm ein twf, ac mae hynny'n cynnwys cadw ein ffocws ar arloesi a sgiliau. Rhaid i ni weithio gyda'r llywodraeth i sicrhau ein bod ni'n parhau i fuddsoddi yn y meysydd allweddol yma.

Yn yr un modd, mae ein diwydiant pwysig yn dechrau sylweddoli beth yw rhai o wirioneddau ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, ac mae nifer o bethau'n dal i fod yn ansicr, gan gynnwys mater Gogledd Iwerddon. Er ei bod hi'n anodd gweld heibio i'r sialensiau newydd sydd ynghlwm wrth wneud busnes gyda'r UE, rhaid i ni beidio ag anghofio am y cyfleoedd a allai godi o'r amryw o  gytundebau masnach sydd dan drafodaeth ar hyn o bryd. Pan fo un drws yn cau, mae un arall yn agor, a dylem fod yn barod i fachu ar unrhyw gyfleoedd sy'n codi. Gadewch i ni chwarae rôl adeiladol a chraff wrth i'r cytundebau masnach byd-eang yma ddod i'r fei.

Fel Bwrdd, rydyn ni'n cydnabod bod y byd newid. Bydd y cam nesaf yn ein strategaeth yn taclo'r materion hyn ac yn gweithio i ddod o hyd i atebion i'r diwydiant. Yn 2020, penodwyd pump aelod newydd i ddod â chyfoeth o sgiliau a phrofiad newydd ac amrywiol i'r Bwrdd, ac mae'r aelodau newydd yma wedi bod yn gweithio gyda'r rhai cyfredol i ddylunio strategaeth i ategu adferiad a thwf at y dyfodol.

Rydyn ni'n gwybod ein bod ni'n allforio llai na 10% o'r bwyd a'r diod a gynhyrchir yng Nghymru ar hyn o bryd, ac er mwyn i ni barhau i dyfu, mae angen i ni edrych i gyfeiriad ehangu ein gwerthiannau mewn marchnadoedd allforio, yn enwedig lle bo gennym fantais gystadleuol fel cenedl.  Yr allwedd fydd cynorthwyo'r twf yma trwy hyfforddiant, arloesi a sgiliau.

Yn olaf, hoffwn estyn llongyfarchiadau i Lesley Griffiths AC ar ei hailbenodiad fel Gweinidog Materion Gwledig, â bwyd a diod yn rhan o'i phortffolio. Mae Lesley wedi bod yn eiriolwr bendigedig dros ein diwydiant ac wedi cynnig cefnogaeth anhygoel i ni. Rydyn ni'n edrych ymlaen yn fawr at barhau i gydweithio er budd y diwydiant.

Fel arfer, cydweithio yw'r allwedd, a byddwn yn annog busnesau bwyd a diod mawr a bach ac ym mhob rhan o Gymru i gysylltu â'r Bwrdd a rhannu eich profiadau. Dylem ddal ati i rannu profiadau, chwilio am atebion a ffeindio'n ffordd trwy'r adeg ansicr yma gyda'n gilydd.

Andy Richardson, Cadeirydd Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru