Neidio i'r prif gynnwy
Ffotograff o Eleri Thomas

Roedd Eleri Thomas yn aelod o’r Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro.

Mae’n arwain ar faterion plant a phobl ifanc, yn gweithio gyda phobl ifanc sydd yn y system cyfiawnder troseddol, dioddefwyr troseddau, a’r rhai sy’n agored i niwed ac angen eu diogelu a’u cefnogi.

Mae’n gyfrifol am ddatblygu a darparu rhaglenni atal ac ymyrryd yn fuan ar gyfer yr heddlu a gwasanaethau ieuenctid. Mae hefyd yn arwain y gwaith o ddatblygu gweledigaeth a gwerthoedd Cynllun Heddlu a Throseddu Gwent.

Ers ei phenodi’n Ddirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent mae Eleri wedi bod yn rhan hanfodol o’r gwaith o ddatblygu cronfa grant strategol sy’n targedu adnoddau i gefnogi pobl ifanc yng nghymunedau mwyaf difreintiedig Gwent.

Yn 2017, cynorthwyodd i lansio’r cynllun ‘Heddlu Bach’ arloesol yn llwyddiannus yng Ngwent. Nod y rhaglen hon, ar gyfer plant 9-11 oed, yw chwalu’r rhwystrau rhwng pobl ifanc a’r heddlu drwy eu cynnwys o oedran cynnar. Mae’n addysgu gwerthoedd, sgiliau a pharch iddyn nhw, ac wedi’i gyflwyno i dros 20 o ysgolion yn barod.

Mae gan Eleri dros 20 mlynedd o brofiad yn gweithio mewn swyddi arwain a rheoli strategol yng Nghymru, wedi’i ategu’n helaeth gan waith datblygu gwasanaethau ac ymarfer i blant a phobl ifanc.

Mae’n gyfrifol am feithrin cysylltiadau strategol gydag uwch swyddogion a rheolwyr yn Heddlu Gwent ac yn gweithio gyda chyrff allanol yn cynnwys Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, partneriaid cyfiawnder troseddol, byrddau iechyd, awdurdodau lleol a’r sector gwirfoddol ar brosiectau a mentrau ar y cyd.

Fel cyn Brif Swyddog Gweithredol a Dirprwy Comisiynydd Plant Cymru (2009 - 2016), bu Eleri’n arwain y gwaith o ddylanwadu ar bolisïau strategol a deddfwriaeth i wella hawliau plant, a arweiniodd at gynlluniau gweithredu ym maes eiriolaeth a cham-fanteisio’n rhywiol ar blant.

Dyfarnwyd MBE i Eleri yn 2009 am ei gwasanaethau i blant a phobl ifanc tra roedd yn bennaeth yr elusen blant, Achub y Plant, yng Nghymru (2001–2009). Mae’n gadeirydd ymddiriedolwyr Fforwm Ieuenctid Bro Morgannwg ac yn un o Ymddiriedolwyr Kids in Museums.