Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Sharon Lovell (SL) (Cadeirydd)
  • Simon Stewart (SSt)
  • David Williams (DW)
  • Joanne Sims (JS)
  • Lowri Jones (LJ)
  • Sian Elen Tomos (ST)
  • Marco Gil-Cervantes (MG) 
  • Shahinoor Alom (SA)
  • Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg (eitem 3)
  • Rocio Cifuentes, Comisiynydd Plant Cymru.(eitem 5)
  • Freya Reynolds-Feeney, Cynghorydd Polisi, Comisiynydd Plant Cymru (eitem 5)
  • Hannah Wharf, Dirprwy Gyfarwyddwr, yr Is-adran Cymorth i Ddysgwyr (LlC) (HW)
  • Dyfan Evans, Pennaeth Cangen Ymgysylltu â Phobl Ifanc, Llywodraeth Cymru (LlC) (DE)
  • Dareth Edwards, Uwch Reolwr Strategaeth Gwaith Ieuenctid, Llywodraeth Cymru (DaE)
  • Gethin Jones, Uwch Reolwr Strategaeth Gwaith Ieuenctid, Llywodraeth Cymru (GJ)
  • Victoria Allen, Rheolwr Strategaeth Gwaith Ieuenctid, Llywodraeth Cymru (VA)
  • Donna Robins, Uwch Reolwr Strategaeth Gwaith Ieuenctid, Llywodraeth Cymru (DR)
  • Sarah Jarrold, Rheolwr Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid (SJ)
  • Kirsty Harrington, Rheolwr Polisi Gwaith Ieuenctid, Llywodraeth Cymru (KHa)
  • Tom Kitschker, Swyddog Cymorth Tîm Cefnogi Dysgwyr (TK)
  • Umaira Chaudhary, Swyddog Gwybodaeth Gwaith Ieuenctid, Llywodraeth Cymru (UC)

Gwrthdaro buddiannau

Dim wedi ei ddatgan.

Cyfarfod 30 Tachwedd 2023: cofnodion a chamau gweithredu

Cymeradwyodd y Bwrdd y cofnodion a'r camau gweithredu o'r cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 30 Tachwedd 2023. Adolygwyd cynnydd ar gamau gweithredu, gan gynnwys diweddariad ar waith sydd ar y gweill gan Estyn a CGA i roi rhagor o fanylion am yr aliniad rhwng y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid a Fframwaith Arolygu Estyn ar gyfer gwaith ieuenctid.

Mynychwr gwadd: Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Ymunodd y Gweinidog â'r cyfarfod ar gyfer yr eitem hon.  Rhoddodd SL grynodeb o gynnydd y Bwrdd hyd yma, gan gynnwys gwaith y pum Grŵp Cyfranogiad Gweithredu (IPGs) a diolchodd i'r Gweinidog am y gefnogaeth barhaus a'i ddatganiad diweddar yn gosod blaenoriaethau clir ar gyfer y flwyddyn i ddod. 

Diolchodd y Gweinidog i'r Bwrdd am eu hymrwymiad i godi proffil gwaith ieuenctid yng Nghymru a chroesawodd y cynnydd a wnaed yn erbyn argymhellion y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro.   

Trafodwyd cyfleoedd i feithrin cysylltiadau agosach rhwng gwaith ieuenctid a rhannau eraill o'r sector addysg, gan gynnwys rhaglenni datblygu'r gweithlu megis y rhaglen Gradd Meistr Genedlaethol mewn Addysg. 

Cam gweithredu 1: Gofynnodd y Gweinidog i Swyddogion edrych am gyfleoedd i gryfhau'r cysylltiadau rhwng gwaith ieuenctid a rhaglenni i gefnogi'r gweithlu addysg ehangach, gan gynnwys y rhaglen Gradd Meistr Genedlaethol mewn Addysg.

Crynodeb o'r blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn i ddod a nodi cysylltiadau

Amlinellodd swyddogion ac aelodau'r Bwrdd y camau allweddol ar gyfer y flwyddyn i ddod ar draws y tri maes â blaenoriaeth yn natganiad diweddar y Gweinidog – cryfhau'r sail ddeddfwriaethol ar gyfer gwaith ieuenctid, ymgymryd â gwaith i archwilio'r posibilrwydd o gael corff cenedlaethol  ar gyfer gwaith ieuenctid, a'r adolygiad annibynnol o gyllid ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru - yn ogystal â'r pum maes IPG. Amcan y drafodaeth hon oedd edrych am aliniad rhwng ffrydiau gwaith unigol a nodi cyfleoedd i ymgysylltu â phobl ifanc wrth ddatblygu'r camau hyn. 

Cryfhau'r sail ddeddfwriaethol ar gyfer gwaith ieuenctid

Y camau allweddol ar gyfer 2024 yn y ffrwd waith hon fydd:

  • ymgysylltu strwythuredig â'r sector gwaith ieuenctid, pobl ifanc a rhanddeiliaid ehangach i lywio'r gwaith o ddatblygu canllawiau a chyfarwyddiadau statudol drafft. 
  • cydlynu'r broses ymgynghori ffurfiol sy'n ofynnol ar gyfer is-ddeddfwriaeth newydd. 
  • adolygu cynnwys cyfarwyddiadau a chanllawiau gan ddefnyddio'r gwersi allweddol a ddysgwyd o'r ymatebion i'r ymgynghoriad a thystiolaeth arall a gasglwyd gan randdeiliaid

Fel rhan o'r gwaith ymgysylltu sydd eisoes ar y gweill, rhannodd swyddogion ganfyddiadau'r sesiynau 'Awr Rymuso' a gynhaliwyd gydag ymarferwyr yn ystod 2023. 

Cam gweithredu 2: Bydd trafodaethau cyfarfod Bwrdd mis Mawrth yn canolbwyntio'n bennaf ar gamau i gryfhau'r sail ddeddfwriaethol ar gyfer gwaith ieuenctid. 

Corff cenedlaethol ar gyfer gwaith ieuenctid 

Y camau allweddol ar gyfer 2024 yn y ffrwd waith hon fydd: 

  • cydweithio â rhanddeiliaid i ddatblygu cylch gwaith cychwynnol i gorff cenedlaethol posibl ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru.
  • ystyried rôl corff o'r fath, a pha swyddogaethau, cyllid a phwerau y gallai fod angen iddo eu cael. 
  • nodi cysylltiadau/dibyniaethau â ffrydiau gwaith eraill

Adolygiad annibynnol o gyllid ar gyfer gwaith ieuenctid

Y camau allweddol ar gyfer 2024 yn y ffrwd waith hon fydd:

  • cwblhau Cam 2 yr adolygiad i dynnu tystiolaeth o'r cyllid sydd ar gael, sut mae'r cyllid hwnnw'n cael ei wario, a'r atebolrwydd y tu ôl i'r penderfyniadau hynny (erbyn mis Mawrth 2024). 
  • cwblhau Cam 3 yr adolygiad, a fydd yn anelu at ddarparu dadansoddiad o'r costau a'r manteision er mwyn mesur manteision gwaith ieuenctid o ran ei effaith ar bobl ifanc a'r gymdeithas ehangach (erbyn Gorffennaf 2024).
  • ystyried tystiolaeth a gasglwyd drwy'r adolygiad a sut mae'n effeithio ar waith arall mewn perthynas ag argymhellion y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro

Mae pobl ifanc yn ffynnu

Y camau allweddol ar gyfer 2024 yn y ffrwd waith hon fydd: 

  • sicrhau mai'r Grŵp Cyfranogiad 'Mae Pobl Ifanc yn Ffynnu' fydd yn gweithredu bellach fel prif sianel ar gyfer ymgysylltu â phobl ifanc ar draws pob ffrwd waith. 
  • adeiladu tystiolaeth ynghylch strwythurau cyfranogiad a llywodraethu ieuenctid presennol l
  • ymgysylltu â'r sector wrth lunio strwythur llywodraethu dan arweiniad ieuenctid i Gymru drwy weminar a digwyddiad dilynol

Cytunodd y Bwrdd y byddai'r Grŵp Cyfranogiad Mae Pobl Ifanc yn Ffynnu yn arwain ar sicrhau bod amrywiaeth o gyfleoedd yn cael eu creu i bobl ifanc gymryd rhan yng ngwaith y Bwrdd. 

Siaradodd aelodau'r Bwrdd am fodolaeth bosibl 'nenfwd gwydr' wrth ymgysylltu â  phobl ifanc, pwysigrwydd sicrhau bod pobl ifanc yn cymryd rhan ar bob lefel o ddatblygu polisi a bod mecanweithiau i gefnogi a grymuso pobl ifanc i gynrychioli eu hunain ar waith. 

Datblygu'r gweithlu

Y camau allweddol ar gyfer 2024 yn y ffrwd waith hon fydd: 

  • deall anghenion hyfforddi a datblygu'r sector yn well, gan gynnwys cynnal arolwg sgiliau ymarferwyr a sefydliadau a gynhelir yn gynnar yn 2024.
  • deall yn well yr arian sydd ar gael i gefnogi hyfforddiant a datblygiad y gweithlu. 
  • paratoi cynllun datblygu'r gweithlu drafft i helpu i lywio a chefnogi recriwtio, cadw, hyfforddi a datblygu'r gweithlu gwaith ieuenctid

Tynnodd JS sylw at bwysigrwydd codi proffil gwaith ieuenctid fel llwybr gyrfa proffesiynol.  Rhoddodd DR y wybodaeth ddiweddaraf am yr arolwg sgiliau sy'n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd. 

Bydd yr arolwg yn cael ei dreialu gan awdurdod lleol a mudiad gwirfoddol cyn cael ei roi i'r sector gwaith ieuenctid ehangach. Mae'r arolwg yn ceisio sefydlu sylfaen ar gyfer y sgiliau a'r cymwysterau sydd gan y sector ar hyn o bryd a sefydlu lle y gallai'r bylchau fodoli i helpu ymarferwyr gefnogi anghenion cynyddol gymhleth pobl ifanc. Bydd canlyniadau'r arolwg yn helpu i lywio blaenoriaethu unrhyw gymorth yn y dyfodol. 

Ymgysylltu strategol a chyfathrebu

Y camau allweddol ar gyfer 2024 yn y ffrwd waith hon fydd: 

  • meithrin cysylltiadau cryfach rhwng gwaith ieuenctid a sectorau eraill.
  • tynnu sylw at gydweithio rhwng gwaith ieuenctid ac addysg ffurfiol a chryfhau gweithio mewn partneriaeth yn y maes hwn.
  • mapio modelau llywodraethu sefydliadol a sut y gall y wybodaeth hon lywio gwaith i gryfhau'r sail ddeddfwriaethol ar gyfer gwaith ieuenctid a chwmpasu corff cenedlaethol posibl ar gyfer gwaith ieuenctid

Fel rhan o'r gwaith hwn, cyfeiriodd ST at y gwaith sydd ar y gweill i feithrin cysylltiadau agosach rhwng y sector gwaith ieuenctid a Byrddau Partneriaethau Rhanbarthol.

Gwybodaeth ieuenctid a digidol 

Y camau allweddol ar gyfer 2024 yn y ffrwd waith hon fydd:

  • ystyried sut y gallai cynllun hawliau person ifanc weithio yng Nghymru.
  • ystyried sut y gallai cyfnewidfa gwybodaeth ieuenctid i bobl ifanc weithio yng Nghymru. 
  • rhannu arfer da wrth ddefnyddio technoleg ddigidol fel rhan o ddarparu gwaith ieuenctid

Y Gymraeg

Y camau allweddol ar gyfer 2024 yn y ffrwd waith hon fydd:

  • mapio a dadansoddi data presennol ar ddarpariaeth a chynulleidfaoedd cyfrwng Cymraeg. 
  • adeiladu'r sylfaen dystiolaeth ynghylch y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg gyfredol 
  • cydweithio â ffrydiau gwaith eraill i gefnogi a datblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg

Mynychwr gwadd: Comisiynydd Plant Cymru

Ymunodd Comisiynydd Plant Cymru ac aelod o'i thîm â'r cyfarfod ar gyfer yr eitem hon.  Croesawodd SL hwy i'r cyfarfod a chyflwynodd aelodau'r Bwrdd.  Rhannodd y Comisiynydd ei blaenoriaethau presennol yn ogystal â'r gwaith sydd wedi'i gynllunio ar gyfer y flwyddyn i ddod a nododd y byddai'n croesawu cyfleoedd i gydweithio â'r Bwrdd. 

Mynegodd y Comisiynydd bryder ynghylch pa mor gyflym yr oedd y gwaith yn cael ei wneud ond croesawodd ddatganiad y Gweinidog ar y blaenoriaethau allweddol ar gyfer 2024.

Unrhyw fater arall

Cymeradwyodd y Bwrdd ddrafft diwygiedig o'r Cylch Gorchwyl i adlewyrchu bod y strwythur Pwyllgor Pobl Ifanc wedi dod i ben yn haf 2023.

Dyddiad y cyfarfod nesaf: 13 Mawrth 2024