Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb o ddiben Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru.

Diben y Bwrdd

Diben y Bwrdd yw hyrwyddo a gwella enw da'r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru er mwyn cyflawni y Gweledigaeth ar gyfer y diwydiant Bwyd a Diod o 2021.

Diben y Weledigaeth yw creu sector bwyd a diod cryf a bywiog yng Nghymru sydd ag enw da ym mhedwar ban byd am ragoriaeth, ac sydd ag un o’r cadwyni cyflenwi mwyaf cyfrifol yn y byd yn amgylcheddol ac yn gymdeithasol.

Nod hyn yw cyflawni'r canlynol:

  • Y genhadaeth:
    • Tyfu’n busnesau, o ran eu maint, eu gwerth a’u cynhyrchiant
    • Bod o fudd I’n pobl a’n cymdeithas
    • Hyrwyddo Cymru a dathlu’n llwyddiant fel Cenedl Fwyd fyd-eang.

I gwrdd y nodau canlynol:

  • Twf a chynhyrchiant - Bydd ein sector bwyd yn tyfu’n gynt nag yng ngweddill y DU.
  • Cynaliadwyedd - Byddwn yn ymgyrraedd at y lefelau uchaf o gynaliadwyedd amgylcheddol.
  • Gwaith Teg - Credwn mewn Cmru Gwaith Teg, lle mae pawb yn cael eu gwobrwyo, eu clywed a’u cynrychioli’n deg, a lle maent yn ddiogel ac yn cael eu parchu.
  • Enw da a safonau - Bydd mwy o fusnesau’n cael eu hachredu, yn ennill gwobrau, ac yn cyrraedd y safonau uchaf o ran hylendid bwyd.

Mae gan Gymru nodau llesiant clir, sydd i’w gweld yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.  Nod y weledigaeth yw gweithio mewn partneriaeth â cwmnïau bwyd a diod sy'n rhannu'r gwerthoedd hyn, ac i gefnogi prosiectau sy'n helpu i gyflawni'r genhadaeth a chyrraedd y nodau.

Y Bwrdd

Mae gwaith y Bwrdd yn cydnabod ac yn cefnogi Saith Sylfaen Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru). Mae'r sylfeini'n berthnasol i bopeth a wnawn ac yn cynnwys y sector Bwyd a Diod. Mae'r 7 Sylfaen fel a ganlyn:

  1. Rhaid rhoi’r dechrau gorau posibl i blant mewn bywyd o’r cychwyn cyntaf.
  2. Mae ar genedlaethau’r dyfodol angen cymunedau ffyniannus wedi’u hadeiladu ar ymdeimlad cryf o le.
  3. Mae byw o fewn cyfyngderau amgylcheddol byd-eang, rheoli ein hadnoddau’n effeithiol a gwerthfawrogi ein hamgylchedd yn hanfodol.
  4. Mae buddsoddi yn ein heconomi leol gynyddol yn hanfodol er lles cenedlaethau’r dyfodol.
  5. Mae lles pawb yn dibynnu ar leihau anghydraddoldeb a gosod mwy o werth ar amrywiaeth.
  6. Mae ymgysylltu mwy yn y broses ddemocrataidd, llais cryfach i’r dinesydd a chyfranogiad gweithredol mewn gwneud penderfyniadau yn sylfaenol ar gyfer llesiant cenedlaethau’r dyfodol.
  7. Bydd dathlu llwyddiant, a gwerthfawrogi ein treftadaeth, ein diwylliant a’n hiaith yn cryfhau ein hunaniaeth ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Rôl bennaf y Bwrdd yw rhoi arweiniad a chyfarwyddyd i'r diwydiant yng Nghymru, gan annog rhwydweithio a rhannu gwybodaeth a chynghori Gweinidogion Llywodraeth Cymru.

Bydd y Bwrdd yn ystyried targedau twf a blaenoriaethau strategol ac yn helpu i hyrwyddo camau gweithredu i gyflawni'r canlyniadau strategol disgwyliedig.

Bydd y Bwrdd hefyd yn cynghori ar y broses weithredu a'r adnoddau sydd eu hangen i gyflawni'r canlyniadau strategol hyn. Bydd y Bwrdd hefyd yn rhoi arweiniad ar sut i wella sgiliau yn y sector, denu aelodau newydd a chadw gweithwyr proffesiynol crefftus.

Mae'r Bwrdd yn atebol i Weinidogion Llywodraeth Cymru gyda'r nod yn y pendraw o ddod yn annibynnol ar y llywodraeth. (Er enghraifft, gall ddatblygu'n sefydliad sy'n aelod o'r busnes bwyd). Nid endid cyfreithiol yw'r Bwrdd ac nid oes ganddo unrhyw gyfrifoldebau cyfreithiol na swyddogaethau gweithredol. Bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn mynd i gyfarfodydd fel arsylwyr.

Aelodaeth

Mae'r Bwrdd yn cynnwys cyfanswm o 12 aelod, sy’n cynnwys Cadeirydd, Dirprwy Gadeirydd (y ddau'n etholedig) a deg aelodau ychwanegol. Mae pob aelod wedi'i ddethol drwy broses penodi lled-gyhoeddus. Maen nhw'n meddu ar y sgiliau a'r profiad perthnasol a chytunwyd arnynt gan Weinidogion Llywodraeth Cymru.

Bydd aelodau'n cynrychioli'r gadwyn cyflenwi bwyd gyfan ond yn gweithredu fel unigolion yn hytrach na chynrychiolwyr sectorau penodol o'r diwydiant yn swyddogol.

Bydd aelodau'n gweithredu'n unol â saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus, sy’n fel a ganlyn:

  1. Selflession
  2. Cywirdeb
  3. Gwrthrychedd
  4. Atebolrwydd
  5. Agored
  6. Gonestrwydd
  7. Arweinyddiaeth

Rôl a chyfrifoldebau

Prif gyfrifoldebau'r Bwrdd yw'r canlynol:

  • Arwain y diwydiant bwyd.
  • Cynghori gweinidogion a swyddogion.
  • Cyfathrebu, hyrwyddo, annog a chynrychioli'r Diwydiant.
  • Gweithio mewn partneriaeth â'r llywodraeth, rhanddeiliaid y diwydiant a grwpiau/sefydliadau eraill sy'n cynghori Llywodraeth Cymru.
  • Monitro a gwerthuso, dadansoddi datblygiadau yn y diwydiant, ei dueddiadau a'i gyfleoedd.

Bydd y Bwrdd yn rhoi adroddiad blynyddol i Weinidogion Llywodraeth Cymru - Adroddiad Diweddaru'r Sector Bwyd Blynyddol. Bydd hwn yn cael ei rannu gyda’r Senedd / Welsh Parliament. Bydd y Bwrdd yn cael cymorth yn hyn o beth gan Grŵp Polisi Bwyd Llywodraeth Cymru.

Bydd Llywodraeth Cymru'n cynnal adolygiad canol tymor o'r cynnydd o ran cyflawni camau'r cynllun a chanlyniadau. Bydd y Bwrdd yn rhoi cyngor ac argymhellion ar gyfer blaenoriaethau diwygiedig a newydd.

Cyfarfodydd

Disgwylir i'r Bwrdd gwrdd o leiaf bedair gwaith y flwyddyn, a disgwylir i aelodau fod ar gael i weithio o leiaf un diwrnod bob 3 mis. Y Cadeirydd fydd yn penderfynu ar leoliad cyfarfodydd ar y cyd ag aelodau'r Bwrdd.

Cyfrinachedd/rheolau Chatham House

Bydd Rheol Chatham House, boed yn rhannol neu'n gyfan, yn berthnasol i gyfarfodydd.

Gwrthdaro Buddiannau

Rhaid i'r Cadeirydd a'r Aelodau ddatgan unrhyw fuddiannau personol neu fusnes.

Tîm Cymorth

Mae Tîm Polisi Bwyd Llywodraeth Cymru yn rhoi cymorth ysgrifenyddol i'r Bwrdd tan y daw'r Bwrdd yn annibynnol ar y llywodraeth.