Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Sharon Lovell (SL) (Cadeirydd)
  • Simon Stewart (SSt)
  • Kelly Harris (KH)
  • Marco Gil-Cervantes (MG)
  • Sian Elen Tomos (ST)
  • Deb Austin (DA)
  • David Williams (DW)
  • Joanne Sims (JS)
  • Shahinoor Alom (SA)
  • Lowri Jones (LJ)
  • Hannah Wharf, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cefnogaeth i Ddysgwyr, Llywodraeth Cymru (HW)
  • Dyfan Evans, Pennaeth y Gangen Ymgysylltu ag Ieuenctid, Llywodraeth Cymru (DE)
  • Donna Robins, Uwch-reolwr Strategaeth Gwaith Ieuenctid, Llywodraeth Cymru (DR)
  • Dareth Edwards, Uwch-reolwr Strategaeth Gwaith Ieuenctid, Llywodraeth Cymru (DaE)
  • Victoria Allen, Rheolwr Strategaeth Gwaith Ieuenctid, Llywodraeth Cymru (VA)
  • Kirsty Harrington, Rheolwr Strategaeth Gwaith Ieuenctid, Llywodraeth Cymru (KHa)

Gwrthdaro buddiannau

Dim i’w ddatgan.

Y Pwyllgor Pobl Ifanc ac ymgysylltu â phobl ifanc

Bydd y trefniant cytundebol presennol â Thîm Cymorth Ieuenctid Ethnig, Llamau ac Urdd Gobaith Cymru i gydlynu'r Pwyllgor Pobl Ifanc yn dod i ben ym mis Gorffennaf 2023. Bydd y gwersi allweddol a ddysgwyd yn cael eu rhannu gydag aelodau'r Bwrdd ar ôl derbyn adroddiad diwedd y contract.

Gwahoddwyd derbynwyr y Grant Mudiadau Gwaith Ieuenctid Gwirfoddol Strategol (sefydliadau gwirfoddol) a'r Grant Cymorth Ieuenctid (awdurdodau lleol) i wneud cais am gyllid ychwanegol i ymestyn y gwaith presennol i gynnwys pobl ifanc wrth ddylunio a darparu gwasanaethau ac i dreialu dulliau newydd o wneud hyn. Bydd nifer o fentrau peilot bach yn cael eu hariannu i archwilio a gwerthuso mecanweithiau amgen ar gyfer cyd-greu gwirioneddol i lywio datblygiadau yn y dyfodol. Bydd y rhain yn cynnwys prosiectau allgymorth ar y stryd, hystings, ymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol un mater a fforymau ieuenctid mwy traddodiadol i ddal llais ystod amrywiol o bobl ifanc.

Cyfeiriodd DA at waith tebyg sy’n cael ei wneud yn y sector iechyd mewn partneriaeth â'r Comisiynydd Plant sy'n cynnwys ystyried sut y gellid integreiddio hyn â chymhwyster Bagloriaeth Cymru.

Pwynt Gweithredu 1: Gofynnodd SL i gyd-gadeiryddion sy'n gadael y Pwyllgor Pobl Ifanc gael diolch ffurfiol am eu cyfraniad i waith y Bwrdd.

Pwynt Gweithredu 2: Gofynnwyd i aelodau'r Bwrdd ystyried cyfleoedd i brif ffrydio cyfranogiad pobl ifanc ar draws pob ffrwd waith.

Pwynt Gweithredu 3: VA i drefnu cyfarfod pellach gyda SL a KH, fel Cadeirydd Grŵp Cyfranogiad Gweithredu Mae Pobl Ifanc yn Ffynnu, i bennu’r camau nesaf.

Cyfarfod 18 Ebrill 2023: cofnodion a chamau gweithredu

Adolygwyd y cynnydd a wnaed ar y camau gweithredu o'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Ebrill 2023.

Cynllun gweithredu

Manylodd swyddogion Llywodraeth Cymru ar eu dull gweithredu arfaethedig ar gyfer datblygu Cynllun Gweithredu. Byddai'r Cynllun yn gweithredu fel trywydd ar gyfer y sector, gan nodi'r camau allweddol i'w cymryd i ddatblygu a bwrw ymlaen ag argymhellion y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro. Byddai'r cynlluniau gwaith sy'n cael eu datblygu ar hyn o bryd gan y pum Grŵp Cyfranogiad Gweithredu yn cyfrannu at ddatblygiad y Cynllun Gweithredu cyffredinol hwn.

Cynigiodd swyddogion Llywodraeth Cymru fod y cynlluniau gwaith hyn, a'r gwaith cyflwyno cyffredinol, yn cael eu paratoi dros yr haf er mwyn eu cyhoeddi yn hydref 2023.

Gofynnodd DW am ystyried datblygu deunyddiau cyfeillgar i bobl ifanc (gan gynnwys deunyddiau gweledol o bosibl) i gyd-fynd â'r Cynllun manylach.

I gyd-fynd â datblygiad y Cynllun Gweithredu, roedd aelodau'r Bwrdd hefyd yn awyddus i sefydlu strwythur i rannu diweddariadau rheolaidd ar waith y Bwrdd gyda'r sector a rhanddeiliaid ehangach ac aelodau unigol o'r Bwrdd. Bu'r Bwrdd hefyd yn trafod cyfleoedd eraill, gan gynnwys ymgysylltu ar-lein, i rannu'r wybodaeth ddiweddaraf gyda rhanddeiliaid a darparu cyfleoedd i drafod y gwaith.

Pwynt Gweithredu 4: Gofynnwyd i aelodau'r Bwrdd sy'n cadeirio'r Grwpiau Cyfranogiad Gweithredu weithio gyda'u grwpiau i ddrafftio cynlluniau gwaith erbyn 21 Gorffennaf, er mwyn galluogi swyddogion i ymgorffori'r wybodaeth hon yn y Cynllun Gweithredu, a fydd yn cael ei ddrafftio dros yr haf.

Pwynt Gweithredu 5: Bydd swyddogion yn sefydlu mecanwaith i gasglu, llunio a dosbarthu diweddariadau rheolaidd gan y Bwrdd i randdeiliaid.

Pwynt Gweithredu 6: KHa i gydlynu datblygiad deunyddiau craidd, er enghraifft sleidiau cyflwyno, i grynhoi gwaith y Bwrdd.

Corff cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau gwaith ieuenctid

Nododd DR gefndir argymhelliad y Bwrdd Dros Dro i sefydlu corff cenedlaethol ar gyfer gwaith ieuenctid ac amlinellodd y meysydd allweddol i'w hystyried gan aelodau'r Bwrdd fel rhan o gam nesaf y gwaith hwn.

Trafododd yr Aelodau nifer o agweddau y byddai angen eu hystyried wrth ddatblygu'r argymhelliad hwn, gan gynnwys cylch gwaith posibl corff cenedlaethol. Cytunodd y Bwrdd fod ymgysylltu â'r sector wrth i'r gwaith fynd rhagddo yn hanfodol gan eu bod yn ymwybodol bod safbwyntiau ar ddatblygiad corff o'r fath yn amrywio'n sylweddol. Trafodwyd yr adolygiad ariannu annibynnol hefyd, a'i gysylltiad â'r gwaith hwn. Cydnabu DR bwysigrwydd edrych ar y rhain ochr yn ochr, ond y byddai cylch gwaith corff yn llywio ei faint a’i strwythur ac felly roedd yn bwysig canolbwyntio ar hyn fel cam nesaf.

Dywedodd DR fod gwaith eisoes ar y gweill i ystyried cyrff eraill sydd wedi'u sefydlu gan Lywodraeth Cymru fel ffordd o gael cipolwg ar arfer gorau a dulliau gweithredu y gellir eu bwydo i'r gwaith hwn maes o law.

Pwynt gweithredu 7: KHa i drefnu cyfarfod o’r Bwrdd i ganolbwyntio'n benodol ar gylch gwaith corff cenedlaethol posibl.

Unrhyw fater arall (UFA)

Rhoddodd KHa ddiweddariad ar y trefniadau ar gyfer Wythnos Gwaith Ieuenctid (23 i 30 Mehefin 2023) fel rhan o weithgarwch marchnata ac ymgysylltu ehangach.

Rhoddodd DE yr wybodaeth ddiweddaraf am ddyraniadau'r gyllideb, ac unwaith eto gwahoddodd y Bwrdd i gysylltu ag ef gydag unrhyw gwestiynau am hyn.

Cynhelir cyfarfod nesaf y Bwrdd ar 14 Medi 2023, a fydd yn canolbwyntio'n bennaf ar drafodaeth fanylach ar gorff cenedlaethol posibl ar gyfer gwasanaethau gwaith ieuenctid.

Er bod aelodaeth y pum Grŵp Cyfranogiad Gweithredu bellach wedi'u cadarnhau, trafododd y Bwrdd y cyfle i wahodd unigolion eraill i gymryd rhan mewn trafodaethau yn nes ymlaen. Cytunwyd y dylid ystyried hyn wrth i'r gwaith fynd rhagddo.

Pwynt Gweithredu 8: Aelodau'r Bwrdd i barhau i ystyried aelodaeth y Grwpiau Cyfranogiad Gweithredu wrth i'r gwaith fynd rhagddo a chynnig cyfleoedd i aelodau newydd ymuno fel y bo'n briodol.