Neidio i'r prif gynnwy
Ffotograff o Joanne Sims

Roedd Joanne Sims yn aelod o’r Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro.

Mae Jo Sims wedi gweithio yn y Gwasanaeth Ieuenctid a’r Sector Ieuenctid am 20 mlynedd. Ar ôl graddio o’r brifysgol, bu’n gweithio yn Rwsia fel athrawes Saesneg, cyn dychwelyd i weithio fel gwirfoddolwraig ac yna fel gweithiwr ieuenctid yng Ngwasanaeth Ieuenctid Casnewydd. Roedd y rôl yn cynnwys treialu a datblygu gwaith ieuenctid mewn ysgolion a rhaglenni llythrennedd emosiynol a bu’n gweithio hefyd gweithiwr ieuenctid datgysylltiedig ac mewn canolfan yng Nghasnewydd. Yn ddiweddarach, gweithiodd fel Uwch Weithiwr Ieuenctid mewn prosiect ieuenctid sector gwirfoddol gyda phobl ifanc yn ystod datblygiad Ymestyn Hawliau a datblygwyd hyn ymhellach wrth iddi weithio am gyfnod byr gyda Chymdeithas y Plant, cyn mynd ymlaen i weithio i Tros Gynnal. Yna treuliodd 6 blynedd gyda Chomisiynydd Plant Cymru fel Uwch Swyddog Cyfranogi. Ers 9 mlynedd bellach mae wedi bod yn gweithio fel Rheolwr Gwasanaethau Ieuenctid Blaenau Gwent gan arwain y gwaith o ddatblygu rhaglenni Ieuenctid Cronfa Gymdeithasol Ewrop De Ddwyrain Cymru. Yn y ddwy flynedd ddiwethaf hi oedd Cadeirydd Grŵp y Prif Swyddogion Ieuenctid Cymru. Ar hyn o bryd mae’n cynrychioli Blaenau Gwent ar Grŵp y Prif Swyddogion Ieuenctid ac yn aelod o’r Pwyllgor Safonau Addysg sy’n cefnogi rhaglenni Gwaith Ieuenctid a Chymunedol JNC mewn Sefydliadau Addysg Uwch ledled Cymru.

Dros yr 11 mlynedd diwethaf, mae wedi bod yn gweithio fel Rheolwr Gwasanaethau Ieuenctid Blaenau Gwent, yn datblygu’r gwasanaethau i ddarparu ystod o raglenni mynediad agored a gwaith ieuenctid wedi’u targedu. Bu’n arweinydd strategol ar y Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid ac yn arweinydd ar ddatblygiadau rhaglenni Youth Inspire Cronfa Gymdeithasol Ewrop De-ddwyrain Cymru. Yn fwy diweddar, fel rhan o gylch gwaith ehangach, mae Jo yn rheoli’r berthynas a gomisiynwyd rhwng y Cyngor a’r Ymddiriedolaeth Hamdden ac mae’n goruchwylio’r Bartneriaeth Ôl-16. Ar hyn o bryd, mae’n cynrychioli Blaenau Gwent ar Grŵp y Prif Swyddogion Ieuenctid ac yn aelod o’r Pwyllgor Safonau Addysg sy’n cefnogi rhaglenni Gwaith Ieuenctid a Chymunedol JNC mewn Sefydliadau Addysg Uwch ledled Cymru.

Mae’n byw yn Ystradfellte, Powys ar fferm gyda’i phartner a’i phlant, ac yn dysgu Cymraeg er mwyn cefnogi ei phlant drwy addysg Gymraeg, y coleg a’r brifysgol.